Dr Adam Coward, 'Plas a'r Dref: Effaith Teulu y Vane-Tempests ym Machynlleth' (11eg Gorffennaf 2024)
Gwahoddir pawb i Y Plas ym Machynlleth, ar dydd Iau yr 11eg o Orffennaf, gan y bydd Dr Adam Coward yn cyflwyno papur yn archwilio hanes Machynlleth yn ystod cyfnod Fictoria, a edrych ar ddylanwad parhaol un teulu pennodol ar wyneb y dref.
Gyda鈥檙 teitl 'Plas a'r Dref: Effaith Teulu Vane-Tempest ym Machynlleth', bydd Adam yn edrych ar stori George Henry Vane-Tempest, 5ed Marcwis Londonderry, ei wraig Mary Cornelia, a'r effaith sylweddol a gafodd eu teulu ar Fachynlleth. a'i amgylchedd adeiledig yn y cyfnod modern.
Mae Dr Adam N. Coward yn hanesydd annibynnol sydd wedi cyhoeddi鈥檔 helaeth ar hanes Cymru鈥檙 ddeunawfed ganrif a鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae鈥檔 gweithio i Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Ar ben hynny, mae鈥檔 gyfaill hir Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymreig (ISWE), ar 么l gweithio鈥檔 agos gyda llawer o鈥檔 haelodau ar nifer o brosiectau, tra hefyd yn cydweithio鈥檔 helaeth 芒鈥檙 Ganolfan Astudio Tai Hanesyddol Gwyddelig ac Ystadau (CSHIHE) ym Mhrifysgol Maynooth, gan felly ddarparu cyswllt amhrisiadwy rhwng y ddau Sefydliad. Yn fwyaf diweddar mae Adam wedi cynnal dau brosiect ymarfer cwmpasu hynod ddiddorol a hanfodol bwysig ar gyfer ISWE, CHSHIHE a phartneriaid eraill, sydd wedi datgelu cysylltiadau hanesyddol arwyddocaol sy鈥檔 bodoli rhwng Ystadau Cymru ac Iwerddon. Yn wir, mae鈥檙 gwaith hwn yn rhan o brosiect hirdymor a luniwyd gan Adam er mwyn amlygu鈥檙 cysylltiadau hollbwysig yma drwy wahanol deuluoedd tirfeddiannol, lle mae鈥檙 yst芒d Londonderry ond yn un enghraifft o lu o gysylltiadau economaidd, gwleidyddol a diwylliannol arwyddocaol rhwng aristocratiaeth y ddwy genedl.
Mae darlith Adam yn rhan o ddigwyddiadau Cyngor Tref Machynlleth sy鈥檔 dathlu 150 mlynedd ers codi鈥檙 T诺r Cloc enwog, heb os nac oni bai, cyfraniad gweledol mwyaf parhaol y teulu Vane-Tempest i dirwedd y dref. Yn unol 芒 hynny, bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar yr effaith fawr a gafodd yst芒d y teulu ym Maldwyn a Meirionnydd, ac, yn arbennig, ar gymuned Machynlleth, gan archwilio鈥檙 dylanwad ar y dref, a鈥檙 cymynroddion parhaol gadawsantmewn ffurf adeiladau, sefydliadau, ac enwau lleoedd, gan gynnwys, yn ddiddorol, un o'r unig gerfluniau cyhoeddus o Gymraes a enwir yng Nghymru.
Mae鈥檙 dathliadau yn dechrau am 3yh, gydag Adam yn siarad am 3.30yh. Mae tocynnau ar gael o鈥檙 dderbynfa yn Y Plas, ac yn costio 拢7.50, sy鈥檔 cynnwys llu o frechdanau, cacennau a chyflenwad ddiddiwedd o ddiodydd poeth! Cynghorir y rhai sy鈥檔 dymuno mynychu i frysio, fodd bynnag, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn, sy鈥檔 argoeli i fod yn archwiliad hynod ddiddorol o鈥檙 stori anhysbys hyd yn hyn o effaith Yst芒d Londonderry ar un o drefi hollbwysig y Fro Gymraeg.
Y Plas (8yb鈥�4yh)
Stryd Pentrerhedyn,
Machynlleth,
SY20 8ER
Rhif Ffon: 01654 702571