Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru a Phrifysgol Gynaliadwy'r Flwyddyn yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2027.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi codi chwe safle yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, gan ddringo o safle 59 i 53 allan o 130 o sefydliadau, ac mae bellach yn drydydd yng Nghymru, y tu 么l i Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
Mae'r canlyniadau hyn yn cynrychioli cynnydd gwerth 7% yn sg么r gyffredinol Prifysgol Bangor ac yn adeiladu ar gynnydd o bum safle'r Brifysgol a gyflawnwyd y llynedd.
Mae uchafbwyntiau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Safle 53 yn y Deyrnas Unedig, i fyny chwe lle o 2026.
- Safle 3 yng Nghymru yn gyffredinol.
- Safle 2 yng Nghymru am Ansawdd Ymchwil.
- Safle 3 yng Nghymru am Ragolygon Graddedigion a'r Tariff Mynediad Cyfartalog.
- Gwelliannau cryf mewn Rhagolygon Graddedigion ac Ansawdd Addysgu.
Mae pum maes pwnc Prifysgol Bangor wedi eu rhestru yn y chwartel uchaf yn genedlaethol, gan gynnwys tri sydd ymhlith y 10% uchaf o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig: Celf a Dylunio (safle 5 allan o 81 o sefydliadau), Astudiaethau Diwylliannol (safle 2 allan o 27 o sefydliadau, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu astudiaethau Cymreig, Celtaidd a meysydd cysylltiedig), a Radiograffeg (safle 3 allan o 29 o sefydliadau).
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, "Mae cael ein henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru a Phrifysgol Gynaliadwy'r Flwyddyn 2027 gan The Times a The Sunday Times yn gamp nodedig i gymuned gyfan y Brifysgol.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos cryfder ein cymuned ac effaith y gwaith sy'n digwydd ar draws y sefydliad bob dydd. Yn ogystal 芒 gwella ein henw da yn genedlaethol, mae'r anrhydeddau hyn hefyd yn rhoi cymeradwyaeth bwerus i ddarpar fyfyrwyr sy'n ystyried Prifysgol Bangor."