Mae ambell enghraifft yn cynnwys cefnogi ymgeiswyr gwleidyddol neu gymryd ochr yn gyhoeddus ar faterion gwleidyddol. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os yw鈥檙 wyddoniaeth sy鈥檔 cael ei gynhyrchu yn gywir ac o ansawdd uchel.
Cyhoeddwyd ymchwil , gan Byron Hyde, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a鈥檙 Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Mae鈥檙 ymchwil yn dweud bod pobl yn ymddiried llai mewn gwyddoniaeth pan fydd wedi鈥檌 gymysgu 芒 gwleidyddiaeth.
Yn 么l yr astudiaeth, os caiff gwybodaeth wyddonol ei chyflwyno ochr yn ochr 芒 negeseuon gwleidyddol 鈥 fel cefnogi safbwyntiau gwleidyddol penodol - fod y cyhoedd yn tueddu edrych yn llai dibynadwy ar yr agwedd wyddonol honno, hyd yn oed os yw鈥檙 ymchwil yn un cadarn.
Eglura Hyde: 鈥淣i fedrwch wahanu gwyddoniaeth oddi wrth gymdeithas. Mae鈥檔 amhosibl cael gwyddoniaeth heb gefnogaeth y cyhoedd, sydd yn ei dro yn gofyn bod y cyhoedd yn ymddiried yn yr hyn y mae gwyddoniaeth yn ei wneud.鈥
Y brif neges yw bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn un o asedau pwysicaf gwyddoniaeth, a gall ymgysylltu gwleidyddol roi鈥檙 ymddiriedaeth honno mewn perygl.
Edrychodd yr astudiaeth hefyd ar resymau cyffredin y mae gwyddonwyr yn eu rhoi dros gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys datgan mai dyletswydd ddinesig ydy gwneud, neu fod cysylltiad agos rhwng gwyddoniaeth 芒 pholisi cyhoeddus. Pan gynyddodd ymgysylltiad gwyddoniaeth 芒 gwleidyddiaeth yn ystod Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2020, roedd cyfnodolion amlwg gan gynnwys Nature a Scientific American gwyddoniaeth yn datgan eu cefnogaeth i Joe Biden drwy honni bod angen iddynt amddiffyn gwyddoniaeth rhag bygythiadau gwleidyddol.
Daw鈥檙 astudiaeth i鈥檙 casgliad nad yw鈥檙 rhesymau hyn fel arfer yn ddigon cryf i gyfiawnhau colli ymddiriedaeth y cyhoedd. Dim ond mewn achosion prin y mae cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn gyfiawn, sef pan fo鈥檙 buddion 鈥 a鈥檙 tebygolrwydd o鈥檜 cyflawni 鈥 yn amlwg yn fwy na鈥檙 niwed i hygrededd. Nid oedd yr amodau hyn yn cael eu bodloni yn 2020 oherwydd bod cefnogaeth wleidyddol yn ddiangen ac yn aneffeithiol.
Er mwyn helpu i ddiogelu ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth, mae鈥檙 astudiaeth yn awgrymu, fel rheol gyffredinol, na ddylai gwyddonwyr ymrafael ym myd gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn argymell cynnal adolygiadau moeseg cyn i sefydliadau gymryd rhan mewn eiriolaeth wleidyddol, a sefydlu rheolau cliriach sy鈥檔 gwahanu mynegiant ffeithiau gwyddonol oddi wrth farn wleidyddol.
Mae Hyde yn pwysleisio: 鈥淵n y tymor hir, mae angen gwell addysg wyddonol fel y gall pobl wahaniaethu鈥檔 well rhwng tystiolaeth wyddonol a dadleuon gwleidyddol.鈥