Modiwl newydd yn rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr Ailddehongli鈥檙 T欧 Gwledig
Ym mis Medi roeddem wrth ein bodd yn lansio modiwl MA newydd ym Mhrifysgol Bangor o'r enw 鈥楢il-ddehongli鈥檙 Plasty: Archifau, Dehongli a Hanesion Cymru鈥�.
Modiwl dewisol i fyfyrwyr ar ein rhaglenni MA Treftadaeth Fyd-eang, Hanes a Hanes Cymru, cafodd y modiwl ei gyd-gynllunio gan Dr Lowri Ann Rees a Dr Shaun Evans i roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu o waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a chyfrannu ato.
Gyda sesiynau pwrpasol ar them芒u fel tirwedd, diwylliant materol, llyfrgelloedd, hanes menywod, cysylltiadau trefedigaethol a hanes cymdeithasol, mae'r cwrs yn annog myfyrwyr i archwilio'r ymchwil ddiweddaraf mewn diwylliant bonedd, ystadau gwledig a'r plasty, ac arfer gorau mewn ymgysylltu 芒'r cyhoedd a dehongli treftadaeth.
鈥樷�榊r hyn a鈥檓 denodd at y modiwl hwn oedd ehangder y dysgu a鈥檙 pynciau a gwmpesir o fewn hanes plasty Cymru,鈥欌�� eglurodd Rose Horton-Smith, un o鈥檙 myfyrwyr MA s'yn cymryd y modiwl. 鈥樷�楳ae dysgu am gylch gwaith ehangach yr yst芒d, y plasty a鈥檙 rhai a oedd yn byw ac yn gweithio yno o ddiddordeb mawr i mi. Sut roedd y plasty鈥檔 ffitio i ddiwylliant, cymdeithas a thirwedd Cymru oedd y prif reswm dros gymryd y modiwl.鈥欌��
Mae'r rhan fwyaf o'r sesiynau'n digwydd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, un o'r prif ystorfeydd yn Ewrop ar gyfer cofnodion teuluoedd ac ystadau gwledig, gyda thripiau ychwanegol i safleoedd treftadaeth cyfagos megis Castell Penrhyn. Mae archifau ac ymchwil archifol yn rhannau craidd o'r modiwl.
Un o brif amcanion y modiwl yw rhoi鈥檙 sgiliau i fyfyrwyr greu dehongliad treftadaeth o ansawdd uchel yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol i archifau, casgliadau a thirweddau.
Ar gyfer yr asesiad, gofynnir i fyfyrwyr ddylunio a chyflwyno 鈥榶myrraeth dehongli鈥�, yn seiliedig ar ymchwil sylfaenol ac arfer gorau treftadaeth. Drwy鈥檙 'ymyriadau' hyn rydym yn rhagweld y bydd y modiwl yn cyfrannu at ddealltwriaeth gyfoethog o鈥檙 hanesion cymhleth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phlastai a chymunedau ystadau Cymru.
I ddarganfod mwy am y modiwl a chyfleoedd MA ym Mhrifysgol Bangor cysylltwch 芒 chynullydd y modiwl Dr Shaun Evans (shaun.evans@bangor.ac.uk).