Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor
Gwenan Hine yw Ysgrifennydd y Brifysgol ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar lywodraethiant y Brifysgol, gan gynnwys darparu cyngor, cefnogaeth a throsolwg strategol i鈥檙 Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol ac Is-bwyllgorau鈥檙 Cyngor (Y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Y Pwyllgor Archwilio a Risg, Y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, Pwyllgor Materion y Gymraeg a鈥檙 Pwyllgor Pobl a Diwylliant)
Yn ogystal, mae Gwenan yn goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig, sy'n cynnwys yr Archifau a Chasgliadau鈥檙 Amgueddfa, Canolfan Bedwyr, y Swyddfa Weithredol, Llywodraethu a Risg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a Chelfyddydau Pontio ac Ymgysylltu Cymunedol. Mae Gwenan yn goruchwylio proses Graddau er Anrhydedd y Brifysgol, a'r Pwyllgor Enwebu Anrhydeddau Cenedlaethol.
Cynorthwyydd Gweithredol, Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk
John Jackson
Pennaeth Llywodraethu a Risg
John sy鈥檔 gyfrifol am fframwaith rheoli risg y Brifysgol a rheoli cofrestr risg gorfforaethol y Brifysgol mewn ymgynghoriad 芒'r Bwrdd Gweithredol. Mae hefyd yn rheoli'r cynllun archwilio mewnol mewn cysylltiad 芒'r archwilwyr mewnol, gan gydlynu'r holl gamau rheoli. Daw鈥檙 ddwy r么l at ei gilydd yn y Pwyllgor Risg Strategol a Phwyllgor Archwilio a Risg y Cyngor, y mae John yn ysgrifennydd iddynt. Mae John hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r broses gynllunio ar gyfer y Brifysgol, gan ddarparu cefnogaeth a chyngor mewn perthynas 芒 chynllunio strategol a busnes, a darparu cymeradwyaeth strategol ar gyfer rhaglenni newydd y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Ef hefyd sy鈥檔 gyfrifol am baratoi Cynllun Ffioedd a Mynediad blynyddol y Brifysgol. Mae John yn aelod o'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
Ingrid Pedersen
Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol, Anrhydeddau ac Ymgysylltu
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor
Mae Ingrid yn arwain portffolio Digwyddiadau Corfforaethol y Brifysgol, gan oruchwylio鈥檙 gwaith o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau proffil uchel a rheoli'r prosesau gradd er anrhydedd yn ogystal 芒 gweithdrefnau'r Brifysgol ar gyfer Anrhydeddau'r Brenin. Mae Ingrid yn gweithio'n agos gyda'r Curadur Casgliadau Celf ac Amgueddfaol a th卯m yr Archifau a Chasgliadau Arbennig i integreiddio deunyddiau artistig a hanesyddol i ddigwyddiadau a darlithoedd cyhoeddus, er mwyn gwella ymgysylltiad y cyhoedd 芒 chasgliadau'r Brifysgol. Ymunodd Ingrid 芒'r Brifysgol gyntaf yn 2009, gan weithio yn y Gwasanaethau Campws cyn symud i'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig yn 2023. Mae ganddi radd Meistr mewn Cerddoleg o La Sorbonne, Paris ac MBA mewn Busnes a Gweinyddiaeth.