Yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn sicrhau cymeradwyaeth i gyflwyno cymhwyster arbenigol newydd ledled Cymru mewn nyrsio cymunedol聽聽
惭补别鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i gyflwyno Cymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) ledled Cymru mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu, Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol a Nyrsio Anableddau Dysgu Cymunedol.
Cafodd y rhaglen newydd ei datblygu鈥檔 unol 芒 Safonau Hyfedredd Cymwysterau Ymarfer Nyrsio Cymunedol Arbenigol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a fydd yn sicrhau bod graddedigion yn bodloni'r safonau proffesiynol sy'n ofynnol ar gyfer rolau uwch yn y gymuned.
Mae'r cymhwyster 么l-radd hwn hefyd yn cyd-fynd 芒 newidiadau ehangach i鈥檙 ddarpariaeth addysg iechyd yng Nghymru, er mwyn gwneud yn si诺r fod pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru鈥檔 gallu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel i鈥檞 galluogi i ddarparu gofal yn nes at adref.
Disgrifiodd Elizabeth Mason, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, y gymeradwyaeth fel carreg filltir arwyddocaol, 鈥湶巡贡疴檙 ychwanegiad newydd hwn at ein cyfres o raglenni 么l-radd ac 么l-gofrestru yn gyflawniad arbennig. Mae'n adlewyrchu cymaint o arbenigedd sydd i鈥檞 gael o fewn ein t卯m ac yn cydnabod cyfraniad hir yr Ysgol at addysgu a datblygu'r gweithlu nyrsio ledled gogledd Cymru a thu hwnt.鈥
惭补别鈥檙 Cymhwyster Ymarfer Arbenigol hwn wedi'i gomisiynu a'i ariannu'n llawn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a chaiff ei gynnig fel Diploma 脭l-radd rhan amser i nyrsys cymwys sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn arwain at Gymhwyster Ymarferydd Arbenigol i鈥檞 ychwanegu at y cofrestriad gyda鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Mae'r rhaglen yn agored i nyrsys cofrestredig o bob rhan o Gymru. Mae croeso i ymgeiswyr o鈥檙 tu allan i Gymru wneud cais hefyd; fodd bynnag, ni fyddent yn gymwys i gael cyllid gan GIG Cymru.
Cafodd y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol ei gynllunio ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n dymuno arbenigo ac ysgwyddo rolau arweinyddol mewn lleoliadau cymunedol a meddygfeydd teulu. Bydd hefyd yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu harbenigedd clinigol tra b么nt yn parhau i ymarfer. Cyflwynir y cwrs drwy ddull dysgu hyblyg ar-lein a bydd y strwythur rhan amser yn galluogi nyrsys i gydbwyso datblygiad proffesiynol 芒 chyfrifoldebau clinigol.
Mae'r cwricwlwm yn cynnwys modiwlau cyffredinol a modiwlau maes-benodol, gan arfogi鈥檙 ymarferwyr i ddatblygu sgiliau ar lefel gradd meistr er mwyn bod yn arbenigwyr cymunedol ymreolaethol sy'n ymarfer ar sail tystiolaeth.
Drwy gyfrwng y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol newydd hwn, mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd yn parhau 芒鈥檌 hymrwymiad i gryfhau鈥檙 gweithlu nyrsio cymunedol ledled Cymru a chefnogi gofal o ansawdd uchel sy鈥檔 canolbwyntio ar gleifion.