Plac Porffor i ‘Fam Mycoleg’: Mary Lloyd Wynne o Goed Coch
Fis diwethaf, dadorchuddiwyd plac porffor ar gyfer y botanegydd a’r mycolegydd Mary Lloyd Wynne (née Haggitt; 1813–1895) o Goed Coch yn Eglwys Sant Mihangel ym Metws-yn-Rhos, ger Abergele.
Byddwch yn sicr yn gyfarwydd â'r placiau glas sydd i'w gweld ledled y Deyrnas Unedig, sy'n nodi cysylltiad rhwng lleoliad a pherson enwog, digwyddiad, neu adeilad a fu'n bodoli yn y gorffennol. Er bod amcangyfrif o 250 o blaciau glas yng Nghymru, dim ond nifer fechan ohonynt sy'n cydnabod cyflawniadau menywod. Lansiwyd ymgyrch ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2017. Dyma ymgyrch a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n dyfarnu placiau porffor i fenywod eithriadol – boed yn Gymraesau, yn fenywod a oedd yn byw yng Nghymru, neu'n rhai oedd â chysylltiadau cryf â Chymru. Nid oedd llawer ohonynt wedi cael eu cydnabod o'r blaen, neu cawsant eu 'gadael allan o lyfrau hanes yn llwyr'. Hyd yma, maent wedi dyfarnu 26 o blaciau i amrywiaeth o ymgyrchwyr, awduron, menywod ym myd chwaraeon, ac arloeswyr yn eu meysydd, gan 'gadarnhau eu hetifeddiaeth yn hanes Cymru'. Gallwch weld rhestr gyflawn o'r placiau porffor .
Mae'r plac porffor diweddaraf o ddiddordeb arbennig i ni yn y Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, gan ei fod yn coffáu cyflawniadau boneddiges sydd â chysylltiad agos ag ystâd Coed Coch ym Metws-yn-Rhos, yn sir hanesyddol Sir Ddinbych. Yn cael ei hadnabod fel ‘mam mycoleg’, Mary Lloyd Wynne (née Haggitt; 1813–1895) oedd arbenigwraig fenywaidd gyntaf Cymru ym maes ffyngau. Yn ddiweddar, roedd hi’n destun papur rhagorol yn gan Dr John Edmonson, sef un o’r unigolion a’i henwebodd ar gyfer plac.
Dechreuodd diddordeb Mary mewn ffyngau yn y 1830au, pan symudodd o Swydd Gaergrawnt i ystâd Coed Coch yn dilyn ei phriodas â John Lloyd Wynne (1807–1887), tirfeddiannwr pwysig yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Gyda’i choetiroedd helaeth a’i glaw trwm, roedd ystâd Coed Coch yn amgylchedd perffaith i fadarch dyfu. Cofnododd Mary y rhywogaethau a welodd yn ei chartref newydd yn ofalus, gan greu darluniau manwl, a dechreuodd gyhoeddi ei chanfyddiadau yn y 1850au. Darganfu o leiaf bum rhywogaeth newydd yno, a gafodd eu henwi ar ei hôl yn ddiweddarach; yn eu plith roedd Marasmius wynneae, gyda’r enw ‘Wynneae’ yn cyfeirio at ei gyfenw. Diolch i waith Mary, cyn hir ystyriwyd Coed Coch y safle mycolegol cyfoethocaf yn holl ogledd Cymru.
Un agwedd ddiddorol ar waith Mary ym maes mycoleg yw'r ffordd y manteisiodd ar ei statws uchel a'i chysylltiadau â'r dosbarth aristocrataidd. Er enghraifft, defnyddiodd gysylltiadau ei gŵr – a oedd yn Ynad Heddwch – i drefnu ymweliad cyntaf Miles Berkeley (1803–1889), un o sylfaenwyr mycoleg ym Mhrydain, â Coed Coch. Yn wir, trefnodd Mary nifer o deithiau casglu ffyngau i’w chyd-fycolegwyr yn Coed Coch, gan barhau â thraddodiad hir o groesawgarwch a arferid gan foneddigesau Cymreig. Defnyddiodd yr un rhwydweithiau i drefnu teithiau casglu ledled Prydain ac Ewrop, mewn gwledydd fel Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen a’r Swistir. Roedd Mary yn cymryd rhan weithredol yn y 'Woolhope Naturalists’ Field Club' – cymdeithas naturiaethwyr a sefydlwyd yn Henffordd ym 1851 – gan gynnwys darparu gwobrau ar gyfer cystadlaethau. Fel y nododd Dr Edmonson yn ei bapur, roedd cyfranogiad a nawdd aelod o’r dosbarth uchaf yn helpu i ‘ddilysu gweithgareddau’ ac ‘ychwanegu at fri’ y clwb.
Daeth Mary yn enwog yn rhyngwladol ym maes mycoleg; tystiolaeth o hyn yw'r ffaith bod ei halbymau a'i sbesimenau wedi'u cadw yn Archifau'r Gerddi Botanegol Brenhinol, Kew. Fodd bynnag, ni chafodd y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu. Gwrthodwyd hi gan nifer o sefydliadau gwyddonol a'i hatal rhag cyflwyno gwaith mewn cynadleddau, am ei bod yn fenyw. Ym 1860, cyflwynodd Berkeley ei lyfr Outlines of British Fungi i Mary, a rhestrodd dri deg dau o rywogaethau a welwyd yn Coed Coch, ond ni nododd mai hi oedd y casglwr. Cyn diweddar â 1996, cafodd ei hepgor o'r rhestr o 'Fycolegwyr Prydeinig' yn y llyfr Brief Biographies of British Mycologists gan Webster a Moore.
Yn ffodus, mae camau bellach yn cael eu cymryd i sicrhau bod cyfraniad sylweddol Mary i faes mycoleg yn cael ei gydnabod yn ffurfiol. Yn ddiweddar, newidiwyd enwau’r rhywogaethau ffyngau a ddarganfuwyd ganddi o wynnei i wynneae, er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod wedi’u henwi ar ôl menyw. Mae’r plac porffor, a ddadorchuddiwyd mewn seremoni arbennig ar 24 Medi, yn gam pwysig tuag at dynnu sylw ehangach y cyhoedd yng Nghymru at ei chyflawniadau. Dewiswyd Eglwys St Michael ym Metws-yn-Rhos fel lleoliad ar gyfer y plac. Er i Mary farw a chael ei chladdu yn Bienne, y Swistir, mae’r eglwys yn arwyddocaol gan mai dyma fan gorffwys olaf ei gŵr a theulu ehangach y Wynneiaid. I Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Mary yn cynnig astudiaeth achos ragorol o’r modd y gallai ystâd wledig lunio diddordebau a gweithgareddau unigolyn, gan ei galluogi i wneud cyfraniad sylweddol i faes cyfan o astudiaeth wyddonol.