Hwyluswyd y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost (H.E.T.) ac fe鈥檌 trefnwyd ar y cyd ag Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd 芒 Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, a鈥檌 nod oedd rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr a staff glywed hanes unigolyn a brofodd trychineb yr Holocost yn uniongyrchol.
Trafododd Dr Agnes Kaposi ei chefndir, o gael ei geni yn Debrecen i rieni Iddewig sosialaidd, a sut yr effeithiodd yr Ail Ryfel Byd yn ddirfawr arni. Ar 么l cael ei gorfodi i wneud gwaith llafurus ar fferm, aethpwyd ag Agnes wedyn i Ostmarkwerke yn Fienna i gynhyrchu gynnau gwrth-awyren ar gyfer byddin yr Almaen. Yna trosglwyddwyd Agnes a'i theulu i wersyll tramwy Stasshof, ger Fienna, ac o drwch blewyn, llwyddodd i osgoi cael ei hanfon i wersyll marwolaeth, a chafodd ei rhyddhau yn y diwedd yng ngwanwyn 1945.
Er gwaethaf digwyddiad mor ofnadwy, aeth Agnes ymlaen i astudio a graddio gyda gradd mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Dechnegol Budapest ym 1956. Gydag amser, daeth yn ymchwilydd ac yna'n ddarlithydd, a hi oedd y drydedd dynes i gael ei hethol yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol.
Cafodd stori ysbrydoledig ac ingol Agnes gymaint o effaith ar ein myfyrwyr, fel y dengys y sylwadau a ganlyn:
鈥楬offwn ddiolch i Agnes am rannu ei stori gyda ni. Roedd clywed am ei goroesiad o'r Holocost a'r penderfyniadau y bu'n rhaid iddi eu gwneud i sicrhau goroesiad ei theulu yn Fienna a arweiniodd at ryddhad yn y pen draw yn rhyfeddol. Cefais fy nghyffwrdd wrth glywed am y brwydrau yr oedd hi a鈥檌 theulu wedi鈥檜 hwynebu.鈥�
Aliana Kempson, myfyriwr MRes mewn Athroniaeth a Chrefydd.
鈥楻oedd y digwyddiad hwn yn arbennig o drawiadol ac yn hynod ddefnyddiol i fyfyrwyr fel fi, sy鈥檔 astudio modiwl Athroniaeth, 鈥榊matebion Athronyddol a Chrefyddol i鈥檙 Holocost鈥�. O鈥檙 nifer o dystiolaethau a glywais gan wahanol Oroeswyr yr Holocost, cyflwynodd Agnes ei thystiolaeth o safbwynt academaidd a damcaniaethol arbennig o unigryw. Roedd ei thystiolaeth yn llawn o fanylion ffeithiol datgysylltiedig yn canolbwyntio ar y cwestiynau y mae wedi鈥檜 derbyn mewn digwyddiadau blaenorol lle鈥檙 oedd wedi cyflwyno ei thystiolaeth. Rydw i eisiau diolch i鈥檙 trefnwyr a H.E.T. am roi鈥檙 cyfle hwn i ni siarad ag Agnes, fel academydd a goroeswr yr Holocost, a gwnaeth ei thystiolaeth a鈥檌 hymatebion i鈥檞 phrofiadau gyfoethogi ein modiwl yn aruthrol.鈥�
Rachel Hall, myfyriwr BA Athroniaeth a Chrefydd a Llenyddiaeth Saesneg a chyn-lysgennad H.E.T.
鈥楻oedd yn anhygoel clywed yn bersonol hanes rhywun a oroesodd yr Holocost. Mae wedi effeithio arnaf ar lefel emosiynol i brosesu rhywbeth rydyn ni wedi dysgu amdano yn fanwl yn dod gan rywun sy鈥檔 dal yma i adrodd ei stori ryfeddol.鈥�
Bella Winrow, myfyriwr BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd.
鈥楶rofiad hynod ddiddorol gan ddynes gwbl ysbrydoledig. Dysgais am yr agweddau gwrth-Semitaidd a fu'n effeithio Iddewon cyn a hyd yn oed ar 么l yr Holocost, yn ogystal 芒 dysgu am stori deimladwy Dr Agnes Kaposi a鈥檌 theulu.鈥�
Megan Euros Jones, BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd a Chymraeg.
Dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, 鈥楻oedd hwn yn gyfle arwyddocaol i鈥檔 myfyrwyr a鈥檔 staff glywed am yr Holocost gan un a oroesodd. Mae astudio a thrafod y digwyddiad ofnadwy yn y dosbarth yn sobreiddiol iawn, ond heb os, mae clywed stori wirioneddol, nid yn unig am erledigaeth a dioddefaint, ond hefyd am gryfder a goroesiad, gan rywun sydd wedi byw drwy鈥檙 Holocost yn brofiad y tu hwnt i eiriau.鈥�
Mae stori Dr Agnes Kaposi i鈥檞 gweld yn ei chofiant, Yellow Star-Red Star (2020), ac mae鈥檔 sicr yn werth ei darllen.

Am ragor o wybodaeth yngl欧n ag Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, gweler:
I ddysgu mwy am Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, gweler: /cy/hanes-ygyfraith-gwyddorau-cymdeithas/canolfan-genedlaethol-addysg-grefyddol-cymru