Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Cyfarchion o Fangor! Rwyf mor falch o rannu adroddiadau ar y nifer o ffyrdd y mae ein cyn-fyfyrwyr wedi rhoi yn 么l i'r Brifysgol y mis hwn. Mae gallu tynnu ar eich cyflawniadau ac arbenigedd yn rhoi hwb enfawr i brofiad ein myfyrwyr yn y Brifysgol, a'u cyflogadwyedd. Mae bob amser yn wych croesawu cyn-fyfyrwyr yn 么l sy'n dal i deimlo cysylltiad cryf 芒 Phrifysgol Bangor ac sydd eisiau cefnogi ein myfyrwyr, ac rydym mor ddiolchgar i'r rhai sy'n gwirfoddoli i roi o'u hamser i ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu, cysylltwch 芒 ni yn alumni@bangor.ac.uk.
P'un a oeddech chi mewn hwyliau llawen yn y Ddawns Haf yn dathlu gyda'ch ffrindiau neu'n gwneud y gorau o allu ymlacio a mwynhau'r byd o鈥檆h cwmpas, rwy'n gobeithio bod gennych chi atgofion gwych o'ch dyddiau olaf yn y Brifysgol i'w trysori."
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Darlith Cyn-fyfyrwyr Nodedig
Rhoddodd Dr Rebecca Heaton (Coedwigaeth, 1993) ddarlith gyhoeddus ar "Will Business Solve the Environmental Crisis for Us?" fel rhan o'n Cyfres Darlithoedd Cyn-fyfyrwyr Nodedig y mis diwethaf.
Wedi ei benodi'n ddiweddar yn Gomisiynydd Coedwigaeth y Comisiwn Coedwigaeth, mae Rebecca yn arbenigwr mewn newid hinsawdd, cynaliadwyedd, a r么l defnydd tir wrth bontio at ddyfodol carbon isel. Yn ei ddarlith, trafododd Rebecca amgylchedd y blaned mewn perthynas 芒鈥檙 byd busnes. Diolch i Rebecca am sgwrs ddiddorol a oedd yn sicr wedi rhoi digon i ni gnoi cil arno.
Cyn-fyfyriwr yn rhannu ei arbenigedd gyda myfyrwyr Cyfryngau Rhyngwladol a Rheolaeth
Roedd yn bleser croesawu鈥檙 cyn-fyfyriwr Emyr Afan OBE (Cymraeg a Hanes, 1985) yn 么l i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i roi Dosbarth Meistr Gwadd i fyfyrwyr MSc sy鈥檔 astudio鈥檙 Cyfryngau Rhyngwladol a Rheolaeth.
Mae Positive Story PR Consultancy yn ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus busnes-i-fusnes arbenigol sy'n helpu cleientiaid ym maes peirianneg, technoleg ddiwydiannol a seilwaith i ennill busnes a buddsoddiad newydd trwy gysylltiadau cyhoeddus strategol. Mae Jane yn Ymarferydd Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig, a hefyd yn darparu hyfforddiant, gweithdai a chyrsiau sy'n dangos i dimau sut i adnabod newyddion, ymgysylltu 芒 newyddiadurwyr a defnyddio Cysylltiadau Cyhoeddus yn strategol i gefnogi twf busnes.
Rydym ni mor falch bod gwaith Jane wedi cael ei gydnabod gan wobrau yr Independent Impact 50. Da iawn Jane!
Partneriaethau Alumni a Myfyrwyr mewn Ymarfer: Cyfweliadau Ffug
Y mis diwethaf, rhoddodd cyn-fyfyrwyr Mark Rigby (Amaethyddiaeth, 1979) a Dr. Britta Taylor (Bioleg Canser, 2013) 鈥 sydd yn aelodau o Fwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor 鈥 i arwain sesiynau o gyfweliadau ffug i fyfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol.
Dros dri diwrnod, cafodd myfyrwyr israddedig ac 么l-raddedig y cyfle gwych i ddatblygu eu sgiliau cyfweliadau, gan efelychu senarios recriwtio go iawn. Yn dilyn hynny, derbyniodd y myfyrwyr adborth gan y cyfwelwyr profiadol, gan eu galluogi i fyfyrio ar eu perfformiad, adeiladu hyder, a datblygu eu sgiliau cyfathrebu proffesiynol ymhellach.
Dyma'r ail flwyddyn i Mark gefnogi'r fentr yma. Dywedodd Mark 鈥淩oedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr a oedd yn awyddus i ddysgu i helpu gwella'u siawns cyflogaeth ar 么l prifysgol....mewn nifer o achosion roedd yn anhygoel ac yn foddhaol iawn eu gweld yn tynnu eu hunain allan o'u cylchfa cysur, am yr hyn yr wyf yn si诺r y bydd yn fesur gwych i'w cadarnhaoledd personol a sut maen nhw'n gallu cyflwyno eu hunain yn well i gyflogwyr posibl鈥.
Gwnaeth y fenter gwella parodrwydd myfyrwyr ar gyfer prosesau recriwtio graddedigion a hefyd atgyfnerthu gwerth ymrwymiad cyn-fyfyrwyr drwy gefnogi myfyrwyr presennol. Diolch i Mark a Britta am gefnogi cyflogadwyedd ein myfyrwyr mewn ffordd mor ymarferol!
Cyn-fyfyriwr yn helpu'r Brifysgol i nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth
Ym mis Mawrth, dathlodd Prifysgol Bangor niwroamrywiaeth gyda rhaglen fywiog o weithgareddau a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth, annog dealltwriaeth, a darparu cefnogaeth ymarferol i fyfyrwyr a staff niwroamrywiol. Dan arweiniad Rhwydwaith Niwroamrywiaeth Staff Prifysgol Bangor, roedd y rhaglen wythnos o hyd yn gwahodd cymuned gyfan y Brifysgol i ddysgu mwy am niwroamrywiaeth, cysylltu ag eraill, ac archwilio ffyrdd o greu amgylchedd dysgu a gweithio mwy cynhwysol.
I ddechrau'r wythnos, arweiniodd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Barke (Seicoleg, 1984), sy鈥檔 Athro Seicoleg Datblygiad, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth yng King's College, Llundain, ddarlith o'r enw 鈥淲hat Neurodivergent People Can Bring to Science鈥. Mae Edmund yn seicolegydd datblygiadol sy'n astudio achosion, cwrs a chanlyniadau datblygiadol cyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol, ac mae'n un o wyddonwyr datblygiadol mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Wedi'i ysgogi gan ei brofiad plentyndod ei hun o niwroamrywiaeth (syndrom hypercinetig a dyslecsia cyfunol), mae wedi neilltuo ei yrfa ymchwil i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc, yn enwedig y rhai 芒 chyflyrau niwroddatblygiadol, megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).
Roedd sesiwn ddiddorol ac ysgogol Edmund yn trafod sut mae pobl niwroamrywiol yn cael effaith sylweddol ar ymchwil wyddonol. Roeddem yn ffodus iawn i gael arbenigwr mor enwog yn y maes yn rhoi o'i amser i gymryd rhan yn Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 鈥 diolch yn fawr iawn, Edmund!
Cyn-fyfyrwyr ROSTRA yn perfformio Twelfth Night Shakespeare mewn dim ond 48 awr
Rostra yw'r gymdeithas ddrama myfyrwyr amatur hynaf ym Mhrifysgol Bangor. Cynhelir aduniad Hen Warchodlu Rostra yn flynyddol i roi cyfle i gyn-fyfyrwyr ail-gysylltu 芒 hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd, gyda digonedd o hiraeth ac amser i fwynhau golygfeydd yn y cymysgedd.
Ers dros ddegawd, mae'r aduniad wedi cyd-daro 芒 Phroject Shakespeare 48 Awr, lle mae cyn-fyfyrwyr Rostra ac aelodau presennol y gymdeithas yn cael 48 awr yn unig i gastio, ymarfer a pherfformio drama Shakespeare - hynny oll i godi arian i elusennau sy'n agos at galonnau'r aelodau.
Darllenwch adroddiad y cyn-fyfyriwr Tim Cloke (Hanes Modern a Chyfoes, 2007) o'r penwythnos yma.
Gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau newydd ar gael i gyn-fyfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor wedi lansio Gwasanaeth Ewyllys Rheoledig unigryw i gyn-fyfyrwyr mewn partneriaeth 芒 .
Mae'r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth gyfeillgar ac arbenigol i helpu cyn-fyfyrwyr i gynllunio at y dyfodol gyda hyder ac mae ar gael am bris arbennig.
Cynigir y gwasanaeth gyda rhyddid dewis llwyr. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar gyn-fyfyrwyr i gynnwys Prifysgol Bangor yn eu hewyllys, ac mae'r gwasanaeth wedi ei gynllunio i wneud ysgrifennu ewyllys proffesiynol yn fwy hygyrch i aelodau cymuned Prifysgol Bangor.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r brifysgol wedi gweld mwy o gyn-fyfyrwyr a ffrindiau鈥檔 dewis鈥痗ofio Bangor yn eu hewyllysiau, cefnogaeth sy'n helpu cenedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr i elwa o gyfleoedd eithriadol ac sy鈥檔 galluogi Bangor i barhau i hyrwyddo ymchwil arloesol. Fodd bynnag, mae rhoddion o'r fath yn gwbl wirfoddol, ac mae'r gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau ar agor i bob cyn-fyfyriwr, beth bynnag eu dymuniadau.
Dwedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu: 鈥淩ydym yn falch o gynnig y gwasanaeth newydd hwn i鈥檔 cyn-fyfyrwyr, Mae cynllunio at y dyfodol yn benderfyniad personol, a鈥檔 blaenoriaeth yw sicrhau bod cyn-fyfyrwyr yn cael cefnogaeth arbenigol ddibynadwy. P'un a yw unigolion yn dewis cynnwys Prifysgol Bangor yn eu hewyllys ai peidio, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n dod 芒 thawelwch meddwl ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad gydol oes i'n cyn-fyfyrwyr.鈥
Gwahoddir cyn-fyfyrwyr i 鈥痑m y gwasanaeth a sut y gall eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus a hyderus am y dyfodol.
Dysgwch fwy am鈥effaith cymynrodd i Brifysgol Bangor
DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR
Cyfres Seminarau Seicoleg Celfyddydau John Shrigley
Mae鈥檙 Ysgol Seicoleg yn falch o gyhoeddi lansiad Cyfres Seminarau Seicoleg Celfyddydau John Shrigley; cyfres seminarau flynyddol a fydd yn amlygu ymchwil yn ymwneud 芒 Seicoleg Celf a phynciau cysylltiedig. Mae鈥檙 gyfres werthfawr hon wedi bod yn bosibl diolch i etifeddiaeth hael i鈥檙 Brifysgol gan gyn-fyfyriwr Seicoleg 1974 John Shrigley.
I ddechrau'r gyfres, byddwn yn cynnal darlith gyhoeddus ddydd Iau, Mai 28ain, 6-7yp yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrifysgol Bangor. Ein siaradwr cyntaf fydd Dr Rebecca Chamberlain o Brifysgol Goldsmiths Llundain. Mae ymchwil Dr Chamberlain yn canolbwyntio ar y seicoleg a鈥檙 niwrowyddoniaeth sydd ynghlwm 芒 chynhyrchu a chanfod celf weledol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y mecanweithiau y mae artistiaid yn caffael eu harbenigedd drwyddynt, a'r effaith y gall ymgysylltu 芒'r celfyddydau gweledol ei chael ar addysg ac iechyd meddwl.
Os hoffech fynychu'r digwyddiad, .
Cyngerdd "May the Fourth be with you"
Dydd Llun, 4 Mai 2026
6.00 - 8.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Ymunwch 芒 Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor ac Ensembleau Cymdeithas Gerdd Bangor ar gyfer cyngerdd arbennig Gwyl y Banc yn cynnwys cerddoriaeth o Star Wars 鈥 John Williams.
Mae'r casgliadau hyn yn rhan o Gasgliadau Prifysgol Bangor ac wedi cyflawni achrediad Amgueddfeydd, sef y safon i amgueddfeydd. Caiff y casgliad s诺oleg hefyd ei ddefnyddio at ddibenion addysgu ac mae'r casgliad rhyfeddol hwn yn parhau i ysbrydoli'r brifysgol a'r gymuned ehangach.
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i archwilio Amgueddfa Byd Natur y Brifysgol a dysgu mwy am y sbesimenau sydd ar ddangos. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr siarad 芒 myfyrwyr a fydd ar gael i ateb cwestiynau.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Er mwyn gwella profiad yr ymwelwyr a sicrhau bod yr arddangosfeydd yn weladwy, nifer penodol o bobl fydd yn cael bod yn bresennol bob awr. Bydd angen archebu slot ymlaen llaw. Archebwch slot fesul awr ar ein wefan os gwelwch yn dda. Dim ond am yr amser rydych wedi'i archebu y bydd eich tocyn yn ddilys, a bydd pob ymweliad yn gyfyngedig i 45 munud.
Ar Geinioga' - Drama Newydd am Syr Harry Reichel
Bydd Ar Geinioga鈥, drama un-dyn sy鈥檔 adrodd hanes sefydlu Prifysgol Bangor drwy lygaid Prifathro cyntaf y Brifysgol, Sir Harry Reichel, yn cael ei pherfformio yn Siambr y Cyngor mis nesaf, cyn teithio i leoliadau eraill.
Wedi ei gefnogi gan Gronfa Bangor, ysgrifennwyd Ar Geinioga鈥 gan y dramodydd Dr Manon Williams, alumna a darlithydd drama yn Ysgol y Gymraeg. Fe鈥檌 cynhyrchir gan Theatr Bara Caws gydag actor amryddawn Llion Williams, sydd hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol, yn portreadu Harry Reichel.
Daeth Reichel yn brifathro ar Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1884, ac yntau ond yn 27 oed. Bu yn y swydd hyd at 1927, ac yntau鈥檔 71 oed. Mae鈥檙 ddrama yn adrodd hanes cythryblus sefydlu鈥檙 brifysgol a sut llwyddodd Harry Reichel i dywys y brifysgol drwy sawl storm, gan sicrhau ei thwf a鈥檌 datblygiad.
Bydd perfformiadau yn cael ei gynnal am 7.30yh ar Ddydd Mawrth 26, Dydd Mercher 27 a Dydd Iau 28 Mai yn Siambr y Cyngor, Prif Adeilad y Brifysgol, gyda thocynnau yn costio 拢16.50 yr un.
i brynu tocynnau a chael mwy o wybodaeth am y sioe.
Newyddlen Ysgol Gwyddorau Eigion
Mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Eigion yn gweithio ar rifyn nesaf .
Os ydych chi鈥檔 gyn-fyfyriwr o鈥檙 Ysgol ac mae gennych eitemau newyddion i'w cynnwys, fel ddiweddariadau yngl欧n 芒鈥檆h gyrfa, adroddiadau o'ch cyflawniadau neu proffil byr am eich cwmni, anfonwch eich cyfraniadau drwy e-bost, gyda lluniau o ansawdd print os yn bosib, i alumni@bangor.ac.uk erbyn Dydd Gwener, 22 Mai.
Datblygwch eich sgiliau gyda Micro-gymwysterau Bangor
Os ydych yn awyddus i ddatblygu鈥檔 broffesiynol, bodloni gofynion CPD, neu ddysgu rhywbeth newydd, mae werth cael cip ar ficro-gymwysterau Bangor.
Mae鈥檙 cyrsiau byr yma yn cynnig credydau academaidd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau pynciol. Mae rhai yn cael eu cyflwyno ar-lein i weithio o amgylch bywydau prysur, tra bod eraill ar gael ar y campws neu mewn fformat hybrid. Caiff y mwyafrif eu haddysgu ar Lefel 7 (lefel Meistr), gan gynnig ffordd hyblyg o ail-ymgysylltu ag addysg uwch neu gymryd y cam cyntaf tuag at astudiaethau 么l-raddedig pellach.
I weld beth sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i鈥檔 tudalen micro-gymwysterau. Neu e-bostiwch cyrsiaubyr@bangor.ac.uk
Gwobr Ffocws Doethurol UKRI i lansio rhaglen sgiliau niwclear gwerth 拢24m
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn un o Wobrau Ffocws Doethurol mewn Sgiliau Niwclear gan UK Research and Innovation (UKRI), gan sicrhau cyllid i sefydlu y Rhaglen Cyflymu Datblygiad a Chymwysiadau Niwclear (PANDA).
Hwb o 拢25m i Borthladd Rhydd Ynys M么n
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad heddiw am fuddsoddiad o 拢25 miliwn i gyflymu datblygiad Porthladd Rhydd Ynys M么n, gan gynnwys cefnogaeth i gam mawr nesaf Parc Gwyddoniaeth y brifysgol (M SParc).
Canolfan Bedwyr yn cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Gogledd Creadigol
Cafodd y brifysgol ei chydnabod yng Ngwobrau Gogledd Creadigol eleni, digwyddiad blynyddol sy'n arddangos rhagoriaeth ar draws y sector creadigol a digidol yng ngogledd Cymru ac yn tynnu sylw at arloesi, cydweithio ac effaith gynyddol y diwydiannau creadigol ar draws y rhanbarth.