Sefydliad Confucius yn cyd-gynnal ysgol aeaf ar feddwl beirniadol pellach
Yn dilyn cwrs llwyddiannus yn ystod yr haf y llynedd, cyd-gynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a鈥檙 China University of Political Science and Law (CUPL) ysgol aeaf ar-lein ar feddwl beirniadol pellach. Cynlluniwyd y cwrs i annog myfyrwyr i brosesu a dadansoddi ffeithiau er mwyn dod i gasgliadau gwybodus, sy'n sgil hanfodol ar gyfer bywyd, nid proses ddysgu yn unig.
Cynlluniwyd a chyflwynwyd yr ysgol gaeaf gan Anthony Brooks rhwng 6-16 Ionawr 2023. Meddai Anthony:
'Nod y gyfres hon o naw dosbarth meddylwyr beirniadol ifanc CUPL oedd caffael nodweddion a sgiliau gwerthfawr sy'n hanfodol mewn sawl agwedd ar eu bywydau bob dydd a'u hastudiaethau academaidd. Bwriad y cwrs rhyngweithiol difyr hwn oedd annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn pynciau amrywiol megis dadansoddi cydrannau dadl, cydnabod sut mae hysbysebu yn ceisio trin pobl, dirnad sut y gall camsyniadau ddigwydd mewn dadleuon, sut i feddwl yn 鈥榞readigol鈥� a deall sut mae rhethreg yn gweithio a deall sut y gall astudiaeth o Shakespeare gyfuno'r holl sgiliau meddwl hyn. Mae canfyddiadau'r myfyrwyr i gyd wedi cael eu mireinio, a braf oedd gweld y fath graffter mewn cymaint o'u sylwadau yn ystod y sesiynau.'
Roedd yr adborth gan y myfyrwyr yn wych!
'Rwy'n meddwl bod yr ysgol aeaf ar-lein yn berffaith. Rwy鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 ysgol am roi鈥檙 cyfle hwn i ni gymryd rhan yn y sesiynau. Mwynheais bob gwers!'
'Roeddwn i'n gallu siarad 芒'r athro ym mhob dosbarth, ac roedd yr athro yn fy annog yn aml, a rhoddodd hynny lawer o hyder i mi siarad Saesneg a鈥檓 gwneud yn frwdfrydig i ymarfer siarad. Dysgodd yr ysgol meddwl beirniadol lawer o bethau i mi nad oeddwn yn eu gwybod o'r blaen.'
'Wrth fy modd gyda鈥檙 cwestiynau a'r atebion un-i-un yn y dosbarth gan eu bod wedi gwneud y cwrs yn haws i'w ddeall.'