Mae pedwar project ymchwil amgylcheddol wedi arwain at ddatblygiadau gwyddonol sylweddol gan ychwanegu at waddol y cyn-fyfyriwr Dr Robert Perrin (Gwyddor Pridd, 1948), Roedd y projectau鈥檔 canolbwyntio ar forfeydd heli, llygredd plastig yn y m么r, ecosystemau carbon glas ac adfer morwellt, ac maent wedi dangos sut y gall cefnogaeth ddyngarol sbarduno rhagoriaeth ymchwil wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol.
Trwy鈥檙 grantiau daeth academyddion o Brifysgol Bangor a myfyrwyr israddedig at ei gilydd i fynd i'r afael 芒 rhai o鈥檙 heriau amgylcheddol mwyaf dybryd. Ynghyd 芒 chynhyrchu gwybodaeth newydd, mae鈥檙 projectau wedi cryfhau partneriaethau ymchwil, wedi gwella cyfleusterau arbenigol ac wedi cynnig profiad ymarferol o ran gwaith maes, technegau labordy a dadansoddi gwyddonol.
Yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, bu Dr Karina Marsden, Darlithydd mewn Gwyddor Amgylcheddol ac arweinydd y project, ac Anthony Gunning, myfyriwr Gwyddor yr Amgylchedd, yn ymchwilio i gynhyrchiant a threuliant ocsid nitrus yng ngwaddodion morfeydd heli. Fe wnaeth y project ddarparu tystiolaeth newydd am y ffactorau sy'n dylanwadu ar allyriadau nwyon t欧 gwydr, ynghyd 芒 chefnogi datblygu labordy newydd ac agor y drws ar gyfleoedd am ragor o gyllid a chydweithio yn y dyfodol.
Yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, bu Dr Sophie Ward, Darlithydd mewn Cadwraeth Forol, yn gweithio gyda'r fyfyrwraig israddedig Marina de Llobet i archwilio sut mae treillio gwely鈥檙 mor yn effeithio ar waddodion carbon-gyfoethog yn y m么r, a thrwy hynny, cyfrannu at well dealltwriaeth o鈥檙 pwysau ar ecosystemau carbon glas.
Dywedodd Dr. Ward:
Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfleoedd y mae etifeddiaeth Dr Perrin wedi鈥檜 darparu. Yn gyffredinol, mae effaith y wobr wedi ymestyn ymhell y tu hwnt i gwmpas y prosiect haf gwreiddiol. Darparodd y sylfaen ar gyfer gradd MScRes, galluogodd gyflwyniadau mewn cynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol, cefnogodd hyfforddiant arbenigol, a helpodd i baratoi ymchwilydd addawol ar ddechrau ei yrfa ar gyfer cam nesaf ei ddatblygiad proffesiynol.
Cyflwynwyd gwaith Marina de Llobet mewn dwy gynhadledd: Cyfarfod Gwyddorau Cefnforoedd Undeb Geoffisegol America yn Glasgow a Chynhadledd Gwyddonwyr a Pheirianwyr Arfordirol Ifanc yn Nottingham.
Bu Dr Winnie Courtene-Jones, Darlithydd mewn Llygredd Morol, ac Arwen Wall, myfyrwraig Bioleg M么r, yn ymchwilio i sut mae cymunedau bio-lygru鈥檔 cytrefu plastigion yn yr amgylchedd morol. Cynhyrchodd y project fewnwelediadau newydd i fioamrywiaeth forol a diraddiad plastig, ac mae鈥檙 canfyddiadau bellach yn cael eu paratoi i'w cyhoeddi.
Arwen Wall undertaking biochemical analyses in the lab
Yn y cyfamser, bu Dr Katie DuBois, Darlithydd mewn Bioleg M么r, a'r ymchwilydd israddedig, June Waddle, yn ymchwilio i sut mae cymunedau o anifeiliaid sy'n trigo mewn gwaddodion yn dylanwadu ar iechyd ecosystemau morwellt a llwyddiant yr ymdrechion i adfer yr ecosystemau hynny. Mae eu gwaith wedi datgelu cysylltiadau pwysig rhwng bioamrywiaeth, cynhyrchedd morwellt a chylchu carbon, gan greu cyfleoedd hyfforddi i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Student research team for deployment and breakdown of the seagrass experimental restoration trial. Perrin Award Placement, June Waddle, is on the far right.
Drwy gyfrwng darganfyddiadau newydd, cydweithrediadau cryfach a phrofiadau trawsnewidiol i fyfyrwyr, mae'r projectau hyn yn parhau i adlewyrchu ymrwymiad Dr Robert Perrin i hyrwyddo ymchwil amgylcheddol a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy.
Wrth adfyfyrio ar effaith y wobr, dywedodd Dr Marsden:
Mae'r project hwn wedi dod 芒 llawer o fanteision, a dan ni鈥檔 ddiolchgar am y gefnogaeth dan ni wedi鈥檌 chael trwy gymynrodd Dr Perrin. Mae ei angerdd o dros ddeall a gwarchod y byd naturiol yn parhau trwy鈥檙 cyfraniad a wnaeth at ymchwil amgylcheddol. Mae ei ymrwymiad yn parhau i ysbrydoli a grymuso ein hymchwilwyr ac yn sicrhau bod y weledigaeth a oedd ganddo o sicrhau dyfodol cynaliadwy鈥檔 parhau鈥檔 fyw o hyd.
Dywedodd y Swyddog Datblygu, Persida Chung:
Wrth i'r projectau hyn ddod i ben, maen nhw鈥檔 dangos yr effaith y mae cymynrodd y cyn-fyfyriwr Dr Robert Perrin yn ei chael. Mae ei ymrwymiad i Brifysgol Bangor wedi galluogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i fynd i'r afael 芒 heriau amgylcheddol pwysig, datblygu sgiliau gwerthfawr a chyfrannu at ymchwil newydd. Rydym ni yn y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr wedi ein hysbrydoli i weld sut y gall rhoddion fel hyn greu cyfleoedd sy'n fuddiol i'n myfyrwyr ac i gymuned ymchwil y Brifysgol, gan estyn cyfraniad ein cyn-fyfyrwyr i genedlaethau'r dyfodol.