O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? De Llundain a Gogledd Cymru. Treuliais hafau yn Sir Ddinbych pan oeddwn i'n blentyn a symudais i fyw'n barhaol ym Mlaenau Ffestiniog yn 2020.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Crefydd, cymuned a thenantiaeth. Strwythurau perthynas yn Ysbyty Ifan 1851-1921.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Hanes cymdeithasol yw fy mhrif ddiddordeb ymchwil, gyda ffocws ar brofiadau pobl gwledig yn ystod oes Fictoria, yn enwedig yn rhanbarthau Gogledd-orllewin Cymru.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol?
Mae fy ngefndir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ond dwi wedi bod yn ysu i wneud ymchwil hanesyddol ers i mi weithio ar gyfer pecynnwr llyfrau ar ddechrau'r 1990au. Wrth fagu fy merch, roeddwn i eisiau gwella fy siawns o gael swydd roeddwn i wir yn ei mwynhau, felly cofrestrais gyda'r Brifysgol Agored. Roedd gen i ddiddordeb cynnar iawn mewn hanes Tuduraidd a Fictoraidd, oherwydd ces i fy magu'n agos iawn i Hampton Court, ac ro'n i'n aml yn ymweld 芒 pherthnasau ger Pont Llundain, felly'n ymddiddori mewn Llundain Dickens. Er gwaethaf fy niddordeb brwd mewn hanes, nid oedd gennyf unrhyw gymhwyster i adlewyrchu hyn, felly penderfyniais wneud gradd hanes.
Graddiais yn 2018, gan gwblhau'r modiwl Hanes Cymru newydd sbon. Roeddwn i wedi bod yn astudio fy nghoeden deulu ers rhai blynyddoedd, felly defnyddiais y data a gasglais i gwblhau fy nhraethawd hir ar hunaniaeth Gymreig, pwnc yr oeddwn i'n teimlo oedd ar goll o'r modiwl. Cefais ymateb positif i'r darn o waith yma a ches i fy ngwahodd i draddodi darlith ym Mhrifysgol De Cymru gyda graddedigion llwyddiannus eraill o'r Brifysgol Agored. Ar 么l y profiad yma, ro'n i'n sicr fy mod i'n barod i barhau 芒 MA Hanes Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, a gwblheuais yn 2020.
Yn ddiweddar gofynnwyd i mi gynorthwyo gyda phrosiect ym mhentref fy nheulu, sef Ysbyty Ifan, lle treuliais hafau fy mhlentyndod. Trwy'r prosiect 'Hafan Ifan', mae'r gymuned yn gobeithio amddiffyn a sicrhau dyfodol i eglwys Sant Ioan yn y pentref. Bydd y gwaith rwy'n ei wneud yn ystod PhD yn adrodd stori am gymuned sy'n cydweithio i oroesi.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae ymchwilio i hanes Cymru gyda phobl sydd 芒 diddordeb mewn dod 芒'r diwylliant, ac yn aml digwyddiadau sy'n cael eu anghofio, i gynulleidfa ehangach yn wirioneddol ysbrydoledig. Dwi'n gwneud darganfyddiad newydd bob dydd!
Beth yw鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Mae'n ddyddiau cynnar ond rydw i'n rhannu fy mhrosiect gyda chyd-ymchwilwyr ac yn cael adborth gwych wrth ddarganfod them芒u eu gwaith nhw hefyd, sydd yr un mor ddiddorol.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Mae gen i ddiddordeb mewn hanes cymdeithasol, yn bennaf profiad pobl dosbarth gweithiol a sut y cafodd eu effeithio gan ddigwyddiadau byd-eang, metropolitan a chymunedol. Fy mhrif ddiddordeb yw hanes gwledig y 18fed a 19eg ganrif, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Rwy'n caru Sir Feirionnydd, ei phobl, ei hanes, ei thirwedd ac mae'n gartref i mi am y rhesymau hyn.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Er gwaethaf teitl a allai fod yn ddeniadol i rai, roedd Killing Thatcher yn lyfr a ddaliodd fy sylw drwyddo draw, gyda naratif addysgiadol oedd yn disgrifio digwyddiadau cymhleth. Ond mae hefyd yn lyfr sydd yn y pen draw yn dyst i b诺er goresgyn gwendidau dynol a maddeuant. Rwyf hefyd yn gwrando ar bodlediad Armando Iannucci, 'Strong Message Here', am y defnydd o iaith wleidyddol.
Beth yw eich hob茂au neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Rwy'n DJ yn fy amser sb芒r, ar 么l dysgu cymysgu flynyddoedd lawer yn 么l. Mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd erioed. Mae'n tawelu fy enaid ac yn fy nghadw i'n canolbwyntio. Rwyf hefyd yn rhan o brosiect ysgrifennu/mapio cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog sy'n fy nghadw i mewn cysylltiad 芒'r bobl leol.
Cysylltwch 芒 Lucinda:
lcw18ggj@bangor.ac.uk