Ymchwilydd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ennill Gwobr Archif Menywod Cymru 2026
Mae pawb sy'n gysylltiedig 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch iawn o glywed bod ein hymchwilydd doethurol, Daisy Hughes, wedi ennill Gwobr Avril Rolph 2026 am y papur ymchwil gwreiddiol gorau ar hanes merched yng Nghymru. Derbyniodd Daisy y wobr yn 29ain Cynhadledd Archif Menywod Cymru, a gynhaliwyd yn Stadiwm Abertawe ddydd Sadwrn 4 Hydref.
Sefydlwyd Archif Menywod Cymru ym 1997 ac mae鈥檔 gweithio i godi proffil hanes merched yng Nghymru a diogelu'r ffynonellau sy'n adrodd eu hanes. Enwyd Gwobr Avril Rolph ar 么l cyn is-lywydd y gymdeithas a chynhigir y wobr fel bwrsariaeth flynyddol i helpu hyrwyddo ymchwil myfyrwyr i fywydau, swyddogaethau a phrofiadau merched yn hanes Cymru.
Eleni, cafwyd wyth cais rhagorol 鈥� y nifer uchaf a gafwyd erioed. Gwahoddwyd pob ymgeisydd i gyflwyno eu papurau yn y gynhadledd flynyddol. Yn ogystal 芒'r traethawd buddugol, cymerodd dwy fyfyrwraig arall o Fangor ran yn y gystadleuaeth. Traddododd Issy Marston, myfyrwraig MA ar y radd Treftadaeth Fyd-eang ym Mangor, bapur ar 鈥楲ady Margaret Verney (1844-1930): Rediscovering the Life and Achievements of a Welsh Aristocratic Woman鈥�, a oedd yn seiliedig ar asesiad a gyflwynodd y llynedd i fodiwl Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar Ail-ddehongli'r Plasty. Cyflwynodd Clair Lober, ymchwilydd doethurol gydag Ysgol y Gymraeg, 'Papurau'r Athro Rachel Bromwich', y mae hi'n helpu i'w catalogio yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.
Teitl papur Daisy oedd 鈥樷�楰eeping the House Together鈥�: Emotional Labour and Female Estate Authority in North Wales, 1600-1800鈥�, sy'n rhan o'i phroject ymchwil doethurol gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, dan oruchwyliaeth Dr Shaun Evans a Dr Karen Pollock.
Beirniaid y wobr eleni oedd Dr Christine Campman, cyn Aelod Cynulliad Cwm Cynon, Dr Steve Thompson, Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth a Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig Archifau Prifysgol Bangor.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Daisy Hughes:
Mae鈥檔 anrhydedd mawr ac rwy鈥檔 hynod ddiolchgar o ennill Bwrsariaeth Avril Rolph. Roeddwn i wedi fy synnu ac yn falch ofnadwy o gael y gydnabyddiaeth hon gan Archif Menywod Cymru, ac rwy'n hynod falch bod fy ymchwil wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae'n anogaeth wych i mi barhau 芒'r gwaith.
Wrth siarad am gyfraniad ehangach Prifysgol Bangor at gystadleuaeth eleni, meddai Shan Robinson:
Rwyf mor falch o fyfyrwyr Bangor, maen nhw wedi gwneud cystadleuaeth eleni yn anodd iawn i'w beirniadu. Roedd y safon mor uchel, sy'n argoeli'n dda i hanes merched yn y dyfodol. Mae'n dda gweld bod hanes merched yng Nghymru yn fyw ac yn iach ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai Dr Shaun Evans:
Rydym yn hynod falch o lwyddiant Daisy. Mae Archif Menywod Cymru yn gwneud gwaith mor wych o hyrwyddo hanes merched yng Nghymru, ac mae'n wych bod Daisy, Issy a myfyrwyr eraill yn cael cyfle i rannu eu gwybodaeth a'u canfyddiadau yn y gynhadledd flynyddol 鈥� gyda chynulleidfa mor gyfeillgar, gefnogol ac arbenigol. Mae hanes merched yn rhan mor bwysig o hunaniaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae鈥檔 ffurfio rhan ganolog o lawer o'n projectau doethurol, ac mae'n destun cyffro mawr gweld sut mae'r elfen hanfodol hon o gymdeithas Cymru bellach yn cael ei hail-ddehongli a'i datgelu o flaen ein llygaid. Llongyfarchiadau enfawr Daisy!
I gael rhagor o wybodaeth am Archif Menywod Cymru, . Am ragor o wybodaeth am ymchwil doethurol Daisy, ewch i dudalen y prosiect ar wefan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.