Rhoi鈥檙 gorau iddi yn dawel: Ffenomen newydd neu ddim ond hen win mewn poteli newydd?
Mae'r haf yn aml yn gyfle i weithwyr ymlacio ychydig wrth iddynt gymryd eu gwyliau blynyddol. Ond beth os daw鈥檙 agwedd hon o ddirwyn gwaith i ben, neu roi'r gorau iddi鈥檔 dawel (鈥榪uiet quitting鈥�) fel y cyfeiriwyd ato鈥檔 ddiweddar, yn 鈥榥ormal newydd鈥� iddynt? Mae rhoi鈥檙 gorau iddi鈥檔 dawel wedi dod yn boblogaidd trwy amrywiol lwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol megis LinkedIn, Tiktok, Facebook ac Instagram. Ar yr olwg gyntaf, mae rhoi鈥檙 gorau iddi鈥檔 dawel yn swnio braidd yn negyddol, gan awgrymu o bosibl bod gweithwyr yn dirwyn eu gwaith i ben ac yn colli diddordeb yn eu tasgau dyddiol, ac o bosibl hyd yn oed yn ymddieithrio oddi wrth eu cydweithwyr a鈥檜 cyflogwyr. Ond a yw rhoi鈥檙 gorau iddi鈥檔 dawel yn 'ffenomen newydd' neu ddim ond yn enw newydd ar rywbeth rydyn ni wedi bod yn siarad amdano eisoes; hen win mewn poteli newydd fel maen nhw'n ei ddweud? Mae Dr Clair Doloriet, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn Ysgol Busnes Bangor, yn ymuno 芒鈥檙 podlediad 鈥楶enny for your Thoughts鈥� y mis hwn i daflu goleuni ar beth yw hyn ac a yw mor negyddol a niweidiol ag y mae鈥檔 swnio.
Mae Dr Clair Doloriert yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Busnes Bangor ac yn arbenigo mewn Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Adnoddau Dynol. Hi yw Pennaeth Israddedigion Blwyddyn 1 ac mae hefyd yn eistedd ar fwrdd Cymru y Sefydliad Rheolaeth Siartredig: un o bartneriaid allweddol yr Ysgol Busnes. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ymgysylltu 芒 gweithwyr, awtoethnograffeg a rhannu gwybodaeth.