Mae entrepreneur o Landdaniel, Ynys M么n wedi derbyn cymorth i ddatblygu ei fusnes ym myd ffotograffiaeth chwaraeon moduro, gyda chefnogaeth Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi gan Brifysgol Bangor.
Dywed Greg Childs, sylfaenydd cwmni ffotograffiaeth Trackside Focus庐, fod cydweithio ag Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, wedi rhoi dealltwriaeth gliriach o bwy yw cwsmeriaid ei gwmni. Mae Greg yn deall erbyn hyn sut maen nhw'n dod o hyd i'w fusnes, sut maen nhw鈥檔 rhyngweithio ag o, a beth sy'n eu cymell i archebu gweithdai gyda鈥檌 fusnes ffotograffiaeth.
鈥淩oeddwn i eisiau dealltwriaeth ddyfnach a chliriach o fy musnes, yn enwedig pwy yw fy nghwsmeriaid. Mae derbyn help i ddatblygu fy musnes wedi caniat谩u i mi ehangu'r busnes yn fwy effeithiol, gwella fy strategaethau farchnata, a gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus ar gyfer fy musnes,鈥 meddai Greg.
Bwriad Trackside Focus庐 yw datblygu ffotograffwyr chwaraeon modur amatur. Mae'r cwmni'n darparu gweithdai ffotograffiaeth ymarferol ar gyfer pob lefel; o ddechreuwyr hyd at ffotograffwyr profiadol. Mae nifer dethol o weithdai achrededig hefyd ar gyfer ffotograffwyr amaturaidd sy鈥檔 bwriadu canolbwyntio ar yrfa broffesiynol.
鈥淢ae ceisio a methu yn rhan o reoli busnes bach,鈥 ychwanega Greg, sy鈥檔 dod yn wreiddiol o Swydd Bedford. 鈥淥nd mae cael data, ymchwil a dadansoddi cadarn fel sylfaen yn hynod fuddiol. Mae鈥檔 caniat谩u i mi ymdrin 芒 thwf gyda mwy o hyder.鈥
O ganlyniad i鈥檙 cynllun, a thrwy weithio gyda darlithwyr Ysgol Fusnes Albert Gubay - Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data a Dadansoddeg a Dr Hanxiong Zhang, Uwch Ddarlithydd - mae gan Greg set ddata cadarn a fframwaith strategol yn sylfaen tuag at y dyfodol.
鈥淢ae gen i ddadansoddiad cynhwysfawr bellach er mwyn llywio sut rwy鈥檔 marchnata鈥檙 busnes. Mae hyn cynnwys sut i ddenu a chadw cwsmeriaid, mesur enillion ar fuddsoddiad ac asesu gwerth cwsmeriaid. Rho hyn sylfaen i mi ehangu a datblygu鈥檙 hyn rwy鈥檔 credu a all ddod yn ecosystem flaenllaw yn y diwydiant ar gyfer ffotograffwyr chwaraeon modur.鈥
Dywedodd Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data/Dadansoddeg yn Ysgol Albert Gubay: 鈥淩ydym wrth ein bodd yn defnyddio ein harbenigedd dadansoddi data i gefnogi Trackside Focus庐. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Gynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi am greu model gwirioneddol gynhyrchiol sy鈥檔 gyfle i brifysgolion a diwydiant gydweithio, a throi ein sgiliau proffesiynol yn werth cymdeithasol pendant.鈥
Breuddwydiodd Greg am flynyddoedd i sefydlu cwmni ffotograffydd Fformiwla 1. Ac er na wireddwyd yr uchelgais honno, treuliodd Greg chwe blynedd yn mireinio ei sgiliau ar draws ystod eang o arddulliau ffotograffig. Ar 么l symud i ogledd Cymru 鈥 a chyfnod byr yn gweithio ym maes lletygarwch ochr yn ochr 芒 bod yn ffotograffydd llawrydd 鈥 cymerodd y naid i lansio ei fenter ei hun, a wnaed yn bosibl trwy gefnogaeth etifeddiaeth ei daid. Sefydlodd ei gwmni Trackside Focus庐 yn 2023. Wrth fyfyrio ar ei daith, mae'n cyfaddef mai entrepreneuriaeth 鈥 yn hytrach na ffotograffiaeth - fu ei angerdd mwyaf mewn gwirionedd.
鈥淩wy鈥檔 cyfaddef mai nid fi yw鈥檙 ffotograffydd mwyaf dawnus. Dwi wrth fy modd yn bod yn entrepreneur, gan adeiladu busnes o'i seiliau. Rheoli fy nghwmni fy hun fu'r antur fwyaf heriol i mi erioed ymgymryd ag o. Ond bu hefyd yn brofiad gwerth chweil a phleserus, hyd yn oed yn ystod y dyddiau anoddaf.鈥
Mae teithio rhyngwladol bellach yn nodwedd hanfodol o fusnes Greg. Cyflwyna Trackside Focus庐 weithdai mewn lleoliadau pell yn cynnwys Dubai, Ffrainc, Budapest a Barcelona. Ond maen nhw hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn y Deyrnas Unedig; mewn lleoliadau rasio yn Oulton Park yn Swydd Gaer, Silverstone yn Swydd Nottingham a Brands Hatch yn Swydd Gaint. Ond er bod Greg yn dweud fod Dubai yn sefyll allan fel un o'r lleoliadau sy鈥檔 ei ysbrydoli fwyaf, mae Greg yn cyfaddef ei fod yn teimlo rhyddhad wrth ddychwelyd adref i ogledd Cymru. Mae bod adref yn Llanddaniel bob amser yn dod 芒 phersbectif i鈥檞 fywyd, meddai.
鈥淕all yr holl deithio fod yn heriol ar adegau, gyda'r meysydd awyr agosaf yn Lerpwl neu Fanceinion 芒'r man rasio agosaf yn Oulton Park yn Swydd Gaer. Ond er hynny, dwi bob amser yn gwerthfawrogi dychwelyd adref. Mae Ynys M么n yn le mor brydferth, a dyna le mae fy nheulu. Mae鈥檔 braf dod adref ar 么l bod i ffwrdd dramor.鈥
Dywedodd Nicola Sturrs, Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor: 鈥淩ydym wrth ein bodd ein bod wedi cydweithio 芒 Greg yn Trackside Focus 庐, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau 芒'n holl berthnasau busnes yn y dyfodol. Mae ein Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi wedi profi i fod yn hynod boblogaidd ers iddo ddechrau yn 2024, ac rydym hyd yn hyn wedi cydweithio 芒 dros 60 o fusnesau o bob cwr o Ynys M么n, Gwynedd a Sir y Fflint.鈥
Mae project Trackside Focus ac Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi derbyn 拢5000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cefnogi鈥檙 y gwaith o gyflawni pum cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth y DU: rhoi grym i鈥檔 cymunedau ym mhobman, gyda ffocws penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o鈥檙 DU.