Mae Prifysgol Bangor yn arwain un o wyth project a ariennir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig i chwyldroi ein gallu i deithio ymhellach i鈥檙 gofod 鈥� a hyd yn oed teithio i鈥檙 blaned Mawrth.
Mewn erthygl gan y BBC, ', Siaradodd Yr Athro Simon Middleburgh am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud gan y t卯m.
Bydd y gwaith ymchwil yn gwneud teithio i鈥檙 gofod yn fwy diogel ac effeithlon, gan ddefnyddio technolegau rheoli o bell a defnyddio cyflenwadau y gellir dod o hyd iddynt yn y gofod i gynnal gofodwyr a llongau gofod.
Bydd gwaith ymchwil Prifysgol Bangor, dan arweiniad Dr Phylis Makurunje, yn defnyddio technegau gweithgynhyrchu adiol i greu tanwyddau niwclear ar gyfer gyriant gofod. Mae systemau tanwydd niwclear sefydlog o'r fath yn hanfodol i alluogi teithiau i ddyfnder y gofod.
Bydd y prosesau newydd sy鈥檔 cael eu datblygu gan wyddonwyr o Sefydliad Dyfodol Niwclear Bangor yn galluogi datblygu a gweithgynhyrchu amrywiol gyfluniadau a dyluniadau tanwydd na ellir eu gwireddu鈥檔 hawdd trwy ddulliau gweithgynhyrchu confensiynol.
Meddai鈥檙 Athro mewn Deunyddiau Niwclear a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, yr Athro Simon Middleburgh: 鈥淏ydd y project hwn yn harneisio鈥檙 arbenigedd sydd gennym ym maes tanwydd niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ac yn ei gymhwyso i un o鈥檙 cymwysiadau mwyaf cyffrous posibl, sef archwilio鈥檙 gofod.
鈥淎r y lleuad ac ar gyrff planedol sydd 芒 dydd a nos, ni allwn bellach ddibynnu ar yr Haul am ynni ac felly mae鈥檔 rhaid i ni ddylunio systemau fel y micro-adweithydd bach er mwyn cynnal bywyd.
鈥淵nni niwclear yw鈥檙 unig ffordd sydd gennym ar hyn o bryd i ddarparu鈥檙 p诺er ar gyfer y cyfnod hwnnw o deithio i鈥檙 gofod. Rhaid i鈥檙 tanwydd fod yn hynod gadarn a goroesi grymoedd lansio ac yna bod yn ddibynadwy am flynyddoedd lawer.
鈥淢ae gwyddonwyr a pheirianwyr rhagorol yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 her hon, ond bydd angen mwy dros y blynyddoedd i ddod a gobeithiwn y bydd y rhaglen Beirianneg newydd yn y brifysgol yn darparu cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr sy鈥檔 dymuno gweithio yn y meysydd cyffrous hyn o ymchwil a datblygu.