Bydd Elan, sy鈥檔 18 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan, yn derbyn ysgoloriaeth gwerth 拢3,000 i astudio Astudiaethau Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae鈥檙 ysgoloriaeth yn cael ei dyfarnu鈥檔 flynyddol i gefnogi myfyriwr sy鈥檔 byw yng Ngwynedd ac sy鈥檔 dewis astudio 100% o鈥檌 gwrs gradd yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Elan:
鈥淒w i wedi eisiau bod yn athrawes ers o鈥檔 i鈥檔 hogan fach. Cefais fy nylanwadu gan fy mam gan ei bod hi鈥檔 athrawes, a thrwy hi, dw i wedi cael blas ar y gwahaniaeth y mae athro Cymraeg da yn gallu ei wneud i fywydau pobl ifanc.鈥�
鈥淒w i鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy nghwrs yn fuan, ac yn hynod o ddiolchgar am yr ysgoloriaeth. Bydd yr arian ychwanegol yn sicr o fod o fudd mawr wrth imi ddechrau ar fy mhennod newydd yn y brifysgol.鈥�
Mae鈥檙 ysgoloriaeth wedi ei sefydlu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg
鈥淎r ran y Coleg, hoffwn longyfarch Elan ar ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd eleni a dymuno'n dda iddi wrth iddi gychwyn ar ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
鈥淗offwn ddiolch hefyd i Gyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd. Mae'n bleser cydweithio 芒'r Cyngor i gefnogi myfyrwyr i barhau 芒'u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, ac i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol dwyieithog fydd yn cyfrannu at gymunedau a gweithluoedd Cymru.鈥�
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyngor Gwynedd:
鈥淟longyfarchiadau mawr i Elan Roberts ar sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, a phob dymuniad da iddi wrth iddi ddechrau ar ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
鈥淔el Cyngor, rydym yn hynod falch o gefnogi myfyrwyr o Wynedd sy鈥檔 dewis astudio a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn falch iawn o fedru cydweithio gyda鈥檙 Coleg Cymraeg ar y gwaith pwysig o hyrwyddo鈥檙 ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.鈥�
Ewch i am wybodaeth bellach ar sut i ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd 2027-28. Gellir defnyddio er mwyn gwirio pa gyrsiau sy鈥檔 gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth.