Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Pritchard Jones ddydd Sadwrn, 28 Chwefror am 7pm.
Bydd holl elw'r cyngerdd yn cefnogi Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd gwesteion arbennig iawn yn cymryd rhan yn cynnwys; Blue Weaver (Amen Corner, Strawbs, y Bee Gees), Cathryn Craig (the Righteous Brothers) a Brian Willoughby (Strawbs, Mary Hopkin). Byddant yn ymuno 芒 Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a Ch么r Siambr Prifysgol Bangor er mwyn dathlu caneuon David, caneuon a helpodd i ddiffinio roc gwerin Brydeinig.
Bu farw David ym mis Gorffennaf, wedi gyrfa unigryw, amrywiol ac amlwg. Roedd yn un o鈥檙 canwr-gyfansoddwyr mwyaf yn y byd Prydeinig yn y 1960au cyn dod yn arloeswr radio lleol annibynnol yn y 1980au a鈥檙 1990au. Ar 么l dwy ddegawd yn y byd radio, daeth cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio yn brif ffocws ei yrfa unwaith eto. Mae ei gyfraniad i gyfansoddi cerddoriaeth Brydeinig yn enfawr. Ysgrifennodd ganeuon a recordiadau cyfoethog, dwfn ac amrywiol. Yng ngeiriau David ei hun, o Hanging in the Gallery, un o鈥檌 ganeuon gorau, 鈥淗e is silent now, will sing no more.鈥
Roedd gan David berthynas arbennig 芒 Phrifysgol Bangor. Perfformiad cyhoeddus olaf David oedd yn ystod ymweliad 芒 Phrifysgol Bangor ar 21 Mawrth 2025. Ar ddechrau ei yrfa, ym mis Tachwedd 1964, perfformiodd ym Mhrifysgol Bangor gyda鈥檙 Strawberry Hill Boys, gr诺p roedd o鈥檔 aelod ohono cyn 1964. Dros 60 mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd i roi darlithoedd yn yr Adran Gerddoriaeth i gynulleidfa ddiolchgar o fyfyrwyr ac aelodau staff, gan gynnig cyfle i genhedlaeth newydd o gerddorion ddysgu gan gyfansoddwr meistrolgar.
Bydd y cyngerdd yn cael ei gyflwyno gan yr Is-ganghellor, Yr Athro Edmund Burke, cyfaill i David Cousins.
Dywedodd Dr John Cunninham, Pennaeth yr Adran Gerdd: 鈥淩oedd David Cousins 鈥嬧媦n un o gyfansoddwyr caneuon mwyaf toreithiog a phwysig Prydain yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Roedd ei ymweliad 芒鈥檙 adran Gerddoriaeth i siarad 芒鈥檔 myfyrwyr yn anrhydedd i ni fis Mawrth diwethaf鈥 dyma ei ymddangosiad cyhoeddus olaf. Bydd y cyngerdd yn deyrnged wych i鈥檞 fywyd a鈥檌 gerddoriaeth, yn cynnwys perfformiadau a threfniadau gan staff a myfyrwyr y Brifysgol, ochr yn ochr 芒 Blue Weaver (Athro Cerddoriaeth er anrhydedd yma), Brian Willoughby a Cathryn Craig. Bydd y cyngerdd hefyd yn lansio Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins.鈥
Os hoffech fynychu鈥檙 digwyddiad, mae tocynnau ar gael yma: