Wrth ddewis graddio yn y maes gofal Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a chwblhau cymhwyster proffesiynol ar yr un pryd, fe fydd y myfyrwyr yn gadael y Brifysgol yn hynod gyflogadwy.
Mae chwe myfyriwr wedi cofrestru i astudio cynllun Cam wrth Gam, Lefel a 3, cynllun Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant eleni, y nifer fwyaf erioed i gofrestru o dan y cynllun sy鈥檔 cael ei gynnig gan Fudiad Meithrin.
Bwriad y cynllun yw rhoi profiad ymarferol a hyfforddi myfyrwyr yn y gweithle. Wedi iddynt gwblhau鈥檙 cwrs byddant wedi eu cymhwyso i weithio mewn amrywiol swyddi yn cynnwys, Arweinydd Cylch Meithrin, Rheolwr Meithrinfa ac Arweinydd Clwb Ar 脭l Ysgol neu yn gallu gweithio efo plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Dros y deunaw mis nesa鈥 bydd angen i鈥檙 chwe myfyriwr fynychu gweithdai a chwblhau tasgau amrywiol wrth weithio mewn lleoliadau gofal plant. Mae'r lleoliadau hyn yn dod o ymbarel y Mudiad Meithrin, sy鈥檔 cynnwys darpariaethau gofal plant, yn feithrinfeydd dydd preifat cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Un o鈥檙 myfyrwyr sy鈥檔 dilyn y cwrs yw Mari Hughes o Langefni, mae hi鈥檔 hynod werthfawrogol o鈥檙 cyfle i astudio鈥檙 cynllun Cam wrth Gam: 鈥淐redaf fod astudio Cam wrth Gam ochr yn ochr gyda fy nghwrs gradd yn gyfle gwych nid yn unig i ennill cymhwyster newydd ond i ychwanegu at fy mhrofiadau yn y byd plant ac addysg yn ogystal ar Gymraeg. Mae hwn yn gyfle gwych i mi ar gyfer fy nyfodol a gobeithio am fy helpu i gyrraedd fy uchelgais i weithio yn y maes gofal plant.鈥
Meddai Leanne Marsh Prif Weithredwr Dros Dro Mudiad Meithrin: "Mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o gydweithio gyda Phrifysgol Bangor i gefnogi cenhedlaeth nesaf y gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg. Mae鈥檙 bartneriaeth hon yn allweddol i ni wrth ddatblygu鈥檙 gweithlu sector Gymraeg fydd yn sicrhau'r dechrau gorau posib i bob plentyn. Mae鈥檙 bartneriaeth yn cryfhau ein hymrwymiad ar y cyd i Ofal plant a Chwarae o ansawdd uchel ac yn gynhwysol ledled Cymru."
Meddai Rhian Tomos darlithydd ym maes plant ym Mhrifysgol Bangor: 鈥淏wriad y cydweithio hwn ydy darparu gweithwyr dwyieithog proffesiynol ar gyfer y gweithlu plant a phobl ifanc er mwyn ehangu profiadau a chynyddu cyflogadwyedd ein myfyrwyr ond hefyd er mwyn cynorthwyo Mudiad Meithrin i recriwtio staff ar gyfer eu lleoliadau.鈥
Os oes gennych chi ddiddordeb cofrestru ar gyfer y cwrs gradd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol, mae rhagor o wybodaeth drwy glicio鈥檙 ddolen yma.