MBE i Athro o Brifysgol Bangor – neges annisgwyl gan enillydd Strictly
Mae Julia Jones, sy’n Athro mewn gwyddor cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn MBE gan y Brenin Charles III am ei gwaith dros yr amgylchedd yn .
Cafodd yr Athro Jones ei gwahodd i drafod yr anrhydedd ar BBC Radio Wales a chafodd ei synnu gan neges yn ei llongyfarch wedi'i recordio gan Hamza Yassin, cyn-fyfyriwr iddi, a chyn-enillydd y rhaglen Strictly Come Dancing.
Dywedodd Hamza, y cyflwynydd a’r gwneuthurwr ffilmiau bywyd gwyllt a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth ddawnsio yn 2022, “I just want to say a massive congratulations for your MBE. I can’t think of anyone more deserving. It’s a privilege and an honour to have been taught by you. From me, and all the other students you have taught throughout your time, I just want to say thank you, diolch yn fawr. Your hard work, your dedication and everything you do is just outstanding.â€
Caiff yr Athro Jones ei chydnabod yn eang am ei gwaith ar wella effeithiolrwydd cadwraeth natur drwy ddatblygu a chymhwyso dulliau i werthuso effaith polisïau ac arferion cadwraeth. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod ymchwil o'r fath yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gadwraeth ymarferol. Mae ei chyfraniadau diweddar yn cynnwys cynghori'r RSPB a gwasanaethu ar Bwyllgor Arbenigol Darwin, sy'n cynghori DEFRA ynghylch Menter Darwin, sef cronfa bwysig ym maes cadwraeth bioamrywiaeth a lleihau tlodi. Ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr WWF-UK.
Mae'r Athro Jones hefyd yn eiriolwr cryf dros ymchwil amgylcheddol yng Nghymru. Fel cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cymru ar Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, hi fu’n arwain y fenter #CenedlFachSyniadauMawr i ddathlu’r wyddoniaeth o Gymru sy'n cyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu ar y , sef y corff statudol sy’n cynghori llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig ar faterion cadwraeth natur ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Yn y rôl hon, hi sy'n cyd-gadeirio Grŵp y Prif Wyddonwyr, sy'n dwyn ynghyd arweinwyr gwyddonol o holl gyrff statudol cadwraeth natur y Deyrnas Unedig.
Wrth sôn am yr anrhydedd, dywedodd yr Athro Jones, “Dydw i ddim yn aml yn brin o eiriau ond pan fydd pobl yn gofyn sut brofiad oedd cael fy nghynnwys yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, does gen i ddim syniad sut i ymateb. Rwy'n gwybod ei fod yn ystrydeb, ond y gwir ydy ei fod wedi gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn. Mae hwn yn gyfnod anodd: mae’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd sy’n gysylltiedig â’i gilydd yn broblemau cymhleth heb ateb hawdd. Ond mae cael gweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr mor wych ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt yn rhoi gobaith i mi.â€
Ochr yn ochr â'i gwaith ymchwil a’i swyddogaethau ymgynghorol, mae'r Athro Jones wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu addysg gadwraeth ym Mhrifysgol Bangor. Arferai fod yn gyfarwyddwr cwrs graddau cadwraeth y Brifysgol ac mae’n parhau i addysgu ar gyrsiau israddedig a meistr ym meysydd Cadwraeth a Rheoli Tir, GLOBE a Chadwraeth Bywyd Gwyllt.
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd i gymuned Prifysgol Bangor
Mae aelodau eraill o gymuned y Brifysgol hefyd wedi derbyn anrhydeddau. Yn eu plith mae Mark Williams PLY, cyn-nofiwr a enillodd fedal yn y gemau Paralympaidd, sydd wedi derbyn OBE. Cafodd Mark Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Gweinyddiaeth Busnes gan Brifysgol Bangor yn 2024. Trodd Mark ei syniad am orchuddion lliwgar i goesau prosthetig yn fusnes arloesol. Sefydlodd Mark a’i wraig Rachael y cwmni gyda’r bwriad o feithrin balchder pobl mewn aelodau prosthetig.
Ymhlith y cyn-fyfyrwyr ar y rhestr anrhydeddau roedd:
- Helen Glencross (Hanes Canoloesol a Hanes Modern Cynnar 2003) – MBE am wasanaethau i dreftadaeth yn Guernsey
- Sheena Harrison (Hyfforddiant Athrawon 1990, Polisi Cymdeithasol 1993, Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol Cymhwysol 1997) – BEM am wasanaethau i Bobl Ifanc mewn Gofal Maeth
- William Johnston (Diwinyddiaeth 2003) – MBE am wasanaethau i’r Gweithlu Rheilffyrdd
- John Towers (Hanes 1991) – MBE am wasanaethau i Addysg
- Katy Woodington (Bioleg Môr 1998) – MBE am wasanaethau i’r Sectorau Elusennol ac Ynni