成人VR视频

Fy ngwlad:

Lizzy Walker

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Rwy'n wreiddiol o gymuned ffermio fechan ger Llangollen, ond rydw i bellach yn byw ychydig y tu allan i Wrecsam. 

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Mae fy mhroject ymchwil yn edrych ar gyfranogiad merched oedd yn berchen neu鈥檔 dal tir yng ngogledd-ddwyrain Cymru o 1600 i 1800, gyda phwyslais ar eu gwaith rheoli a gwella tir ac amaethyddiaeth. Dechreuais fy PhD gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym mis Hydref 2022, ond fi oedd intern cyntaf erioed y Sefydliad yn 2018 hefyd.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Hanes merched, hanes Cymru, amaethyddiaeth, merched cefn gwlad, hanes cymdeithasol.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Ar 么l i mi adael y Post Brenhinol yn 2017, penderfynais ei bod hi鈥檔 amser mynd i鈥檙 brifysgol (ar 么l blynyddoedd o wrthod cydymffurfio 芒 dymuniadau fy nheulu).  Astudiais hanes Cymru gydag archaeoleg ym Mangor ar lefel israddedig.  Yn ystod fy ngradd israddedig y sylweddolais nad oedd llawer wedi'i ysgrifennu ar hanes merched yng Nghymru.  Fe wnaeth hyn, ynghyd 芒 sylweddoli fy mod i鈥檔 caru academia ac eisiau addysgu mewn Addysg Uwch, wneud i mi ganolbwyntio fy ymchwil ar hanes merched yng Nghymru, yn enwedig cyfranogiad merched mewn amaethyddiaeth.  Ar 么l fy ngradd israddedig, astudiais radd Meistr mewn hanes Cymru ym Mangor, a ddefnyddiais i osod y sylfeini ar gyfer fy ymchwil PhD ac ymuno 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Ymchwilydd Doethurol Lizzy yn sefyll o flaen baner ISWE.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Fy hoff beth am y Sefydliad yw鈥檙 garfan o ymchwilwyr doethurol a鈥檙 digwyddiadau y mae鈥檙 Sefydliad yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.  Mae鈥檙 digwyddiadau bob amser yn hwyl, ac mae鈥檔 rhoi鈥檙 cyfle i ni ddal i fyny 芒鈥檔 gilydd a鈥檔 projectau, gan ddarparu rhwydwaith cefnogaeth gwych.

Beth yw鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Eleni rhoddais bapur mewn cynhadledd 么l-radd hanes Cymru yng Nghaerdydd.  Roedd gallu rhannu fy ymchwil ac arwyddoc芒d tirfeddianwyr ymhlith y gymuned academaidd yng Nghymru yn wych, ac roedd yr ymateb cadarnhaol gan y gymuned academaidd i鈥檓 hymchwil yn galonogol iawn.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Fy hoff gyfnod hanesyddol yw'r ail ganrif ar bymtheg.  Hoffwn ddweud ei fod oherwydd ei fod yn gyfnod hynod ddiddorol o newid a helbul, ond mae鈥檔 llythrennol oherwydd bod gennyf ymlyniad rhyfedd, anesboniadwy i'r cyfnod.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Does dim un lle sy'n sefyll allan - fy hoff lefydd i yw i fyny yn unrhyw un o fynyddoedd Cymru ac ar y rhostir.  Gallwch ddod o hyd i dawelwch nad ydych chi'n ei ddarganfod yn unman arall, ac fe wnes i dyfu i fyny yn cerdded y bryniau a'r gweunydd yn hel defaid felly mae gen i gyswllt naturiol 芒'r ucheldiroedd.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Yn anffodus, dydw i ddim yn un am raglenni teledu, podlediadau, neu flogiau.  Ond fy hoff ddarlleniad yn ddiweddar oedd 鈥楨lite Women and the Agricultural Landscape鈥� gan Briony McDonagh, 1700-1830.  Byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn perthynas merched 芒 thir 芒 rheoli ystadau ac amaethyddiaeth.

Beth yw eich hob茂au neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Ar wah芒n i fy PhD, rwy鈥檔 aelod o bwyllgor blodau Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, felly rydw i鈥檔 treulio llawer o amser yn helpu i drefnu digwyddiadau codi arian amrywiol, yn ogystal 芒鈥檙 sefydlu a鈥檙 cynnal a chadw ar gyfer wythnos graidd yr Eisteddfod.  Fy menter ddiweddaraf ar gyfer y pwyllgor blodau yw gwneud cardiau croesbwyth blodau.  Rwyf hefyd yn ceisio cefnogi a chymryd rhan mewn projectau cymunedol a gynhelir gan Hwb Pentredwr (fy ffefryn oedd creu delwedd ffelt o'r tai lleol).  Ar hyn o bryd, rwyf hefyd wrthi鈥檔 trawsgrifio detholiad o ddogfennau hanesyddol ar gais perchennog preifat, ac yn wastad yn ceisio cynorthwyo unigolion gydag ymchwil hanes teuluol.  Mae gweddill fy amser yn cael ei dreulio gyda fy nau blentyn, sydd wrth eu bodd yn mynd i gerdded ac archwilio llefydd hanesyddol gyda mi.

Cysylltwch 芒 Lizzy: 

hiuab2@bangor.ac.uk