Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor rhwng 13:30 a 18:00 ddydd Llun 2 Tachwedd 2026.
Caiff y digwyddiad ei gynnal gan y Religion Media Centre, sy鈥檔 sefydliad annibynnol, a hynny mewn cydweithrediad 芒鈥檙 maes pwnc Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, a Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.
Ar adeg pan y gall straeon am grefydd a chred gyffwrdd 芒 chredoau dwfn a thensiynau cymdeithasol dwys, bydd y digwyddiad 鈥楥reating Connections: Religion and the Media in Wales鈥� yn dod 芒 newyddiadurwyr, cynrychiolwyr ffydd, pobl ifanc ac academyddion at ei gilydd yn yr un ystafell. Y nod yw meithrin dealltwriaeth o sut mae'r straeon hyn yn cael eu hadrodd, gan roi lle i gwestiynau anodd ynghyd 芒 thynnu sylw at y gwaith beunyddiol, y cysylltiadau cymunedol a鈥檙 straeon cadarnhaol sy鈥檔 cael llai o sylw.
Ymhlith y cyfranwyr mae鈥檙 Gwir Barchedig Ddoethur Manon Ceridwen James, a benodwyd yn ddiweddar yn Esgob benywaidd cyntaf Bangor; a'r Parch. Glyn Wise, sy'n adnabyddus i lawer o鈥檙 rhaglen Big Brother ac sydd bellach yn weinidog gyda鈥檙 Eglwys yng Nghymru. Bydd Alison Gow, cyn-olygydd y Daily Post ac aelod o fwrdd Sefydliad Annibynnol Safonau鈥檙 Wasg, yn ymuno 芒 phanel a fydd yn archwilio sut mae鈥檙 cyfryngau鈥檔 adlewyrchu crefydd yng Nghymru.
Bydd academyddion o Brifysgol Bangor, sef yr Athro Nathan Abrams, Dr Joshua Andrews a Dr Gareth Evans-Jones, yn archwilio tirwedd grefyddol gyfoes Cymru ac yn archwilio'r r么l hanfodol y mae addysg yn ei chwarae wrth lunio dealltwriaeth ynghylch ffydd, cred a hunaniaeth. Bydd yr Athro Ruth McElroy yn cyfrannu at drafodaeth banel yngl欧n 芒 safbwyntiau golygyddol a chyhoeddi, tra bydd amrywiaeth o sesiynau鈥檔 ystyried sut mae straeon am ffydd a chrefydd yn cael eu cynrychioli, eu cyfathrebu a鈥檜 cynnwys ar draws llwyfannau amrywiol y cyfryngau. Bydd myfyrwyr presennol Prifysgol Bangor ym maes Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ac ym maes y Cyfryngau hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan ymgysylltu 芒鈥檙 siaradwyr, cyfrannu at drafodaethau a rhannu eu safbwyntiau eu hunain ar y groesffordd rhwng ffydd, diwylliant, addysg a'r cyfryngau yn y gymdeithas gyfoes.
Meddai鈥檙 Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
鈥淒ylai prifysgolion fod yn fannau lle gall pobl ofyn cwestiynau anodd a gwrando鈥檔 ofalus ar ei gilydd. Mae'r digwyddiad hwn yn dod 芒鈥檙 rhai y mae eu straeon yn cael eu hadrodd a'r rhai sy'n adrodd y straeon hynny at ei gilydd. Rwy'n gobeithio y bydd y sgyrsiau a geir yn helpu i ddyfnhau dealltwriaeth ynghylch crefydd a chred yng Nghymru ac yn arwain at roi mwy o sylw i straeon ein cymunedau ni.鈥�
Dywed Cadeirydd Gweithredol y Religion Media Centre, Michael Wakelin: 鈥淢ae鈥檙 Religion Media Centre yn falch o gael gweithio ochr yn ochr ag academyddion ym Mhrifysgol Bangor i gynllunio a chyflwyno鈥檙 digwyddiad hwn. Rydym bob amser yn awyddus i weithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol i ddod 芒 phobl ynghyd gan sicrhau bod ein digwyddiadau'n adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rydym wedi gwerthfawrogi'n arbennig y brwdfrydedd a'r gefnogaeth a gawsom gan gydweithwyr ym Mangor.鈥�
Diben y Religion Media Centre yw helpu i godi lefelau llythrennedd a dealltwriaeth grefyddol rhwng cymunedau ffydd a'r cyfryngau. Rydym yn aml yn clywed gan grwpiau ffydd eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu camddeall, eu camliwio neu eu hanwybyddu. Gall meithrin perthnasoedd lleol cryfach helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bwlch hwnnw, gan gryfhau dealltwriaeth a gwella cydlyniant cymdeithasol.鈥�
Cynhelir y digwyddiad 鈥楥reating Connections鈥� rhwng 13:30 a 18:00 ddydd Llun 2 Tachwedd 2026, yn Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG. . Cysylltwch ag info@religionmediacentre.org.uk neu 0203 970 0709, neu ncrew@bangor.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.