Dewi Bryn Jones yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2025
Datganiad i'r wasg gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru -
Enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni yw Dewi Bryn Jones, o Ganolfan Bedwyr, prif arloeswr technolegau iaith a lleferydd ar gyfer y Gymraeg.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Dewi wedi gwneud mwy na neb arall i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol Cymraeg, gan alluogi鈥檙 cyhoedd i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg ar gyfrifiaduron ac wrth gyfathrebu鈥檔 ddigidol. Mae鈥檙 dechnoleg a ddatblygodd hefyd yn cefnogi pobl anabl ac unigolion ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu鈥檔 Gymraeg.
Mae Dewi鈥檔 arwain t卯m o ddatblygwyr meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. Ei weledigaeth a鈥檌 gyfraniad ef sydd wedi arwain at ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg ysgrifennu, lleferydd a chyfieithu peirianyddol Cymraeg.
Sefydlwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn 2004 i gydnabod cyfraniad unigolion i鈥檙 maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr Athro Glyn O Phillips, cemegydd o Wrecsam, oedd y cyntaf i鈥檞 derbyn.
Bydd Dewi Bryn Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod am 13:30, brynhawn Iau, 7 Awst.
Dywedodd yr Athro Delyth Prys, cyn bennaeth yr uned dechnoleg:, 鈥淢ae鈥檙 wobr yn gwbl haeddiannol i Dewi. Fuaswn yn mynd mor bell 芒 dweud oni bai am gyfraniad Dewi, ni fyddai gennym feddalwedd Gymraeg heddiw."
Ychwanegodd yr Athro Deri Tomos, cyn-enillydd y Fedal, "Mae鈥檙 uned yma鈥檔 hollbwysig i ddyfodol yr iaith. Mae Dewi鈥檔 byw ym myd cyfrifiaduron 鈥� mae鈥檔 rhan greiddiol o鈥檌 fywyd, ac rwy鈥檔 si诺r ei fod wrth ei fodd gyda鈥檙 anrhydedd hwn."
Ganwyd Dewi ym Mhwllheli ac ar 么l graddio mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerefrog, bu鈥檔 gweithio yng Nghaergrawnt, Zurich a Helsinki. Yn y Ffindir, dechreuodd gyfieithu a lleoleiddio meddalwedd Netscape Navigator cyn dychwelyd i Gymru i weithio gyda Draig Technology Ltd, lle datblygodd y rhaglen To Bach.
Ers 2002, mae wedi bod yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, gan arwain datblygiadau megis Cysill, Cysgeir, Y Porth Termau Cenedlaethol, a fersiynau digidol o eiriaduron Cymraeg. Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw ym maes technoleg lleferydd, gan gynnwys creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu siarad, a datblygu鈥檙 ap Lleisiwr ar gyfer cleifion y GIG.
Mae Dewi hefyd wedi cyfuno鈥檙 dechnoleg hon i greu Macsen 鈥� y cynorthwyydd personol cyntaf yn y Gymraeg 鈥� ac wedi cyfrannu鈥檔 helaeth at brosiect Common Voice gan Mozilla.
Mae鈥檔 darlithio ar gwrs Meistr mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi goruchwylio鈥檙 PhD cyntaf yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Ef hefyd fu鈥檔 gyfrifol am ysgrifennu鈥檙 Llawlyfr Technolegau Iaith 鈥� y cyntaf o鈥檌 fath yn y Gymraeg.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed rhwng 2鈥�9 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i: eisteddfod.cymru