搁丑补驳补谤飞别颈苍颈补诲听
Cyflwynodd yr Athro Lucy Kuncheva ynghyd 芒鈥檙 myfyrwyr PhD Frank Williams a Samuel Hennessey (a ariennir gan ganolfan hyfforddiant doethurol Cyfrifiadura Uwch a Dysgu Peirianyddol Deallusrwydd Artiffisial) eu hymchwil ar adnabod anifeiliaid ym mhumed Cynhadledd Ryngwladol yr IEEE ar Brosesu Delweddau, Rhaglenni a Systemau (IPAS 2022)
Cynhaliwyd pumed Cynhadledd Ryngwladol yr IEEE ar Brosesu Delweddau, Rhaglenni a Systemau (IPAS 2022) rhwng 5 a 7 Rhagfyr 2022, ac fe'i cynhaliwyd yn Genova, yr Eidal. Bu i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Burgos, Sbaen, roi dau gyflwyniad o'u hymchwil.
Adnabod, ail-adnabod ac olrhain anifeiliaid
Teitl y papur cyntaf oedd 鈥淎 鈥� gan Ludmila Kuncheva, Francis Williams, Samuel Hennessey, a Juan Rodriguez.
Roedd y papur yn canolbwyntio ar her rhwystrau mewn fideos. Mae recordiadau fideo o anifeiliaid yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer dadansoddi, ond oherwydd lleoliad y camera, a sut mae'r anifeiliaid yn symud, mae pysgod a gwrthrychau eraill yn cael eu cuddio. Mae hyn yn gwneud dosbarthiad yn heriol.
Dywedodd Sammuel 鈥淚 sefydlu meincnod, yr ydym yn ei ddefnyddio i adnabod anifeiliaid unigol, fe wnaethom hyfforddi a phrofi dau ddeg chwech o ddulliau dosbarthu. Gwnaethom hyn ar draws y pum fideo. Rydym hefyd yn adrodd ar ganlyniadau o鈥檙 radd flaenaf mewn dulliau dysgu ar gyfer canfod ac olrhain gwrthrychau.鈥�
Canfod gwrthrychau ar gyfer adnabod anifeiliaid
Teitl yr ail bapur oedd 鈥溾�� gan Francis Williams, Ludmila I Kuncheva, Juan Rodriguez, a Samuel Hennessey. Edrychodd y papur ar sut y gellir ail-bwrpasu modelau sy'n gweithio'n dda i adnabod pobl a cherbydau ar gyfer adnabod anifeiliaid.
Gorffennodd Lucy trwy ddweud 鈥淓in nod yw cyfrannu at anodi anifeiliaid yn awtomatig ar fideo, fel y gellir cael labeli a blychau terfyn mewn amser real, heb fawr o gysylltiad dynol. Os hoffai pobl ymchwilio ymhellach, yna edrychwch ar ein , neu cysylltwch 芒 ni. Gallwch ymweld 芒'n tudalennau gwe prifysgol neu personol am fanylion cyswllt.鈥�
Golygydd: J. C. Roberts