Pam fod tai hanesyddol a鈥檜 tirweddau cysylltiedig yn bwysig? Beth yw eu r么l yng Nghymru fodern? Beth allwn ni ei wneud i sicrhau eu bod yn cael eu cadw, eu bod yn berthnasol ac yn cael eu mwynhau yn y dyfodol?
Yn 2022-23, cawsom Wobr Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor (IIA), wnaeth caniat谩u i ni gydweithio 芒 Neuadd ac Ystad Gregynog i gynnal rhaglen o weithdai i ddod o hyd i atebion i鈥檙 cwestiynau hyn a thrafod dyfodol cynaliadwy ar gyfer tai hanesyddol yng Nghymru.
Roedd y pum gweithdy yn canolbwyntio ar them芒u:
1) Lle: gweledigaeth, brand a dehongliad
2) Cymunedau: cynulleidfaoedd, ymgysylltu a gwerth cymdeithasol
3) Stiwardiaeth: tirweddau, adeiladau ac amgylchedd
4) Profiadau: rhaglennu, lles ac arallgyfeirio
5) Yr yst芒d ddiwylliannol: dysgu, ysbrydoliaeth a chyfoethogi
Daeth y prosiect 芒 phartneriaid a chyfranogwyr o bob rhan o鈥檙 byd academaidd a鈥檙 sectorau tai hanesyddol, treftadaeth, amgylcheddol, diwylliannol a thwristiaeth yng Nghymru ynghyd i rannu a thrafod heriau a chyfleoedd yn ymwneud 芒 rheolaeth a dyfodol y safleoedd hyn.
Roedd y sefydliadau a gymerodd ran yn cynnwys:
- Historic Houses Association
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- CFP 鈥� Landscape & Heritage Consultants
- Gerddi Aberglasne
- Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai
- Haf Weighton 鈥� Artist Tecstilau
- Stad y Rhug
- Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Sefydliad Clough Williams-Ellis
- Parc Iscoyd
- Ymddiriedolaeth Gregynog
- Yst芒d Penpont
- Yst芒d Glanusk
- Keystone Heritage
- Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
- Rural Office Architecture
Gan amlaf, mae tai hanesyddol wedi鈥檜 'rhestri鈥�: sy'n gydnabyddiaeth ffurfiol o鈥檜 harwyddoc芒d pensaern茂ol neu hanesyddol a honiad y dylent gael eu diogelu a鈥檜 cadw ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol. Fodd bynnag, mae ymarferoldeb cynnal a chadw'r adeiladau hanesyddol hyn a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y safleoedd hyn yn her fawr i lawer o berchnogion a rheolwyr tai ac ystadau hanesyddol. Adeiladwyd y tai hyn yn ac ar gyfer oes wahanol; mae arloesi ac arallgyfeirio yn cael eu hannog gan dderbyniad na all y rhan fwyaf ohonynt weithredu'n gynaliadwy yn yr un modd ag oeddent cyn yr ugeinfed ganrif. Dim ots beth yw'r model perchnogaeth a rheolaeth (ac mae yna sawl model gwahanol), mae tai hanesyddol sydd ar agor i'r cyhoedd yn tueddi i cinnog mwy nag un peth: safle treftadaeth, cyrchfan i dwristiaid, digwyddiadau, gwesty, bwyty neu gaffi, gofod cymunedol, siop fferm; yn ogystal ag ystod o weithgareddau a defnyddiau sy'n gysylltiedig 芒'u parciau, gerddi a mannau awyr agored eraill. Nod y prosiect oedd meddwl am ffyrdd i sicrhau fod treftadaeth yn gynaliadwy o fewn y cyd-destun hwn, gyda ffocws penodol ar y sector yng Nghymru.
Nid yw dyfodol y safleoedd hyn yn ddiogel o bell ffordd. Cafodd y pandemig coronafeirws effaith ddifrifol ar y sector hwn, gan leihau mynediad cyhoeddus, digwyddiadau ar y safle a refeniw. Yn yr un modd, mae鈥檔 hawdd iawn anghofio鈥檙 nifer syfrdanol o blastai gwledig yng Nghymru a gafodd eu dymchwel neu eu gadael ar draws yr ugeinfed ganrif. Er gwaethaf llwyddiannau adfer calonogol y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o dai hanesyddol 鈥榤ewn perygl鈥� am amrywiaeth o resymau.
Cadarnhaodd y prosiect y gall tai hanesyddol a鈥檜 parciau a gerddi cyfagos fod yn yrwyr allweddol ar gyfer twristiaeth a gweithgaredd economaidd yn seiliedig ar dreftadaeth, gan gyfrannu鈥檔 sylweddol at fywyd diwylliannol eu hardaloedd. Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol yn darparu cyd-destun polisi hirdymor ar gyfer hyrwyddo鈥檙 amcanion hyn. Mae cynaliadwyedd y rhan fwyaf o dai hanesyddol yn gysylltiedig 芒鈥檙 rolau y maent yn eu cyflawni yn eu cymunedau ac ar eu cyfer. Mae gan dai hanesyddol yng Nghymru gyfleoedd i wneud a chynnig pethau sy鈥檔 cyfrannu鈥檔 sylweddol at lesiant o ran ffyniant, gwydnwch, iechyd, cymunedau cydlynol, bywiogrwydd diwylliannol a ffyniant yr iaith Gymraeg. Tynnodd y prosiect sylw at esiamplau llwyddiannus, syniadau, heriau, anghenion o fewn y sector a鈥檙 cyfleoedd ar gyfer arloesi.
Daeth y gweithdai 芒 gr诺p amrywiol o bartneriaid ynghyd a fydd yn gweithredu i sicrhau bod y safleoedd hyn yn chwarae rhan flaenllaw o fewn eu cymunedau i mewn i'r genhedlaeth nesaf.
Adroddiad Prosiect i Ddod.