Mae House of the Dragon yn ddrama ffantasi sy’n cael ei gynhyrchu gan HBO. Mae’n rhagflaenydd i’r gyfres hynod boblogaidd Game of Thrones, a ddarlledwyd rhwng 2011 a 2019. Mae gan y gyfres gast hynod enwog yn cynnwys y Cymro, Rhys Ifans, a seren The Crown, Matt Smith. Ffilmiwyd nifer o’r golygfeydd ar gyfer y drydedd gyfres yng Ngogledd Cymru.
Treuliodd Kieran, a oedd yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ar y pryd, chwe wythnos yn gweithio gyda’r Adran Oleuo, sy’n cydweithio’n agos â’r Adran Gamera ar un o gynyrchiadau teledu mwyaf uchelgeisiol y byd. Trefnwyd y lleoliad drwy Academi Sgrin Cymru fel rhan o fenter Cymru Greadigol i gynnig cyfleoedd proffesiynol o ansawdd uchel i bobl ifanc yng Nghymru.
Yn ystod ei amser ar y set, cafodd Kieran brofiad uniongyrchol ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan arsylwi ar lifoedd gwaith cynhyrchu ar raddfa fawr a chael cipolwg unigryw ar y prosesau creadigol a thechnegol y tu ôl i un o brif gyfresi HBO.
Dywedodd Kieran, wnaeth ffilmio gyda’r criw ym Mehefin 2025, “Roedd gweithio ar House of the Dragon fel hyfforddai goleuo yn brofiad anhygoel. Fe wnes i ddysgu sut i greu awyrgylch drwy oleuo, mi wnaeth o hefyd roi'r cyfle i mi ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol ar gynhyrchiad o safon fyd-eang. Mae gweld sut mae pob adran yn cydweithio gyda'i gilydd wedi fy ysbrydoli i ddechrau fy ngyrfa yn y diwydiannau teledu a ffilm."
Cafodd myfyrwyr o'r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau eu gwahodd hefyd i ymweld â'r set yn Llanddwyn, lle'r oedd y cynhyrchiad yn ffilmio. Ymwelodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, a'r Athro Edmund Burke, Is-ganghellor, â'r set yng nghwmni'r myfyrwyr.
Dywedodd Yr Athro Ruth McElroy,"Rwyf wrth fy modd bod Kieran wedi cael y cyfle gwych hwn drwy Academi Sgrin Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi datblygiad proffesiynol myfyrwyr ac i gryfhau ein partneriaethau â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."