Mae gwyddonwyr wedi manteisio ar labordy naturiol annhebygol, sef y tomenni pridd a ffurfir gan gnofilod wrth iddyn nhw dyrchu. Defnyddir y twmpathau hyn i fodelu a rhagweld dyfodol dolydd blodau gwyllt alpaidd sydd mewn perygl difrifol ar Lwyfandir Tibet. - yn ddatblygiad arloesol o ran deall sut mae cymunedau planhigion yn ail-ffurfio ar 么l cael eu tarfu arnynt - gyda goblygiadau ar gyfer cadwraeth ledled y byd.
Yr Ymchwil
Mae'r astudiaeth wedi'i ysgrifennu gan Dr Farnon Ellwood, Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg a Chadwraeth o Brifysgol Bangor a'r Athro Dexiecuo Ai o Brifysgol Lanzhou, Tsieina (oedd hefyd yn arwain ar yr astudiaeth). Roedd y t卯m rhyngwladol hefyd yn cynnwys yr Athro Wenjin Li (Prifysgol Lanzhou) a'r Athro Annete Ostling (Prifysgol Texas yn Austin).
Canolbwyntiodd y t卯m ar socorau, sef cnofilod sy'n tyllu ac sy'n frodorol i Tsieina, Kazakhstan ac ardal Siberia yn Rwsia. Wrth i socorau gloddio am gloron a hadau gan ddefnyddio eu crafangau blaen nerthol, maen nhw鈥檔 creu tomenni o bridd ffres y mae rhywogaethau planhigion yn ymgartrefu鈥檔 gyflym arnynt. Gan fod y twmpathau hyn yn doreithiog, yn unffurf ac wedi'u hatgynhyrchu'n naturiol, maen nhw鈥檔 gwasanaethu fel system fodel ddelfrydol ar gyfer astudio sut mae cymunedau planhigion yn ailadeiladu eu hunain ar 么l cael eu tarfu arnynt.
Gan ddefnyddio'r twmpathau fel eu labordy, datblygodd yr ymchwilwyr fodel olyniaeth planhigion yn seiliedig ar wahanol garfanau. Mae鈥檙 model yn olrhain grwpiau o rywogaethau planhigion o wasgariad yr hadau, yr egino ac yn eu dilwn wrth iddyn nhw aeddfedu. Mae'r model yn dal rhythm tymhorol llawn planhigion dolydd alpaidd, sy'n cynhyrchu hadau yn y gwanwyn, yr haf a dechrau'r hydref, yna'n marw neu'n gaeafgysgu yn y gaeaf, gan ei wneud yn addas iawn ar gyfer dull amser arwahanol.
Pam fod hyn yn bwysig
Mae olyniaeth eilaidd, (sef y broses lle mae tir noeth neu wedi'i aflonyddu yn cael ei ail-gytrefu gan blanhigion) yn ganolog i adfer ecosystemau sydd wedi'u difrodi. Ar domenni wedi eu ffurfio gan socorau, mae'r broses hon yn datblygu dros ychydig flynyddoedd yn unig, gan ei gwneud hi'n llawer cyflymach ac yn haws i'w hastudio nag olyniaeth ar gaeau amaethyddol segur (sydd fel arfer yn cymryd degawd neu fwy) neu mewn coedwigoedd (a all gymryd sawl degawd).
Am y tro cyntaf, mae'r model newydd yn gwahanu prosesau stocastig, fel gwasgariad hadau ar hap, oddi wrth brosesau penderfyniadol, fel cywasgu pridd a achosir gan amodau amgylcheddol. Mae'r gwahaniaeth hwn wedi caniat谩u i'r t卯m ailysgrifennu'r "rheolau ymgynnull" sy'n sail i sut mae cymunedau planhigion yn ymffurfio ac yn sefydlogi.
Dywedodd Dr Farnon Ellwood, Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg a Chadwraeth ym Mhrifysgol Bangor: 鈥淩oedd ein model yn gallu rhagweld pa rywogaethau o blanhigion fyddai鈥檔 cael eu hidlo allan yn ystod olyniaeth, a pha rywogaethau fyddai鈥檔 gallu addasu i鈥檙 amodau amgylcheddol newidiol ac felly parhau. Mae ein model hefyd yn rhagweld gostyngiad mewn biomas gyda mwy o aflonyddwch yn ystod olyniaeth.鈥
Effaith Ehangach
Er bod yr astudiaeth yn uniongyrchol berthnasol i gadwraeth Llwyfandir Tibet 鈥 cartref i rai o ecosystemau alpaidd mwyaf bioamrywiol a bregus y byd 鈥 mae'r ymchwilwyr yn credu bod ei chymwysiadau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rhanbarth. Mae'r model wedi'i gynllunio i fod yn berthnasol yn gyffredinol, gan gynnig offeryn newydd ar gyfer rhagweld sut y gallai cymunedau planhigion ledled y byd ymateb i newid amgylcheddol parhaus.
Mae Dr Farnon Ellwood yn ychwanegu: 鈥淏ydd deall sut mae dolydd blodau gwyllt yn ymffurfio wrth gwrs yn hwyluso cadwraeth Llwyfandir Tibet, ond bydd modd cymhwyso鈥檙 model hwn yn fwy cyffredinol hefyd i ddeall tynged cymunedau planhigion y byd yn wyneb newid amgylcheddol byd-eang. Ac mae hyn i gyd diolch i weithgareddau cloddio rhai creaduriaid hyfryd sy'n gallu turio a chreu twmpathau gwerth chweil.鈥
Dywedodd yr Athro Dexiecuo Ai, Darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Lanzhou Tsieina: "Rydym ni鈥檔 cyflwyno model carfannol yn seiliedig ar darfu ac olyniaeth mewn cymunedau o blanhigion llysieuol, lle gall newidiadau amgylcheddol a phrosesau stocastig sy'n amrywio yn ddibynnol ar amser ill dau fod yn sail i olyniaeth. Gall y model ragweld olyniaeth planhigion ar dwmpathau pridd a gr毛wyd gan famaliaid."