T卯m ymchwil wedi'i ddewis i raglen ICURe Explore Innovate UK
Mae t卯m ymchwil o'r Brifysgol, dan arweiniad yr Athro Michael Butler o Ysgol Fusnes Albert Gubay, wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn rhaglen ICURe Explore, Innovate UK. Bwriad y rhaglen yw helpu鈥檙 t卯m i archwilio potensial masnachol eu hymchwil.
Mae'r rhaglen yn darparu hyd at 拢35,000 mewn cyllid er mwyn canfod cwsmeriaid, dilysu marchnadoedd ac archwilio llwybrau ar gyfer masnacheiddio, gan gynnwys llwybrau megis sefydlu cwmn茂au deillio neu drwyddedu. Mae鈥檙 rhaglen yn cael ei chyflwyno gan SETsquared, sef partneriaeth ar gyfer meithrin busnesau prifysgolion, a gaiff ei harwain gan Brifysgol Southampton. Ymhlith y prifysgolion sy鈥檔 rhan o鈥檙 bartneriaeth mae Prifysgol
Caerdydd.
Aelodau鈥檙 t卯m ym Mangor yw鈥檙 Athro Michael Butler fel Arweinydd Entrepreneuriaeth, Dr Gabriela Butler fel Uwch Ymchwilydd, a Dona Padan, sef Swyddog Masnacheiddio'r Brifysgol, sy鈥檔 cyfrannu ar y project fel Cynghorydd Busnes a Swyddog Trosglwyddo Technoleg.
Mae'r t卯m wedi datblygu Set Offer Parodrwydd i Dderbyn Newid a llwyfan diagnostig digidol. Maent wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau i ddeall pa mor barod ydyn nhw i newid cyn mynd ati i ymrwymo adnoddau sylweddol.
Bydd sefydliadau鈥檔 buddsoddi biliynau mewn rhaglenni newid sefydliadol, ond mae ymchwil yn awgrymu bod rhwng 60 a 70 y cant o fentrau newid yn methu 芒 chyflawni鈥檙 canlyniadau y bwriadwyd eu gwireddu. Gall methiant arwain at leihad mewn cynhyrchiant, oedi wrth roi鈥檙 rhaglenni newid ar waith, trosiant staff a gwastraff buddsoddiad sylweddol.
Nod y Set Offer Parodrwydd i Dderbyn Newid yw mynd i'r afael 芒'r her hon drwy ddarparu dulliau diagnostig digidol sy鈥檔 fforddiadwy ac sy鈥檔 gallu ymdopi 芒 sefydliadau o bob maint. Bydd y dulliau diagnostig hyn yn nodi rhwystrau posibl cyn mynd ati i roi newid ar waith. Gallai hynny gynnwys mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, twf sefydliadol, gweithio hybrid, buddsoddiad mawr mewn isadeiledd, mentrau sero net a mentrau amgylcheddol,
cymdeithasol a llywodraethu, a thrawsnewidiadau digidol neu sefydliadol ehangach.
Cafodd y fethodoleg ei datblygu gan yr Athro Michael Butler dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd ac mae wedi'i dilysu mewn mwy na 50 o sefydliadau.
Dywedodd yr Athro Michael Butler: 鈥淩ydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael ein dewis i fod yn rhan o鈥檙 rhaglen ICURe Explore. Mae hyn yn rhoi cyfle cyffrous i ni ddefnyddio鈥檙 fethodoleg Parodrwydd i Dderbyn Newid y tu allan i'r amgylchedd ymchwil a phrofi ei photensial yn y farchnad.
鈥淢ae鈥檙 Set Offer a鈥檙 llwyfan cefnogi wrthi鈥檔 cael eu gorffen ar hyn o bryd, ac rydyn ni鈥檔 awyddus i weithio gyda sefydliadau sy鈥檔 fodlon rhoi cynnig arnyn nhw a rhoi adborth i ni. Bydd hyn yn rhan bwysig o鈥檔 taith ni fel rhan o鈥檙 rhaglen ICURe Explore a bydd yn ein helpu ni i ddatblygu mwy ar y Set Offer, yn benodol wrth ystyried beth ydy anghenion sefydliadau.鈥�
Trwy gyfrwng y rhaglen, bydd y t卯m yn mynd ati i ganfod cwsmeriaid a dilysu marchnadoedd, gan ymgysylltu 芒 sefydliadau i ddeall yn well pa heriau maen nhw鈥檔 eu hwynebu, profi鈥檙 Set Offer ac archwilio cymwysiadau masnachol posibl.