Mae'r animeiddiad gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, Sefydliad Ymchwil Natur Norwy (NINA), Sefydliad Milfeddygol Norwy, ac UiT Prifysgol Arctig Norwy yn egluro esblygiad amrywiaeth enetig.
Mae eu hymchwil parhaus yn mynd i鈥檙 afael 芒 chanlyniadau ymateb rheolaethol i barasit pysgod ymledol. Defnyddiodd yr awdurdodau'r bioladdwr rotenone mewn sawl llyn yn Norwy i gael gwared ar yr holl bysgod, ac felly hefyd y parasit. Wedi hynny, cafodd y llynnoedd eu hail-lenwi 芒 physgod a fagwyd mewn caethiwed. Mae ymchwilwyr bellach yn archwilio beth mae'r ailosodiad hwnnw wedi'i olygu i amrywiaeth enetig ehangach poblogaethau pysgod. Eu pryder yw y gallai'r cwympiadau poblogaeth sydyn hyn fod wedi achosi colledion genetig sylweddol. Gyda llai o amrywiaeth enetig, efallai y bydd poblogaethau newydd yn llai gwydn i glefyd, yn llai abl i ymdopi 芒 newid amgylcheddol, ac yn fwy agored i heriau yn y dyfodol.
Dywedodd Charlie Gregory, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor a enillodd gyllid i animeiddio'r ymchwil: 鈥淓fallai bod y pysgod yn 么l yn y llynnoedd, ond efallai nad yw eu geneteg yr un peth. Ein nod yw gweld sut y gellir colli amrywiaeth enetig a pham mae angen i fonitro genetig fod yn rhan o unrhyw broject cadwraeth mawr, yn enwedig o ran ecosystemau d诺r croyw.鈥
Gan ddefnyddio samplau pysgod a gasglwyd cyn ac ar 么l y driniaeth bioladdwr, mae'r ymchwilwyr yn olrhain faint o amrywiad genynnol a ddiflannodd yn ystod y broses dileu ac ail-lenwi. Dywedodd Dr Amy Ellison, Darlithydd mewn parasitoleg a chronobioleg ym Mhrifysgol Bangor, fod y t卯m yn disgwyl dod o hyd i arwyddion o ostyngiad mewn amrywiaeth, a newidiadau mewn ymwrthedd i glefydau yn y poblogaethau newydd.
Mae'r project hefyd yn cynnig golwg ehangach ar sut mae ecosystemau'n ymateb i ymyriadau o'r fath. Yn ogystal ag astudio'r pysgod eu hunain, mae'r t卯m ymchwil hefyd yn archwilio sut mae cymunedau o barasitiaid yn ymateb pan fydd eu lletywyr yn diflannu'n sydyn.
Dywedodd Dr Rachel Paterson, ymchwilydd yn Sefydliad Ymchwil Natur Norwy: 鈥淢ae鈥檙 gwaith hwn yn tynnu sylw at broblem o fewn rheoli cadwraeth lle gall datrys un broblem greu problem arall yn anfwriadol. Llwyddodd y driniaeth rotenone i ddileu'r parasit ymledol ond mae angen i ni ofyn a yw hyn wedi achosi problemau genetig sylweddol i rywogaethau eraill. Mae'r llynnoedd hyn yn gyfle prin i fesur yn union beth sy'n cael ei golli pan fyddwn yn cael ein gorfodi i ailosod poblogaethau cyfan, a bydd y wybodaeth hon yn amhrisiadwy wrth wneud penderfyniadau mwy gwybodus mewn sefyllfaoedd tebyg ledled y byd.鈥
Mae systemau d诺r croyw ledled y byd yn wynebu pwysau o ganlyniad i golli cynefinoedd, rhywogaethau ymledol, llygredd a newid hinsawdd, ac mae deall sut mae poblogaethau'n gwella ar 么l dirywiad mawr yn hanfodol o ran llywio camau rheoli yn y dyfodol.
Ychwanegodd Dr Alex Papadopulos, Darllenydd mewn Ecoleg Foleciwlaidd a Genomeg ym Mhrifysgol Bangor: 鈥淎mrywiaeth enetig yw鈥檙 deunydd crai sydd ei angen ar boblogaethau i addasu a goroesi. Mae'r gwaith hwn yn archwilio sut a pham mae angen i ni ystyried canlyniadau genetig yn ein fframwaith gwneud penderfyniadau wrth ymateb i rywogaethau ymledol ac ystyried projectau cadwraeth mewn systemau d诺r croyw.