Roedd Cynhadledd Gyhoeddi The British Journal of General Practice (BJGP) a gynhaliwyd ym mis Mawrth, yn gyfle i ddod ag ymchwilwyr academaidd a gofal cychwynnol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt ynghyd, gan gynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r cyfranogwyr ar y broses gyhoeddi drwy sesiynau addysgu dan arweiniad arbenigwyr, cyflwyniadau llafar ac arddangosfeydd posteri.
Un uchafbwynt penodol oedd profiad y myfyriwr meddygaeth Aleks Tanaka, a roddodd gyflwyniad llafar o'i hymchwil i gynulleidfa genedlaethol. Mae cyfleoedd o'r fath yn anghyffredin ar lefel israddedig, ac mae'r profiad eisoes wedi cyfrannu at gyhoeddiad academaidd dilynol (Tanaka et al., 2026).
Rhoddodd y gynhadledd ddealltwriaeth ymarferol i'r pedwar myfyriwr o'r daith o gysyniad ymchwil i bapur cyhoeddedig. Drwy sesiynau dan arweiniad ymchwilwyr profiadol a golygyddion cyfnodolion, cawsant ddysgu sut mae llawysgrifau'n cael eu datblygu, eu hadolygu a'u diwygio, yn ogystal â sut mae canfyddiadau ymchwil yn cael eu cyfleu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chynulleidfaoedd ehangach.
Yn ogystal â'r rhaglen ffurfiol, cafodd y myfyrwyr elwa ar gyfleoedd rhwydweithio gydag academyddion ac ymchwilwyr profiadol, gan ennill profiad uniongyrchol o sut mae ymchwil yn cael ei thrafod, ei chraffu a'i datblygu o fewn y gymuned academaidd.
Mae'r profiad wedi cryfhau hyder a brwdfrydedd y myfyrwyr dros ymchwil, gan eu hysbrydoli i ddilyn cyfleoedd pellach trwy eu Helfennau a Ddewisir gan Fyfyrwyr a phrojectau academaidd eraill yn ystod y flwyddyn nesaf.
Rhoddodd y gynhadledd brofiad uniongyrchol iddynt o gyhoeddi academaidd a chyflwyno ymchwil, gan gefnogi datblygiad parhaus ymchwil dan arweiniad myfyrwyr o fewn Canolfan Ymchwil Gofal Cychwynnol Gogledd Cymru.
Dywedodd Dr Rebecca Payne, Uwch Ddarlithydd Clinigol – Ysgol Feddygol Gogledd Cymru:
Drwy gefnogi cyfleoedd fel hyn, mae rhoddwyr Cronfa Bangor yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r uchelgais sydd ei angen arnynt i gyfrannu at ddyfodol ymchwil gofal iechyd. Diolch i'r cyn-fyfyrwyr y gwnaeth eu rhoddion a’u cefnogaeth i Gronfa Bangor y cyfle hwn yn bosibl.
Mae Cronfa Bangor yn dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Prif amcan y gronfa yw darparu elfen ychwanegol at brofiad myfyrwyr.
Aleks Tanaka, myfyriwr israddedig Meddygaeth, yn cyflwyno mewn cynhadledd y BJGP
Dysgwch ragor am Gronfa Bangor