Pan fydd ton wres forol yn taro, mae gwyddonwyr yn aml yn troi at loerennau i weld sut mae'r cefnfor yn ymateb. O'r gofod, gall newidiadau i liw'r cefnfor ddatgelu newidiadau mewn ffytoplancton, organebau microsgopig sy'n ffurfio sylfaen gweoedd bwyd morol ac yn chwarae rhan hanfodol yn y gylchred garbon fyd-eang. Ond mae gan loerennau wendid sylfaenol: dim ond wyneb y cefnfor y gallant ei weld.
Daeth hynny'n amlwg yn ystod ton wres forol eithafol ym M么r y Gogledd ym mis Mehefin 2023, pan ddarganfu ymchwilwyr ymateb biolegol trawiadol yn datblygu o dan yr wyneb.
Gan ddefnyddio gleider cefnfor ymreolaethol, bu ymchwilwyr o National Oceanography Centre (NOC) y Deyrnas Unedig yn monitro'r d诺r yng ngogledd-orllewin M么r y Gogledd yn barhaus wrth i'r don wres ddatblygu. Roedd yr hyn a ddarganfuwyd ganddynt yn wahanol iawn i'r darlun a ddaeth o arsylwadau lloerenni.
Er mai dim ond cynnydd byr mewn ffytoplancton ger yr wyneb a ganfu鈥檙 lloerennau, cofnododd y gleider gynnydd llawer mwy a mwy cynaliadwy yn ddyfnach yn y golofn dd诺r.
Mae鈥檙 canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn yn datgelu sut y gall newidiadau sylweddol mewn ecosystemau morol ddigwydd o dan yr wyneb, heb i鈥檙 lloerennau eu gweld.
Bl诺m ffytoplancton cudd
Organebau bach, ffotosynthetig sy'n drifftio yn y cefnfor yw ffytoplancton. Er eu bod yn ficrosgopig, maent yn cynnal ecosystemau morol ar raddfa enfawr, gan ddarparu bwyd i organebau sy鈥檔 amrywio o s诺oplancton i bysgod a morfilod.
Mewn moroedd sydd wedi eu haenu'n dymhorol fel M么r y Gogledd, gall ffytoplancton gasglu mewn haen a elwir yn uchafswm cloroffyl islaw'r wyneb. Gall yr haen hon orwedd o dan yr wyneb, lle mae amodau fel golau a maetholion yn ffafriol ar gyfer twf.
Yn ystod ton wres mis Mehefin 2023, cynyddodd crynodiadau ffytoplancton yn yr haen hon yn sylweddol iawn.
Mae crynodiadau nodweddiadol 么l-fl诺m yn y rhanbarth tua 1-2 miligram y metr ciwbig. Yn ystod y don wres, cododd crynodiadau uwchlaw 3 miligram fesul metr ciwbig, gydag uchafsymiau byrhoedlog o fwy na 9 miligram fesul metr ciwbig.
Yn hollbwysig, parhaodd y crynodiadau uchel hyn am dros wythnos ac roeddent yn sylweddol uwch nag arsylwadau hanesyddol yn y rhanbarth ym mis Mehefin. Eto i gyd, byddai llawer o'r newid hwn wedi bod yn anweledig o'r gofod.
Mae'r astudiaeth, dan arweiniad ymchwilwyr yn National Oceanography Centre y Deyrnas Unedig mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol Bangor a phartneriaid eraill, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfuno arsylwadau lloerenni 芒 thechnolegau cefnfor ymreolaethol i ddeall sut mae ecosystemau morol yn ymateb i eithafion hinsawdd.
"Roedd y gleiderau cefnfor ymreolaethol yn caniat谩u inni arsylwi'r don wres forol wrth iddi ddigwydd a datgelu newidiadau biolegol a fyddai wedi bod yn anodd eu gweld gydag arolygon llongau traddodiadol neu loerennau yn unig," meddai Dr Charlotte Williams, eigionegydd ffisegol yn NOC a phrif awdur yr astudiaeth.
"Mae'r technolegau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i fonitro sut mae ein cefnforoedd yn ymateb i eithafion hinsawdd."
Meddai Tom Rippeth, Athro Eigioneg Ffisegol ym Mhrifysgol Bangor ac un o gydawduron yr astudiaeth, "Mae'r canlyniadau newydd hyn yn dangos, pan fyddwn yn meddwl am effaith tonnau gwres morol ar fywyd morol, nad y cynnydd yn nhymheredd y d诺r yw'r prif ffactor, ond y newid yn haeniad y golofn dd诺r."
"Mae'r newid hwn yn effeithio ar ddau o'r prif ffactorau sy'n cynnal bywyd yn y cefnfor: golau a maetholion hydoddedig."
Darllenwch yr astudiaeth lawn:
Ymchwil: Cynhaliwyd yr astudiaeth fel rhan o鈥檙 project Physics to Ecosystem Level Assessment of Impacts of Offshore Windfarms (PELAgIO), rhan o raglen ECOWind. Mae ECOWind wedi ei gyd-gyllido gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) a'r rhaglen Offshore Wind Evidence and Change dan grant NE/X008835/1. Cefnogwyd Jo Hopkins gan grant NE/Y005589/1 Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.