Ysgol Fusnes Albert Gubay yn Sicrhau Canlyniadau Rhagorol yn Arolwg PTES
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi sicrhau canlyniadau rhagorol yn Arolwg Profiad 脭l-raddedig a Addysgir (PTES) 2025, gan atgyfnerthu ei henw da fel canolfan flaenllaw ar gyfer addysg 么l-raddedig. Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn graddio o鈥檙 Ysgol, gan elwa ar ei hymrwymiad i ragoriaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr.
Yr unig arolwg ar draws y DU sy鈥檔 casglu barn myfyrwyr 么l-raddedig a addysgir am eu profiad dysgu ac addysgu yw PTES. Eleni, sicrhaodd yr Ysgol y 6ed safle yn gyffredinol yn y categori Busnes a Rheolaeth (allan o 83 o sefydliadau), gyda sg么r bodlonrwydd eithriadol o 94%.
Dywedodd yr Athro Owain ap Gwilym, Dirprwy Bennaeth Ysgol Fusnes Albert Gubay:
鈥淢ae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi sicrhau鈥檙 6ed safle yn gyffredinol yn Arolwg Profiad 脭l-raddedig a Addysgir cenedlaethol ar gyfer Busnes a Rheolaeth (allan o 83 o sefydliadau). Mae hwn yn ganlyniad rhagorol i鈥檞 ddathlu yn ystod ein wythnos graddio 么l-raddedig. Arweiniodd ymatebion y myfyrwyr at sg么r bodlonrwydd cyffredinol o 94%. Mae hyn yn adlewyrchu ymdrech enfawr gan ein staff i ddarparu profiad dysgu rhagorol i鈥檔 myfyrwyr ac rydym yn falch iawn o鈥檙 cyflawniad hwn. Bydd yr Ysgol yn parhau i ymdrechu i gynnal y rhagoriaeth hon fel bod myfyrwyr yn y dyfodol yn parhau i fwynhau un o鈥檙 profiadau gorau yn y DU ar gyfer astudiaethau 么l-raddedig ym maes busnes a rheolaeth.鈥
Mae鈥檙 canlyniadau hyn yn tystio i ymrwymiad yr Ysgol i ddarparu addysgu o ansawdd uchel a chefnogaeth gynhwysfawr, gan sicrhau profiad eithriadol i fyfyrwyr 么l-raddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Darganfyddwch fwy am ein rhaglenni 么l-raddedig yma.