Cynhadledd Flynyddol fawreddog Wolpertinger 2024 yn Palermo, yr Eidal
Bu Rasha Alsakka, Athro Bancio a Chyllid yn yr Ysgol Fusnes, yn cynrychioli ein Hysgol yng Nghynhadledd Flynyddol fawreddog Wolpertinger 2024 yn Palermo, yr Eidal.
Mae Cynhadledd Wolpertinger wedi bod yn cael ei threfnu gan glwb Wolpertinger ers 1987. Eleni, croesawodd y gynhadledd academyddion, ymarferwyr, a llunwyr polisi blaenllaw, a bu trafodaethau yngl欧n ag ymchwil empirig a damcaniaethol amserol, materion polisi a datblygiadau cyfoes ym maes bancio a phynciau cysylltiedig eraill ym maes cyllid.
Cyflwynodd Rasha, sy'n arwain y gr诺p cynllunio ymchwil Risg Credyd o fewn y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) ym Mangor, bapur ymchwil newydd o'r enw 鈥�The Impact of Uncertainty on Monetary Policy Transmission -A Dynamic Structural Estimation of Heterogeneous Banks鈥�, a ysgrifennwyd ar y cyd 芒 Dr Laurence Jones (Prifysgol Bangor) a Dr Noemi Mantovan (Prifysgol Lerpwl).
Mae pandemig Covid-19, Brexit, y gwrthdaro rhwng Wcr谩in a Rwsia, a chyfraddau chwyddiant cynyddol wedi taro sectorau bancio gwledydd Ardal yr Ewro ar adeg pan fo diwygiadau rheoleiddiol newydd wedi newid y ffordd y maent yn gweithredu. Mae'r digwyddiadau alldarddol hyn wedi achosi ansicrwydd cynyddol ynghylch cyfeiriad y sector bancio yn y dyfodol ac amodau ariannol a macro-economaidd y gwledydd. Mae'r papur yn datblygu model Amcangyfrif Strwythurol Deinamig (DSE) newydd i archwilio effaith ansicrwydd economaidd newidiol ar awydd banciau i gymryd risg ac ar eu hymddygiad benthyca, a sut y maent yn cyfryngu trosglwyddiad polis茂au ariannol. Mae'n canolbwyntio ar fanciau yng ngwledydd Ardal yr Ewro dros y cyfnod 2013 i 2023, sy'n galluogi archwilio dylanwad polisi cyfradd llog negyddol (NIRP - Mehefin 2014-Gorffennaf 2021) Banc Canolog Ewrop, yn ogystal 芒'r codiadau diweddar mewn cyfraddau llog.
Mae dadansoddiad deinamig yn fwy addas ar gyfer disgrifio ymddygiad y systemau bancio cymhleth gan fod dynameg a dolenni adborth y banciau wedi'u cynnwys yn benodol yn ein model. Mae'r model yn caniat谩u dadorchuddio'r mecanweithiau sy'n sail i ymatebion banciau i ddigwyddiadau alldarddol yn ystod ansicrwydd cynyddol. Felly, gallwn arsylwi canlyniadau nifer o newidiadau mewn polisi ariannol a wneir gan un banc canolog, a weithredir ar yr un pryd ar draws nifer o wahanol wledydd yr Undeb Ewropeaidd gydag amodau economaidd amrywiol. Yr astudiaeth hon felly yw'r gyntaf i ganfod sut mae amodau macro-economaidd ar lefel gwlad a heterogenedd yn dylanwadu ar bolisi ariannol.
Un wedi ei amcangyfrif yw鈥檙 model, yn cyfateb llu o fomentau o'n set ddata i sicrhau bod y banciau'n ymddwyn mewn modd cyffelyb. Yna, cynhelir tair set o efelychiadau gwrthffeithiol, ac maent yn dangos y canlynol:
- Mae ansicrwydd cynyddol yn lliniaru effeithiau argyfwng wrth i fanciau fenthyca llai ac wrth iddynt fod 芒 chronfeydd wrth gefn a chyfalaf uwch.
- Mae mesurau tynhau ariannol confensiynol yn lleihau benthyca gan fanciau gan gynyddu proffidioldeb, tra bo llacio polisi ariannol o dan y polisi cyfradd llog negyddol yn rhoi hwb i fenthyca trwy wasgariadau is.
- Mae tynhau polis茂au yn lleihau benthyca yn ystod cyfnodau o ansicrwydd mawr oherwydd effeithiau鈥檙 farchnad gyfalaf, galw is am fenthyciadau, a sianel b诺er wannach yn y farchnad fenthyciadau, tra bod lleddfu polis茂au鈥檔 cynyddu鈥檙 ddarpariaeth benthyciadau.
Mae'r astudiaeth yn cyfrannu tystiolaeth newydd a phwysig am drosglwyddiad polis茂au ariannol, trwy ddangos sut mae disgwyliadau macro-economaidd banciau yn dylanwadu ar sianeli trosglwyddiad polis茂au ariannol. Mae gan ein canlyniadau oblygiadau pwysig i lunwyr polisi, rheoleiddwyr ariannol, y diwydiant bancio a bancwyr canolog.
Cafodd y papur groeso brwd iawn yng nghynhadledd Wolpertinger. Mae cyfranogiad Rasha wedi adlewyrchu'n dda ar Ysgol Busnes Bangor ac wedi cyfrannu'n ystyrlon at y corff ymchwil yn y maes hwn.
Hoffai Rasha a Laurence ddiolch i'r Academi Brydeinig am eu cefnogaeth ariannol.