Graddedigion Bangor yn lansio llwyfan fydd yn newid ein ffordd o ddysgu ieithoedd.
Mae dau o raddedigion Prifysgol Bangor wedi creu'r llwyfan dysgu iaith cyntaf sy'n seiliedig ar ddata, gan ddefnyddio grym gwyddor data.
Sefydlodd Josef Roberts a Simon Parry-Williams 'Pai Language Learning' yn M-SParc, ar Ynys M么n, yn 2019. Defnyddiodd y graddedigion busnes ddull seiliedig ar ddata o ddysgu iaith.
Mae'r brifysgol wedi cefnogi Josef a Simon yn eu menter trwy Byddwch Fentrus a chyllid gan Raglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Mae partneriaeth y brifysgol 芒 Santander Universities wedi rhoi cefnogaeth bellach i'r fenter newydd hon trwy ddarparu lle am ddim yn M-SParc a chyllid i'w galluogi i ddatblygu a phrofi eu syniadau busnes.
Meddai Josef 鈥淎r 么l ennill yr ysgoloriaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddysgu Mandarin yn Tsieina yn 17 oed, rydw i wedi treulio鈥檙 degawd diwethaf yn dysgu fy hun i siarad ieithoedd eraill. Rwy'n deall fy mod i'n ffodus fy mod yn gallu dysgu ieithoedd eraill yn eithaf hawdd, ac roeddwn eisiau rhoi cyfle i bobl eraill wneud yr un peth. Mae llwyfannau'n tueddu i ddechrau gyda'r geiriau hawsaf, yn hytrach na'r geiriau mwyaf cyffredin, sy'n golygu bod y broses o ddysgu sgwrsio yn yr iaith newydd yn mynd yn un hir. Trwy ddadansoddi casgliad enfawr o ddata testun mewn iaith benodol, gwelsom bod modd rhoi geirfa a gramadeg yn nhrefn amlder, fel y gall pobl ddysgu'r geiriau a'r ramadeg sy'n cael eu defnyddio amlaf, yn gyntaf. Trwy fonitro eich arddull dysgu wrth i chi ddefnyddio'r llwyfan, rydym yn gallu awgrymu'r ffordd orau i chi o ddysgu, gan wneud y broses yn fwy effeithlon.鈥�
Mae dull Pai Language Learning tuag at ddysgu yn seiliedig ar wyddor data. Mae'r ddau wedi bod yn gweithio'n galed ar adeiladu'r llwyfan ers mis Ebrill 2020. Er gwaethaf y pandemig coronafeirws, gwnaethant lwyddo i weithio 芒 Griffri Melville, datblygwr o Gymru, i baratoi'r llwyfan, a chaiff ei lansio cyn bo hir.
Meddai Josef 鈥淎r hyn o bryd rydym yn paratoi at ddechrau ymgyrch gyllido torfol ar Kickstarter er mwyn lansio'r llwyfan ym mis Ebrill, a chreu swyddi technoleg da ar Ynys M么n. Rydym yn falch, fel graddedigion Bangor, o allu gwneud hyn, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19. Roeddem yn bendant yn poeni y byddai'r pandemig yn ein rhwystro rhag lansio busnes fel hyn, ond gyda llawer o benderfyniad a llawer o help gan y brifysgol, M-SParc, ac eraill, byddwn yn gallu lansio a chreu swyddi yn fuan."
Meddai Simon 鈥淢ae wir yn teimlo鈥檔 wych adeiladu rhywbeth a fydd yn helpu鈥檙 Gymraeg, ac ieithoedd lleiafrifol eraill, a dod 芒 swyddi technolegol i鈥檙 ardal leol a dangos i鈥檙 byd nad oes rhaid i chi fod yn Silicon Valley i wneud hyn. Mae wedi bod yn llawer o waith dysgu, ond yn werth chweil, ac rydym yn gobeithio bydd y gymuned yn gallu ein cefnogi!鈥�
Meddai'r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi:
"Hoffwn longyfarch Pai Language Learning ar y cynnydd maent wedi ei wneud sydd, yn ei dro, yn dyst i dalent entrepreneuraidd ein myfyrwyr a'n graddedigion. Mae'n enghraifft wych o sut gall yr eco-system o gefnogaeth i gwmn茂au newydd rydym yn ei datblygu yn y brifysgol, sy'n cynnwys y Parc Gwyddoniaeth, Santander Universities a Llywodraeth Cymru, helpu cwmn茂au newydd i ddatblygu a ffynnu."
Wrth s么n am y gefnogaeth mae'r cwmni wedi ei chael, meddai Josef: 鈥淕wnaeth astudio am MBA mewn Busnes Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor wir roi'r sgiliau a'r hyder oedd eu hangen arnaf i sefydlu fy musnes. Cawsom lawer iawn o gefnogaeth gan y brifysgol ac eraill. Heb yr holl gefnogaeth hon, gan y brifysgol ac eraill, ni fyddem ar drothwy creu swyddi newydd yn yr ardal a helpu'r economi leol."
Caiff y llwyfan ei lansio gyda chyrsiau yn Gymraeg, Saesneg, Mandarin a Hindi, ac mae 110 o gyrsiau eraill ar y gweill. Mae Pai Language Learning yn llwyfan dysgu iaith ar sail data sydd yn anelu at newid y diwydiant dysgu iaith ar-lein trwy ddefnyddio gwyddor data. Trwy gyfuno'r dull hwn 芒 grymuso'r dysgwr i reoli ei brofiad dysgu ei hun, a dysgu ei hun i ddysgu iaith, gellir gwella'r broses o ddysgu iaith i'r unigolyn.
Mae Pai Language Learning yn credu'n gryf mewn cefnogi ieithoedd lleiafrifol, ac mae'n addo y bydd 10% o'r elw a ddaw o'r cyrsiau iaith leiafrifol yn cael ei roi i sefydliadau sy'n eu hyrwyddo. Ewch i ddysgu mwy am y cwmni yn Dyma yw'r ddolen ar gyfer cefnog'r