Dathliad ym Mhrifysgol Bangor i nodi 200 mlynedd o Bont Menai
Mae dathliad wedi鈥檌 drefnu i nodi 200 mlynedd ers agor Pont Menai.
Bydd y digwyddiad cyhoeddus, sy'n cael ei gyd-gynnal gan Brifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Menai, yn archwilio stori ddiddorol y darn arloesol hon o beirianneg sifil.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 31 Ionawr yn Narlithfa Prif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor, rhwng 9:30 am a 3:30 pm.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau diddorol a gyflwynir gan academyddion Prifysgol Bangor a haneswyr gwirfoddol o'r Ymddiriedolaeth, a fydd yn ymchwilio i wreiddiau鈥檙 bont yn ogystal 芒'i hesblygiad dros 200 mlynedd hyd at heddiw.
Byddant yn tynnu sylw at gampau mawr peirianneg yn ogystal ag ystyried yr heriau niferus a wynebwyd.
Mae'r pynciau a drafodir yn amrywio o pam roedd angen y bont, ei hanes cynnar, r么l y peiriannydd sifil Thomas Telford yn ei datblygiad, a sut mae wedi'i chynrychioli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth ers ei hadeiladu.
Bydd adluniad y bont yn yr 1930au a鈥檌 hanes diweddarach hefyd yn cael eu trafod, yn ogystal 芒鈥檙 heriau o gynnal strwythur hanesyddol yn yr oes gyfoes ac wrth edrych i鈥檙 dyfodol.
Ymhlith y siaradwyr mae Dr Mike Roberts, Dr Karin Koehler a Dr Lowri Ann Rees o Brifysgol Bangor a John Cole, Warren Kovach a Kerry Evans o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy.
Dywedodd Dr Marc Collinson, Darlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor,
鈥淢ae Pont Menai, a adeiladwyd gan Thomas Telford 200 mlynedd yn 么l, yn parhau i fod yn gysylltiad hanfodol rhwng Ynys M么n ac Arfon, yn ogystal 芒鈥檙 Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Fel t卯m Hanes a Threftadaeth, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig bod Prifysgol Bangor yn dathlu'r deucanmlwyddiant hwn ar y cyd 芒'n partneriaid, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Menai. Gobeithiwn y bydd y diwrnod hanes hwn, sy'n cynnwys sgyrsiau gan ymchwilwyr academaidd, haneswyr lleol ac ymarferwyr peirianneg, yn ffordd bleserus ac addysgiadol, llawn gwybodaeth, o ddathlu'r bont a'r ffordd y mae wedi cysylltu lleoedd a phobl dros ddwy ganrif.鈥
Dywedodd Jenny Porter, Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Menai, 鈥淎r achlysur 200 mlynedd ers agor campwaith peirianneg Thomas Telford, mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Menai yn falch o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddathlu Telford a'i 'Wythfed Ryfeddod y Byd', Pont Grog Menai.鈥
Gall pobl sydd eisiau mynychu'r digwyddiad archebu lle drwy wefan Prifysgol Bangor: /cy/digwyddiadau/diwrnod-hanes-deucanmlwyddiant-pont-grog-y-borth
Darperir te a choffi am ddim, ac mae'r amser a neilltuwyd yn cynnwys egwyl ginio. Ni ddarperir cinio.