Holodd yr astudiaeth dros fil o oedolion 60 oed a h欧n sy'n byw mewn aelwydydd ledled Cymru. Canfu鈥檙 arolwg oedd yn edrych ar brofiadau pobl ar 么l iddynt gyrraedd 60 oed:
- Bod 5 y cant o gyfranogwyr wedi dioddef camdriniaeth.
- Bod 0 y cant o gyfranogwyr wedi cael trafferthion ariannol.
- Bod 7 y cant o'r cyfranogwyr wedi teimlo'n unig neu'n ynysig yn gymdeithasol.
Roedd pobl a adroddodd am un o'r profiadau hyn hefyd yn fwy tebygol o adrodd am brofiadau niweidiol eraill, a oedd hefyd yn cynnwys teimlo dan bwysau oherwydd cyfrifoldebau gofalu a methu 芒 chael mynediad at ofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Er enghraifft, nododd 42.6 y cant o'r rhai a oedd wedi dioddef camdriniaeth eu bod hefyd wedi teimlo'n unig neu'n ynysig yn gymdeithasol o'i gymharu 芒 17.6 y cant o'r rhai nad oeddent wedi dioddef camdriniaeth.
Mesurodd yr astudiaeth ddeg canlyniad iechyd gwaeth. Roedd pob un o鈥檙 canlynol - camdriniaeth, trafferthion ariannol, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol - yn cynyddu risgiau pobl o ran y rhan fwyaf o'r canlyniadau iechyd gwaeth hyn. Er enghraifft:
- Roedd y rhai a oedd wedi dioddef camdriniaeth fwy na dwywaith yn fwy tebygol i ysmygu tybaco na'r rhai nad oeddent, a thros bedair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael meddyliau hunanladdol neu wedi hunan-niweidio.
- Roedd y rhai a oedd wedi cael trafferthion ariannol dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael boddhad bywyd isel na'r rhai nad oeddent wedi cael trafferthion ariannol a phedair gwaith yn fwy tebygol o nodi hunan-esgeulustod.
- Roedd y rhai a oedd wedi teimlo'n unig neu'n ynysig yn gymdeithasol ddwywaith yn fwy tebygol na'r rhai nad oeddent wedi teimlo'n unig o raddio iechyd eu hunain yn wael neu wael iawn, a mwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael llesiant meddyliol isel.
Dywedodd yr Athro Karen Hughes, prif awdur yr adroddiad, 鈥淢ae pobl h欧n yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru, ac mae pwysigrwydd y rhan hon yn cynyddu wrth i鈥檔 poblogaeth heneiddio. Mae ein hastudiaeth yn dangos bod pobl h欧n sy'n dioddef camdriniaeth, tlodi ac unigrwydd yn dioddef iechyd gwaeth. Mae atal y profiadau niweidiol hyn a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt yn hanfodol er mwyn galluogi pobl h欧n i gynnal iechyd, byw'n dda a pharhau i gymryd rhan weithredol yn y gymdeithas.鈥
Mae cam-drin pobl h欧n yn bryder cynyddol yng Nghymru, ond yn aml gall aros yn gudd. Mae'r astudiaeth hon yn un o'r cyntaf i fesur camdriniaeth mewn oedolion h欧n yn y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru. Y mathau mwyaf cyffredin o gam-drin a adroddwyd oedd cam-drin geiriol (8.4%), cam-drin corfforol (4.6%) a cham-drin ariannol (2.9%).
Dywedodd Dr Kat Ford, cyd-awdur yr adroddiad o Brifysgol Bangor, 鈥淩oedd ein sampl yn cynnwys pobl sy鈥檔 byw yn y gymuned, sy鈥檔 golygu nad oedd rhai o aelodau mwyaf agored i niwed y gymdeithas, fel y rhai mewn gofal preswyl, wedi鈥檜 cynnwys. O ganlyniad, mae'n debygol bod nifer yr achosion o gam-drin a nodwyd gennym yn danamcangyfrif.鈥
Cydnabyddir hefyd fod tlodi, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn heriau iechyd y cyhoedd o bwys yng Nghymru, sydd ag effeithiau eang ar iechyd a llesiant unigolion, cymunedau a chymdeithasau ehangach.
Ar y llaw arall, mae cysylltiadau cymdeithasol cryf yn allweddol i iechyd corfforol a meddyliol da, llesiant a gwydnwch.
Age Cymru
Mae Age Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl h欧n sy'n ceisio cymorth a chefnogaeth oherwydd eu bod yn dioddef camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio ariannol.
Gall effaith camdriniaeth fod yn enbyd a gall gael canlyniadau corfforol, emosiynol neu ariannol hirhoedlog. Pan fydd camdriniaeth yn cael ei gyflawni gan rywun maen nhw'n ei adnabod, ac yn ymddiried ynddo, gall eu gadael yn ofnus, yn ddryslyd, ac yn teimlo hyd yn oed yn fwy unig ac ynysig sy'n cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
Dywedodd Louise Hughes, Pennaeth Diogelu ac Eirioli Age Cymru: 鈥淩ydyn ni鈥檔 gwybod bod nifer y bobl h欧n sy鈥檔 cael eu cam-drin wedi dyblu ers dechrau鈥檙 pandemig. Gall pobl ddioddef camdriniaeth mewn sawl ffurf, ac, mewn rhai achosion, efallai ei fod wedi aros yn gudd am flynyddoedd lawer. Mae camdriniaeth o unrhyw fath yn annerbyniol ac mae gan bobl h欧n hawl i fyw mewn diogelwch, heb ofn, rheolaeth na bygythiad, ac i gael eu trin ag urddas a pharch.
鈥淢ae鈥檙 adroddiad pwysig hwn yn amlinellu effaith unigrwydd a鈥檙 ffactorau risg ychwanegol i bobl h欧n ledled Cymru o ganlyniad i unigrwydd. Bob blwyddyn, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod at Age Cymru am gymorth i fynd i鈥檙 afael ag unigrwydd a chamdriniaeth. Rydyn ni'n clywed yn aml am sefyllfaoedd sy鈥檔 gymhleth ac yn heriol iawn pan fo sawl math o gam-drin yn digwydd ar yr un pryd.
鈥淒ylid cynnal ymchwil pellach i effaith cam-drin ariannol ar bobl h欧n fel y gall gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ddeall a gweithredu ar y ffactorau risg lluosog sy鈥檔 gysylltiedig ag unigrwydd a chamdriniaeth ac amddiffyn pobl h欧n yn well rhag y cam-drin hwnnw. Rydym yn annog pobl i fod yn ymwybodol o arwyddion cam-drin mewn pobl h欧n a cheisio cymorth a chefnogaeth.鈥
Os yw person h欧n yn teimlo ei fod yn cael ei niweidio, ei esgeuluso neu ei gamfanteisio'n ariannol, dylai gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol ei awdurdod lleol, neu siarad 芒 rhywun y mae'n ymddiried ynddo, fel meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Cysylltiadau Cymdeithasol 鈥 Cynllun Chatty Caf茅
Yng Nghymru, mae llawer o fentrau a phrosiectau i wella cysylltiadau cymdeithasol ac ymdrin ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar lefelau unigol, cymunedol a chymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed.
Un o鈥檙 rhain yw sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd drwy gael un sgwrs ar y tro. Mae cannoedd o leoliadau ledled y DU ac mae 25 ohonyn nhw yng Nghymru, gan gynnwys y Snug Coffee Shop yn Rhisga. Maen nhw bellach yn cynnal bwrdd Chatter & Natter bob dydd Mawrth rhwng 12.30pm 鈥 1.30pm, yn The Sycamore Centre, Thistle Way yn Rhisga yng Nghasnewydd, sy鈥檔 cynnig lle croesawgar i bobl eistedd, sgwrsio a chysylltu.
Dechreuodd un o鈥檙 ymwelwyr rheolaidd, Gay Colbourne (80) o Risga, ddod i sesiynau鈥檙 Chatty Caf茅 ym mis Hydref y llynedd ar 么l iddi ymddeol o yrfa 50 mlynedd yn Ysbyty Brenhinol Gwent lle鈥檙 oedd hi鈥檔 gynorthwyydd personol i ymgynghorwyr ysbyty.
Dywedodd yr hen fam-gu sy'n byw ar ei phen ei hun ar 么l colli ei g诺r yn sydyn saith mlynedd yn 么l: 鈥淢ae pawb mor gyfeillgar. Dim ond pum munud o waith cerdded yw e o fy nghartref ac rwy'n mwynhau ymuno yn wythnosol gan ei fod yn nhynnu i allan o'r t欧 ac rydych chi'n siarad ag amrywiaeth o bobl wahanol, sy鈥檔 rhywbeth rwy'n ei hoffi. Rwy'n edrych ymlaen at ddod ac mae wedi dod yn rhan bwysig o fy wythnos."
Dywedodd Anne Seymour, sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn Chatty Caf茅 ers dros dair blynedd ac sy鈥檔 cynnal y sesiynau yn y Snug Coffee Shop: 鈥淔el arfer, gr诺p bach o bedwar neu bump ydym ni ac mae croeso cynnes i unrhyw un o unrhyw oedran ymuno 芒 ni. Mae'n hamddenol iawn a gall pobl alw heibio am gymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunant. Rydyn ni yma'r un amser bob dydd Mawrth am sgwrs ac i gynnig rhywfaint o gysylltiad dynol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiwrnod rhywun.鈥
Dywedodd Tara Holloway, Cyd-sylfaenydd Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru (CVW), yr elusen y tu 么l i鈥檙 Snug Coffee Shop a The Sycamore Centre: 鈥淩ydym wrth ein bodd yn cynnal y sesiynau hyn. Mae gwybod bod wyneb hapus yno bob wythnos yn gysur mawr i bobl ac mae鈥檔 werth y byd i lawer. Rydym yn gaffi sy'n canolbwyntio'n fawr ar y gymuned, felly mae'r fenter hon yn berffaith gan ein bod yn rhannu'r un gwerthoedd. Byddem yn annog mwy o leoliadau yng Nghymru i ymuno 芒'r cynllun. Byddai鈥檔 wych pe bai鈥檙 lliain bwrdd melyn smotiog yn dod yn rhywbeth cyffredin ar fyrddau mewn caffis, neuaddau eglwysi a chanolfannau cymunedol ledled Cymru.鈥
Ar hyn o bryd, mae gan y Cynllun Chatty Caf茅 tua 750 o fyrddau Chatter & Natter ledled y DU, mewn caffis, tafarndai, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal a siopau Costa Coffee. Fodd bynnag, mae trefnwyr yn credu bod potensial enfawr i lawer mwy o leoliadau yng Nghymru gymryd rhan.
Maent hefyd yn croesawu atgyfeiriadau gan bresgripsiynwyr cymdeithasol ac yn annog hyrwyddo'r fenter i unrhyw un y maent yn teimlo a allai elwa o'r sesiynau bwrdd Chatter & Natter wythnosol.
Dysgwch ragor am