Pedwar sefydliad addysgol blaenllaw wedi uno i ffurfio Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru
Mae pedwar sefydliad addysgol blaenllaw wedi uno i ffurfio Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (CTGC) - partneriaeth nodedig i gryfhau addysg a datblygu sgiliau, hybu twf economaidd ac i wella cyfleoedd bywyd ledled y rhanbarth.
Lansiwyd y Gynghrair heddiw (dydd Mawrth 5 Awst, 2025) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam sy鈥檔 cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria a Gr诺p Llandrillo Menai.
Y nod gyda鈥檌 gilydd yw adeiladu system addysg drydyddol fwy cydlynol, cynhwysol a chysylltiedig sy'n gwasanaethu dysgwyr, cymunedau a diwydiannau'n well ar bob lefel.
Sefydlwyd y Gynghrair gyda chenhadaeth ar y cyd o drefnu addysg bellach ac uwch gyda blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol a chefnogi pobl ifanc, dysgwyr sy'n oedolion a chyflogwyr ar hyd llwybrau dilyniant mwy cadarn, mentrau ar y cyd ac arloesedd mewn hyfforddiant ac ymchwil.
Meddai Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: 鈥淢ae鈥檙 cydweithrediad hwn yn dwyn ynghyd graddfa ac amrywiaeth ein sefydliadau i wella cyfleoedd i ddysgwyr a gwasanaethu anghenion amrywiol Gogledd Cymru.
鈥淭rwy gyd-drefnu nodau MEDR, y Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil, rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus a system addysg fwy cydgysylltiedig.鈥
Ychwanegodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Gr诺p Llandrillo Menai: 鈥淩ydym am ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc symud o'r ysgol i'r coleg a'r brifysgol ac i oedolion allu ail-afael mewn addysg ar unrhyw gyfnod o fywyd.
鈥淏ydd y Gynghrair hon yn ein galluogi ni i helpu pobl i gael swyddi o safon a chau鈥檙 bwlch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd.鈥


Mae鈥檙 Gynghrair wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth sy'n ymrwymo'r sefydliadau i gydweithio am bedair blynedd gyda'r uchelgais i hybu dilyniant o addysg bellach i addysg uwch; datblygu system sgiliau sy'n cyd-fynd ag anghenion economaidd rhanbarthol; hyrwyddo addysg ddwyieithog a darpariaeth cyfrwng Cymraeg; darparu hyfforddiant cynhwysol o ansawdd uchel o lefel mynediad i brentisiaethau gradd ac ehangu ymchwil ac arloesedd sy'n sbarduno effaith ddinesig ac economaidd.
Meddai鈥檙 Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor sy鈥檔 croesawu鈥檙 syniad: 鈥淭rwy gydweithio鈥檔 agos gallwn sicrhau ein bod yn darparu ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr, busnesau a鈥檙 rhanbarth.
鈥淢ae鈥檙 Gynghrair yn cryfhau llwybrau ac yn ein helpu i ddarparu system addysg sy鈥檔 fwy hygyrch, hyblyg a pharod ar gyfer y dyfodol.鈥
Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: 鈥淩ydym wedi ein huno gyda鈥檙 gred bod cydweithio yn datgloi atebion.
鈥淢ae鈥檙 Gynghrair hon yn canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad mewn sgiliau lefel uwch yn enwedig mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac adeiladu鈥檙 gweithlu sydd ei angen yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.鈥
Yn hollbwysig bydd y Gynghrair yn anelu at weithio nid yn unig ar draws y system addysg ond mewn partneriaeth 芒 diwydiant, busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt gan sicrhau y gall yr ardal ymateb i鈥檙 heriau a鈥檙 cyfleoedd sy鈥檔 codi mewn economi sy'n newid.
Wrth weithredu Cwricwlwm Cymru bydd y Gynghrair hefyd yn cryfhau cysylltiadau ag ysgolion gan helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn llwybrau addysg a hyfforddiant sy'n arwain at lwyddiant mewn gwaith a bywyd.
Mae Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru yn cynrychioli pennod newydd feiddgar ar gyfer addysg 么l-16 鈥 un sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithio, cymuned ac ymrwymiad i'r dyfodol.