Ymchwilwyr yn chwarae rhan allweddol mewn prosiect rhywogaethau coed i helpu i wneud coedwigoedd yn wydn i newid hinsawdd
Bydd ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn chwarae rhan allweddol mewn rhaglen ymchwil newydd i nodi rhywogaethau coed cynhyrchiol a gwydn o ran hinsawdd ar gyfer Cymru.
Comisiynwyd Forest Research, prif asiantaeth ymchwil coedwigaeth Prydain Fawr, gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhestr o rywogaethau o goed fydd yn helpu i gryfhau gwytnwch, cynhyrchedd a chynaliadwyedd coetiroedd Cymru yn y tymor hir. Bydd Woodknowledge Wales, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Napier Caeredin yn gweithio gyda Forest Research i ddatblygu鈥檙 rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.
Amlygwyd yr angen am restr fer o鈥檙 fath gan strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru 鈥鈥 a rhaglenni tebyg ledled y DU. Yn ddiweddar, mae鈥檙 Alban wedi cwblhau eu prosiect eu hunain i greu rhestr fer, , ac y mae gwaith tebyg ar waith yn awr yn Lloegr, a gyllidir gan Lywodraeth y DU.
Bydd y prosiect Cymreig yn rhedeg ochr yn ochr 芒 gwaith yn Lloegr, gan greu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cydweithredu, cyd-asio a rhannu gwersi ar draws y tair cenedl mewn meysydd megis bridio coed, cyflenwi planhigion a hadau, ac ymchwil coedwrol. Canolbwynt allweddol y gwaith yng Nghymru fydd ymchwilio i nodweddion coed a datblygu鈥檙 farchnad.
Diben y rhestrau byrion yw cefnogi gwneud penderfyniadau strategol ledled y sector. Nid bwriad y rhestrau byrion yw pennu鈥檙 dewis o rywogaethau ar y lefel weithredol neu mewn safleoedd, lle bydd rheolwyr tir yn parhau i ystyried yr amodau, amcanion a鈥檙 dewisiadau lleol yn unol 芒 Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau eraill.
Mae blaenoriaethu rhywogaethau o goed yn mynd at galon modelau busnes, strategaethau masnachol, a chredoau proffesiynol a diwylliannol. Bydd creu rhestr fer o rywogaethau o goed i Gymru yn ymdrech gan d卯m. Gwahoddir pobl o bob rhan o鈥檙 sector coedwigaeth i edrych i mewn i syniadau a chyfleoedd am dyfu, prosesu a defnyddio pren brodorol yn y dyfodol, gyda鈥檙 nod o adeiladu diwydiant coedwigaeth cryf a gwydn.
Y rhywogaethau ar y rhestr fer Gymreig fydd y rhai a ystyrir yn addas i weithredu arnynt yn awr, tra bydd rhestr arall wrth gefn yn nodi rhywogaethau addawol y bydd angen ymchwilio ymhellach iddynt cyn eu rhoi ar waith.
Caiff yr ymdrechion eu cydgordio ar lefel y DU gan Gr诺p Adnoddau Genetig Coedwigoedd y DU (UKFGR), fydd yn sicrhau cydlyniad, cysondeb, ac agwedd gyfun tuag at amrywio rhywogaethau.
Dywedodd John Healey, sy鈥檔 Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淢ae Prifysgol Bangor yn falch iawn o gael cyfrannu at y project newydd hwn yn llunio rhestr fer o rywogaethau coed Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r project i fanteisio ar y cryfhau sydd wedi digwydd ym Mangor yn ddiweddar o ran y cyswllt rhwng yr arbenigedd mewn gwyddor pren, y rhagoriaeth ymchwil mewn gwytnwch coedwigoedd, a'r cydweithio agos 芒'r diwydiannau coedwigaeth a phren. Mae hyn wedi cyfrannu at ein llwyddiant yn cyrraedd y brig yn nhabl cynghrair prifysgolion The Times 2026 ym maes Amaethyddiaeth a Choedwigaeth. Edrychwn ymlaen at weld y project newydd hwn yn datblygu mwy byth ar ein hanes cadarn o gydweithio 芒鈥檙 Asiantaeth Ymchwil Coedwigaeth a Woodknowledge Wales, i sicrhau bod y project yng Nghymru yn elwa o fewnbwn arbenigol cryf gan sefydliadau Cymru ac yn cael ei lywio gan ymgysylltiad sylweddol o bob rhan o sectorau coedwigaeth a鈥檙 diwydiant coed yng Nghymru.鈥
Dywedodd Dr Morwenna Spear, o鈥檙 Ganolfan BioGyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淩ydyn ni鈥檔 teimlo鈥檔 gyffrous iawn i gael bod yn rhan o鈥檙 project yma. Mae'r cwestiwn o ran pa rywogaethau o goed fydd yn cael eu plannu'n fwy eang, a'u potensial nhw ar gyfer y myrdd o ddiwydiannau sy'n defnyddio coed yng Nghymru a thu hwnt, yn gwestiwn y mae鈥檔 hanfodol mynd i鈥檙 afael 芒 fo. Mae gynnon ni gronfa wybodaeth helaeth ar wahanol gynhyrchion pren yn y Ganolfan BioGyfansoddion 鈥 o fod wedi gweithio gyda phren wedi'i beiriannu, megis byrddau ffibr dwysedd canolig (MDF) a byrddau gronynnau, yn ogystal 芒 deunyddiau pecynnu wedi eu gwneud o bapur a mwydion wedi'u mowldio, yn ogystal 芒 phren solet, triniaethau arloesol a phren m脿s ar gyfer strwythurau. Mae gan bob cymhwysiad brosesau unigryw a phriodweddau sy鈥檔 ddymunol o ran y pren sy鈥檔 cael ei ddefnyddio 鈥 mae addasrwydd ac arloesedd yn allweddol os am sicrhau gwytnwch y sector cynhyrchion coedwig i鈥檙 dyfodol.鈥
Meddai David Edwards, ymchwilydd arweiniol y prosiect yn Forest Research, 鈥淏u鈥檙 sector coedwigaeth yn dibynnu ers tro byd ar ystod gul o rywogaethau cynhyrchiol o goed. Wrth i newid hinsawdd gyflymu ac i fygythiadau o du pl芒on a chlefydau ddal i gynyddu, daeth yr angen i gael mwy o amrywiaeth o rywogaethau coed yng Nghymru yn fwyfwy yn fater o frys. Bydd datblygu rhestrau byrion o rywogaethau addas gyda chanolbwynt rhanbarthol y cytunir arnynt, trwy gydweithio gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid ar draws y sector coedwigaeth, yn helpu i gryfhau gwytnwch, cynhyrchedd a chynaliadwyedd coetiroedd Cymru a鈥檙 DU yn y tymor hir. Gyda鈥檌 gilydd, bydd y mentrau ar draws Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban yn un o鈥檙 ymarferion cydgordio mwyaf cynhwysfawr o gasglu tystiolaeth a gynhaliwyd erioed er mwyn dethol rhywogaethau o goed masnachol yn y DU. Bydd hyn yn cefnogi ac yn sail o wybodaeth i raglenni amrywio coedwigaeth a bydd yn sylfaen gydlynus seiliedig ar dystiolaeth y gall yr holl sector coedwigaeth adeiladu arno.鈥
Meddai鈥檙 Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: 鈥淢ae angen i goedwigoedd fod yn iach a gwydn os ydynt am gynnal a gwella eu gallu i gynhyrchu pren, darparu cynefinoedd o ansawdd wych i fywyd gwyllt, a pharhau i gyflawni i gymdeithas. Rhaid i ni baratoi ein coedwigoedd ar gyfer y dyfodol, gan ymaddasu鈥檔 briodol i newid hinsawdd, cyflwyno mwy o amrywiaeth a chymysgedd briodol er mwyn gwytnwch yn y dyfodol. Mae lansio鈥檙 prosiect hwn yn gam pwysig i gynllunio at y dyfodol, sy鈥檔 hanfodol o gadw mewn cof y cylchoedd tymor-hir cymharol sy鈥檔 fodd o sicrhau y gall Cymru gyrchu stoc sy鈥檔 amrywiol yn genetig ac yn addas i鈥檙 hinsawdd i blannu coedwigoedd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥
Dywedodd Gary Newman, Prif Weithredwr Woodknowledge Wales, 鈥淢ae鈥檔 wych cydweithio鈥檔 agos gyda Forest Research, gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Napier Caeredin ac amrywiaeth eang o randdeiliaid yn y diwydiant yng Nghymru er mwyn sicrhau y gallwn wneud y defnydd gorau o amrywiaeth o rywogaethau o goed. Yn ein barn ni, mae鈥檙 prosiect hwn yn galluogi cydweithredu yn y dyfodol fydd yn canolbwyntio ar fwy o wytnwch mewn coedwigaeth ac yn ei gadwyni gwerth cysylltiedig.鈥