Mae Dr Rebecca Payne yn Uwch Ddarlithydd Clinigol er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar arloesi ym maes iechyd digidol, yr effaith y mae ymgynghori o bell yn ei gael ar ddiogelwch cleifion, ac ansawdd gofal iechyd mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. Cyn dod i Fangor, bu鈥檔 Gymrawd Ymarfer gyda鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Rhydychen. Yno bu鈥檔 gweithio ar broject 鈥楻emote by Default 2鈥� gan arwain ar faterion a oedd yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch.
Rebecca sy鈥檔 arwain y project REMEDY ym Mhrifysgol Bangor. Mae鈥檙 project yn edrych ar sut y gallai datrysiad technolegol ei gwneud hi鈥檔 haws i bobl gael gafael ar feddyginiaeth angenrheidiol ar frys ar 么l galw 111 a chael ymgynghoriad y tu allan i oriau.
remedy PROJECT
Cyn mentro i鈥檙 byd academaidd, bu Rebecca鈥檔 gweithio mewn nifer o uwch swyddi arwain ym maes meddygaeth gan gynnwys bod yn Gadeirydd RCGP Cymru, yn Gynghorydd Proffesiynol Cenedlaethol ar ofal cychwynnol brys gyda鈥檙 Comisiwn Ansawdd Gofal, ac yn Gyfarwyddwr Clinigol ar ofal cychwynnol heb ei drefnu gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Ar hyn o bryd, hi yw cadeirydd Pwyllgor Safonau Ansawdd NICE.
Mae Rebecca hefyd yn Ysgolhaig Clarendon-Reuben ym Mhrifysgol Rhydychen, yn un o Gymrodyr Churchill, ac yn Ymchwilydd Preswyl er Anrhydedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Gwyddonol EURIPA ac yn Olygydd Cyswllt ar y Cyfnodolyn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Pholisi Mae hi鈥檔 cynnal cinio misol ar y cyd 芒 rhai o鈥檌 chydweithwyr o Brifysgol Aarhus er mwyn dysgu am ofal digidol sylfaenol, gofal digidol cymunedol a gofal digidol brys Mae Rebecca yn cynnal sesiynau clinigol fel rhan o鈥檌 gwaith fel meddyg teulu o bell gyda GIG Orkney.