Wrth adlewyrchu ar ei gwaith a鈥檙 cyhoeddiad, dywedodd Geneva Henson, 'Mae fy erthygl yn canolbwyntio'n benodol ar groniclwyr brenhinoedd Lloegr yn yr Oesoedd Canol Uchel, yn benodol ar eu darluniau o'r Brenin Harri I. Fe'i cymerwyd o draethawd a ysgrifennais ar gyfer y modiwl Ewrop yn yr Oesoedd Canol Uchel, ac roedd cymaint o'r golygiadau a wneuthum cyn cyhoeddi鈥檙 erthygl yn awgrymiadau gan Dr Mark Hagger, yn ogystal 芒 golygyddion y wefan rydw i wedi cael cyhoeddi fy ngwaith arni. Yn yr erthygl, rydw i鈥檔 edrych ar weithiau Orderic Vitalis yn Normandi, William o Malmsbury yn Lloegr, a Brut y Tywsogyon a ysgrifennwyd yng Nghymru. O'r ffynonellau hyn, ceisiais ateb pam oedd yr haneswyr hyn 'yn ddieithriad' yn darlunio Harri fel brenin da ... Os gwnaethon nhw o gwbl!
鈥楩e鈥檌 cyhoeddwyd gan The Young Historians, sef tudalen we a sefydlwyd gan Harry Hughes gyda鈥檙 nod o annog pobl ifanc i ysgrifennu erthyglau ar bynciau hanes y maent yn angerddol amdanynt. Roeddwn wedi bod yn ffrindiau gyda Harry ar Instagram, ac felly pan sefydlodd y wefan, gofynnodd i mi os oeddwn am gyfrannu ac yn naturiol, cytunais! Mae yna ddigonedd o erthyglau anhygoel wedi鈥檜 hysgrifennu gan rai haneswyr ifanc dawnus iawn!鈥�
Nododd Dr Mari Wiliam, darlithydd mewn Hanes Modern: 'Mae ymwneud Geneva 芒 phrosiect The Young Historians yn dangos sut mae yna griw mor fywiog o bobl yn angerddol ac yn frwd dros wneud hanes yn ddeniadol i bawb. Mae mor drawiadol bod ei herthygl blog wedi'i chanmol a'i rhannu ar gyfryngau cymdeithasol gan Matt Lewis o'r Gone Medieval Podcast, ac mae'n wych cael myfyriwr israddedig yn cyfleu syniadau am gronicwyr Harri I o Loegr mewn arddull mor eglur ac apelgar.'
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn amlygu鈥檙 posibiliadau sydd ar gael i fyfyrwyr, israddedig ac 么l-raddedig, i gyfrannu at ddisgyrsiau academaidd ehangach, yn ogystal 芒 bod yn dyst i waith caled ac ysgolheictod Geneva. Da iawn!
I ddarllen yr erthygl, gweler: