Roedd yr ymchwil yn archwilio profiadau dysgwyr o deuluoedd di-Gymraeg a oedd mewn addysg Gymraeg, a chanfyddiadau eu rhieni, yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Yn rhan o'r astudiaeth, cafodd y disgyblion a'u teuluoedd eu cyfweld am eu profiadau o ddysgu gartref yn ystod COVID.
Yn yr adroddiad, mae'r tîm ymchwil yn dyfynnu un disgybl, gan eu bod yn teimlo bod ei eiriau yn disgrifio profiadau cyffredinol yr holl deuluoedd y siaradwyd â hwy, ac yn tynnu sylw at y diffyg cyfle i ymwneud â’r Gymraeg a’i defnyddio yn ystod y cyfnod clo: "Yn fy marn i roedd e [datblygu sgiliau Cymraeg] ar rhywfaint o saib... [oherwydd] doeddwn i ddim yn ei ddefnyddio cymaint.�
Meddai'r Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, un o'r prif ymchwilwyr, “Yn amlwg roedd gweddnewid addysgu a dysgu yn y cnawd i fod ar-lein ar fyr rybudd am gael effaith andwyol ar rai sgiliau penodol. Un o’r sgiliau hynny oedd y Gymraeg. Pa un ai bod disgybl o gefndir di-Gymraeg yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, ysgol ddwyieithog neu ysgol cyfrwng Saesneg ble cyflwynir y Gymraeg fel pwnc, roedd y sgaffaldiau arferol ar gyfer dysgu iaith - drwy gyfoedion dosbarth, adnoddau ac athrawon - wedi diflannu. Yr hyn mae’r adroddiad yma yn ei wneud ydi amlygu llais y dysgwr fu’n wynebu’r her o dderbyn ei addysg ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg heb sgaffaldiau iaith yn y cartref nag yn yr ysgol yn ystod y cyfnod o drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Drwy archwilio eu profiadau byw nhw a’u teuluoedd o ymdopi â’r sefyllfa ar y pryd ynglŷn â’u perthynas gyda’r iaith cynigir nifer o argymhellion o ran sut i gefnogi’r disgyblion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i lwyddo hyd eithaf eu gallu i ailgydio yn eu taith ieithyddol.�
Mae canfyddiadau'r ymchwil yn nodi gwerth cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn hwyluso'r broses bontio. Maent hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd asesu sgiliau Cymraeg disgyblion rhwng cyfnodau allweddol - er enghraifft, wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd - er mwyn canfod unrhyw angen am gymorth. Mae'r astudiaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y cartref a'r ysgol, a defnyddio cyfathrebu dwyieithog - er enghraifft, darparu rhestrau o’r termau allweddol a fyddai'n cynorthwyo rhieni i gael gafael ar adborth a'i ddeall. Tynnir sylw hefyd at bwysigrwydd cynyddu’r cyfleoedd allgyrsiol i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn yr ysgol a’r tu hwnt iddi.
Dywedodd Dr Siân Lloyd Williams, un o'r prif ymchwilwyr o Aberystwyth, "Mae canfyddiadau ein hymchwil yn nodi nifer o oblygiadau allweddol o ran polisïau ac arferion sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Addysg Lleol ac ysgolion, a fydd yn eu cynorthwyo i ganfod meysydd lle mae angen cefnogaeth er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg hyd eithaf eu gallu."
Cefnogwyd yr ymchwil gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.