成人VR视频

Fy ngwlad:

Menywod ac Ystadau

Paradeimau Patriarchaidd? Rolau a Phrofiadau Menywod ar Ystadau Cymru

Paentiad dyfrlliw o ddynes yn gwisgo dillad glas a het ddu.

Ar 25 Tachwedd 2018, roedd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Archif Menywod Cymru a Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin i gynnal cynhadledd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar fywydau menywod yn hanes ystadau Cymru.

Chwaraeodd menywod ran hollbwysig ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol ystadau Cymru. Trwy eu rolau a鈥檜 rhwydweithiau teuluol, ac fel tirfeddianwyr yn eu rhinwedd eu hunain, aeresau, noddwyr diwylliannol, gweision domestig, tenantiaid a gweithwyr amaethyddol, roedd menywod yn ganolog i weithrediad ystadau a phlastai. Roeddent yn aml yn dylanwadu'n fawr ar hunaniaeth a ffawd ystadau unigol, a gallent chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio natur y rhyngweithio rhwng y plasty, cymunedau lleol ac agweddau ehangach ar gymdeithas. Mae bywgraffiadau a llwyddiannau rhyfeddol menywod bonedd fel Arglwyddes Llanofer, y chwiorydd Davies o Gregynog, Catrin o Ferain a 鈥楳erched Llangollen鈥� yn cael eu cydnabod fwyfwy fel rhannau pwysig o stori Cymru. Yn yr un modd, mae鈥檙 diddordeb eang mewn hanes teuluol dros y ddegawd ddiwethaf wedi chwarae ei ran wrth feithrin adnabyddiaeth o fywydau鈥檙 miloedd o fenywod a gyflogwyd fel gweision domestig 鈥� morynion, cogyddion, ceidwaid t欧, merched char a nyrsys gwlyb 鈥� mewn plasdai. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae cyfraniadau menywod i rolau ac effeithiau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol eang ystadau yng Nghymru wedi鈥檜 hanwybyddu鈥檔 ddifrifol gan yr hanesyddiaeth sefydledig, sy鈥檔 tueddu i gael ei dominyddu gan bortreadau o鈥檙 profiad patriarchaidd.

Sefydlwyd y gynhadledd undydd hon i helpu i unioni'r fantol. Ei nod oedd sefydlu ffr芒mwaith ar gyfer ymchwil y genhedlaeth nesaf i sut y gall profiadau merched gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cynhwysfawr o hanes, diwylliant a thirweddau Cymru.

Roedd y gynhadledd yn rhan o ddathliad penwythnos ac archwiliad o brofiadau a chyfraniadau menywod ar yst芒d Neuadd Middleton yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys bywyd y swffrag茅t Alice Abadam (1856-1940).

Roedd y rhaglen yn cynnwys y papurau canlynol:

Sesiwn 1: Rhyw, Llenyddiaeth a Hunaniaeth

  • Dr. Mary Chadwick:  Th鈥� Industrious Fair: Women and Wales in 18th century poetry.
  • Yr Athro Kirsti Bohata:  Poaching & Privilege: Landed gentry, class and gender in Welsh writing in English.

Sesiwn 2: Gerddi, Tirweddau a Chasgliadau

  • Jennie Eyers: Penllergare 鈥� Plants and Prisms.
  • Dr. Jean Reader: 鈥�Though a lady, her agricultural knowledge and practice far exceeds that of any man in the county鈥�: an examination of the way in which Anne Evans ran the Highmead estate, Cardiganshire, in the late-18thcentury.
  • Dr. Ffion Mair Jones: 'Virtuosa o'r wraig鈥�': Arglwyddesau M么n fel casglwyr sbesimenau yn y ddeunawfed ganrif.

Sesiwn 3: Boneddigesau yng Nghymru Fodern Gynnar

  • Sadie Jarrett: 鈥楴o stranger to her business鈥�: Gentry women with agency on the Rhug and Bachymbyd estates.
  • Helen Williams-Ellis: Catrin o Ferain: 鈥楳am Cymru鈥�.

Sesiwn 4: Ail-ddehongli plastai a'u casgliadau

  • Heddwen Cadwallader & Rachel Hedge: 鈥楶etticoats of Power鈥�: A celebration of the women of Llanerchaeron.
     

Cafodd y gynhadledd yr effaith o drwytho ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru 芒 safbwyntiau a phersonoliaethau merched, ac ysbrydolodd sawl prosiect a menter, gan gynnwys arddangosfa yn Storiel yn canolbwyntio ar fywyd a chasgliadau Elizabeth Morgan o Henblas (a gydlynwyd gan Mary Gwynedd Jones), ymgysylltu agos gyda gweithgareddau Archif Menywod Cymru, a鈥檔 prosiect catalogio o ohebiaeth y Fonesig Augusta Mostyn.