Meysydd Ymchwil Allweddol
Microbioleg Amgylcheddol
Mae Prifysgol Bangor yn rhagori wrth archwilio i rôl micro-organebau (gan gynnwys bacteria, archaea, ffyngau a firysau) mewn ecosystemau amrywiol. Yma mae ymchwilwyr yn edrych ar ryngweithiadau a phrosesau microbaidd ac ar amrywiaeth ac ecoleg micro-organebau ar draws amgylcheddau morol, daearol a dŵr croyw. Mae eu hymchwil hefyd yn rhoi sylw manwl i’r strategaethau ymaddasol a'r mecanweithiau moleciwlaidd sy'n galluogi micro-organebau i oroesi a gweithredu mewn ystod eang o sefyllfaoedd amgylcheddol.
Microbioleg Feddygol
Mae'r brifysgol yn gwneud ymchwil i wella dealltwriaeth o bathogenau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd gan ddefnyddio technegau diagnostig a monitro arloesol.
Biotechnoleg
Mae ymchwil microbioleg Prifysgol Bangor hefyd yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio micro-organebau at ddibenion biodechnolegol, gan gynnwys datblygu biogynhyrchion, biodanwyddau a thechnegau bioadferiad newydd.
Genomeg Microbaidd
Gan ddefnyddio offer genomig arloesol, rydym yn ymchwilio i gyfansoddiad genetig micro-organebau, gan helpu i ddarganfod cymwysiadau a swyddogaethau posibl ar eu cyfer mewn amrywiol amgylcheddau.