Dr Linda Osti yn cyfrannu at cyfryngau rhyngwladol
Rhoddodd Dr Linda Osti sylwadau ar ddwy erthygl yn ddiweddar. Mae'r cyntaf o'r enw 'Cynnal a datblygu canolfannau trefol, sut i wneud eich hun yn ddeniadol' a gyhoeddwyd yn 'Economia e Innovazione' (Economi a Arloesedd) a'r ail 'Mae cwsmeriaid yn chwilio am brofiadau' a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Almaeneg hynaf yr Eidal 'Dolomiten'.
Rhannwch y dudalen hon
Yn ei chyfweliad, mae Linda Osti yn trafod 鈥渃yflwr iechyd鈥� presennol canolfannau trefol, gan ei ddisgrifio fel mater cymhleth sy鈥檔 cael ei ddylanwadu gan wahanol agweddau, megis amodau cymdeithasol, ffactorau amgylcheddol, a mynegiant diwylliannol.
Dywed Linda Osti bod rhai canolfannau hanesyddol wedi dod yn atyniadau twristiaeth eiconig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o ganolfannau trefol wedi colli eu hatyniad a'u hunaniaeth oherwydd sawl ffactor. Yn gyntaf, disodlwyd siopau annibynnol gan siopau cadwyn. Yna, mae siopau wedi symud o strydoedd canolog i ganolfannau siopa maestrefol, ac yn fwy diweddar, mae siopa ar-lein wedi ennill ei blwyf. Gyda diflaniad y gwead masnachol, mae'r gwead diwylliannol hefyd wedi erydu, gan arwain at ddinasoedd a threfi yn colli eu hunaniaeth.
Mae hi'n nodi bod siopau, bwytai, bariau a thafarndai, a sefydlir gan ac ar gyfer y gymuned leol yn hytrach na thwristiaid yn unig, yn chwarae rhan arwyddocaol mewn gwarchod, trosglwyddo, ac esblygu hunaniaeth tref. Fodd bynnag, pan fydd y fasnach adwerthu a gwasanaethau arlwyo yn darparu ar gyfer twristiaid yn unig, mae'n arwain at golli dilysrwydd a hunaniaeth. Mae i hunaniaeth gymdeithasol ran hanfodol wrth feithrin ymdeimlad o berthyn a hyrwyddo balchder a chydlyniad cymdeithasol ymhlith dinasyddion. At hynny, gall hunaniaeth gymdeithasol gref fod yn ffactor allweddol wrth ddenu twristiaid a buddsoddwyr i ddinas, gan hyrwyddo twristiaeth ac amlygrwydd rhyngwladol. Felly, caiff cylch rhinweddol ei ffurfio pan gaiff siopau a gwasanaethau eu cynnal "gan drigolion, i drigolion," tra caiff cylch dieflig ei greu pan neilltuir lle ar gyfer busnesau sy'n canolbwyntio ar dwristiaid yn unig. Mae Linda Osti yn pwysleisio ymhellach y peryglon a ddaw yn sgil boneddigeiddio oherwydd twristiaeth, a all gael effaith negyddol ar y gymuned leol ac erydu bwrlwm a nodweddion unigryw lle.