Myfyrwyr Cyfrifiadureg yn Cyflwyno ac yn Ennill Cydnabyddiaeth yng Ngholocwiwm Lovelace BCSWomen 2026 yng Nghaerfaddon
Yn ddiweddar, mynychodd myfyrwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor y 19eg Colocwiwm Lovelace blynyddol BCSWomen, a gynhaliwyd eleni gan Brifysgol Caerfaddon ar 8-9 Ebrill 2026.
Colocwiwm Lovelace BCSWomen yw prif ddigwyddiad y Deyrnas Unedig ar gyfer merched a myfyrwyr anneuaidd sy鈥檔 astudio pynciau ym maes cyfrifiadura, gan ddarparu llwyfan i fyfyrwyr gyflwyno eu projectau, ymgysylltu 芒 diwydiant ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol.
Eleni, mynychodd pedwar myfyriwr o Fangor y digwyddiad, a chyflwynodd tri ohonynt bosteri. Un o uchafbwyntiau cyfranogiad Prifysgol Bangor oedd llwyddiant Christina Harley (BSc Cyfrifiadureg yn ei hail flwyddyn), a gafodd yr ail wobr yng nghategori Dewis y Bobl am ei phoster ar ddiddymu dolenni a cholli gwybodaeth. Wrth adfyfyrio ynghylch y profiad, dywedodd Christina:
Roedd Colocwiwm Lovelace 2026 yn brofiad cofiadwy, ac rydw i鈥檔 falch iawn o fod wedi dod yn ail yng nghategori Dewis y Bobl am fy mhoster ar ddiddymu dolenni a cholli gwybodaeth! Cafodd y digwyddiad ei hun ei gynnal dros ddau ddiwrnod ac roedd yn cynnwys gwahanol weithdai a chyflwyniadau gan amrywiaeth eang o gwmn茂au鈥� rhoddodd gipolwg anhygoel i mi ar sut beth yw gweithle technoleg mewn gwirionedd鈥� Yr uchafbwynt i mi oedd yr arddangosfa posteri ei hun鈥� Fe wnes i lawer o gysylltiadau gwerthfawr鈥� Rydw i鈥檔 gobeithio mynd i鈥檙 colocwiwm flwyddyn nesaf yn Birmingham a byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o bobl o Fangor yno hefyd!
Pwysleisiodd Bethan Wilkes (BSc Gwyddor Data Cymhwysol yn ei thrydedd flwyddyn) natur gynhwysol a grymusol y digwyddiad:
Cefais amser anhygoel yng Ngholocwiwm Lovelace鈥� ychydig ddyddiau a roddodd ddealltwriaeth wirioneddol鈥� Siaradais 芒 rhai myfyrwyr yr oedd eu posteri am dechnoleg ac arloesedd mewn iechyd鈥� Y prif beth a gefais ohono oedd pa mor rymusol yw bod yn y maes hwnnw, a GALLWCH chi lwyddo! Byddwn i'n argymell i unrhyw un sydd 芒 diddordeb gofrestru ar ei gyfer, mae'n brofiad gwych.
Yn yr un modd, tynnodd Steph Parry (BSc Cyfrifiadureg yn ei thrydedd flwyddyn) sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael:
Cefais gymaint o hwyl鈥� roedd yn ddiddorol iawn gweld yr holl brojectau gwahanol鈥� roedd llwythi o stondinau gwych鈥� lle gallech chi gael sgwrs go iawn am PhDs, swyddi a gyrfaoedd. Profiad gwirioneddol ysbrydoledig a diwrnod gwych.
Wrth adfyfyrio ynghylch y profiad cyffredinol, ychwanegodd Grey Bray (MSc Cyfrifiadureg ar gyfer Gwyddor Data):
Hwyl dda! Llawer o chwerthin a chyfle i wneud cysylltiadau. Dau ddiwrnod hyfryd yn rhwydweithio a dysgu gan weithwyr proffesiynol o'r diwydiant/byd academaidd.
Roedd y digwyddiad deuddydd yn cynnwys prif anerchiadau, sesiynau gr诺p ac arddangosfeydd posteri, gan gynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr arddangos eu gwaith ac ymgysylltu 芒 chyfoedion a gweithwyr proffesiynol ar draws cymuned gyfrifiadura鈥檙 Deyrnas Unedig.
Mae'r Ysgol yn falch o lwyddiannau鈥檙 myfyrwyr ac yn edrych ymlaen at gefnogi mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am Golocwiwm Lovelace BCSWomen ar gael yn