Ysgol Fusnes Albert Gubay yn dathlu llwyddiant graddedigion ym Mhrifysgol Bangor
Bu diwrnod balch iawn ym Mhrifysgol Bangor wrth i Ysgol Fusnes Albert Gubay ddathlu llwyddiant myfyrwyr israddedig, 么l-raddedig a PhD mewn seremoni raddio ar y campws.
Daeth y digwyddiad 芒 myfyrwyr, staff a chefnogwyr ynghyd i gydnabod llwyddiant ar bob lefel o astudio, yn ogystal 芒 thynnu sylw at y perfformiadau eithriadol a welwyd drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Fel rhan o鈥檙 dathliadau, cynhaliodd yr Ysgol seremoni wobrwyo israddedig i gydnabod cyflawniadau unigol rhagorol. Cefnogwyd y seremoni gan gynrychiolwyr o gyrff proffesiynol blaenllaw, a oedd yn bresennol i gyflwyno gwobrau i fyfyrwyr. Ymhlith y rhain roedd Lisa Madariaga o Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Lerpwl (LSCA), Amy Lord o Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig De Cymru (SWSCA), a Sophie Bennett o鈥檙 Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).
Roedd eleni hefyd yn garreg filltir bwysig i鈥檙 Ysgol, gyda鈥檙 garfan gyntaf o raddedigion dyfarniad deuol CMI. Enillodd y myfyrwyr achrediad deuol ochr yn ochr 芒鈥檜 gradd drwy raglenni Lefel 5 a Lefel 7, gan sicrhau cymhwyster proffesiynol ychwanegol sy鈥檔 cryfhau eu cyflogadwyedd a鈥檜 cymwysterau arwain.
Roedd y diwrnod yn adlewyrchu ymroddiad, uchelgais a gwydnwch y myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, yn ogystal 芒鈥檙 ymdeimlad cryf o gymuned sy鈥檔 nodweddu Ysgol Fusnes Albert Gubay.
Mae Prifysgol Bangor yn llongyfarch ei holl raddedigion ar eu llwyddiannau ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd.