Mae'n rhaid i chi dorri ychydig o wyau i wneud omled: A yw'r system budd-daliadau wedi torri y tu hwnt i'w hatgyweirio?
Mae Ysgol Busnes Bangor bellach wedi rhyddhau eu podlediad Ebrill 鈥楶enny for your Thoughs鈥�. Rhoddodd pandemig Covid-19 bwysau digynsail ar y system nawdd cymdeithasol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig ac o ganlyniad, mae鈥檙 ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld heriau digynsail. Mae podlediad y mis hwn yn archwilio un o鈥檙 effeithiau ar system les y Deyrnas Unedig gyda Darlithydd mewn Cyfrifeg Ysgol Busnes Bangor, Dr Sara Closs-Davies. Trafodir y systemau lles a 'gweithles' a sut mae cyfrifyddu yn effeithio ar galedi ariannol derbynwyr lles. Mae Dr Closs-Davies yn cyflwyno ei barn arbenigol ynghylch a yw system y Deyrnas Unedig wedi'i thorri y tu hwnt i'w hatgyweirio. A yw鈥檙 system bresennol yn gweithio, neu a oes rhaid torri ychydig mwy o wyau i鈥檞 gwella?
Mae Dr Sara Closs-Davies yn Ddarlithydd mewn Cyfrifeg yn Ysgol Busnes Bangor. Mae hi hefyd yn aelod cymrawd o'r Association of Chartered and Certified Accountants (ACCA) ac yn aelod o'r Chartered Institute of Taxation (CIOT). Mae Sara yn ymchwilydd sydd wedi cyhoeddi鈥檔 rhyngwladol, mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys cyfrifeg, trethiant a pholisi cyhoeddus, a鈥檜 goblygiadau ar unigolion, cymdeithas ac anghydraddoldeb cymdeithasol.
Gallwch gefnogi cyfres podlediadau Ysgol Busnes Bangor drwy danysgrifio drwy eich darparwr podlediadau arferol, ei hoffi a鈥檌 rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.