Cynhelir y project newydd, Mannau Glas Mwy Diogel Cymru, dan arweiniad Triathlon Cymru a Nofio Cymru mewn partneriaeth 芒 Dr Jessica Kevill a Ms Kate Herridge o Brifysgol Bangor, a'r Athro Leon Barron a Dr Helena Rapp-Wright o Goleg Imperial Llundain, dros gyfnod yr haf yn 2026 a 2027. Bydd yn monitro ansawdd y llynnoedd, dociau, cronfeydd d诺r a鈥檙 dyfroedd arfordirol a ddefnyddir i chwaraeon mewn 10 safle ledled Cymru.
Cyllidir y gwaith gan Admiral trwy gronfa gynaliadwyedd chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
Defnyddir dyfeisiau samplu goddefol newydd a fydd yn cael eu gwisgo gan nofwyr i fesur pa gemegau a phathogenau y mae pobl yn debygol o ddod i gysylltiad 芒 hwy wrth nofio mewn d诺r.
Meddai Dr Jessica Kevill, Swyddog Ymchwil 脭l-ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor: ''Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddeall pa bathogenau a chemegau y mae nofwyr yn dod i gysylltiad 芒 nhw mewn dyfroedd agored. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio i ragweld risg a darparu gwybodaeth am ansawdd d诺r, gan helpu nofwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yngl欧n 芒 phryd a ble i fynd i mewn i'r d诺r a'r ffordd orau o ddiogelu eu hiechyd.鈥
Pam yn awr?
Mae rheolau ansawdd d诺r cyfredol yn golygu bod rhaid profi am rai bacteria mewn safleoedd d诺r ymdrochi rhwng mis Mai a mis Medi, ond nid oes rhaid profi am firysau na halogyddion cemegol. Bydd yr ymchwil yn pennu faint o bobl allai fod yn s芒l ar 么l nofio a pha bethau sy'n gwneud pobl yn s芒l. Gyda straeon yn y newyddion yn aml am bobl yn mynd yn s芒l ar 么l nofio mewn dyfroedd agored, bydd yr astudiaeth hon yn darparu data lle mae ei angen fwyaf.
Tynnwyd sylw at y bwlch rhwng profion safonol a鈥檙 gwir risg yn nigwyddiad Triathlon y Byd 2023 yn Sunderland, pan adroddodd 88 o athletwyr am salwch gastroberfeddol. Canfu dadansoddiad gan yr UK Health Security Agency norofirws, pathogen nad yw wedi ei gynnwys mewn profion d诺r ymdrochi arferol, mewn 60% o'r samplau a brofwyd.
Sut mae鈥檔 gweithio
Bydd cyfranogwyr yn gwisgo dyfeisiau samplu bach, llusgiad isel yn ystod sesiynau hyfforddi a digwyddiadau. Mae'r rhain yn cofnodi鈥檔 union y pethau y mae athletwyr yn dod i gysylltiad 芒 hwy wrth nofio yn y d诺r, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar fesuriadau a gymerir ar ymyl y d诺r.
Bydd dadansoddiad labordy yn profi am bathogenau firaol gan gynnwys norofirws, yn ogystal 芒 pheryglon bacteriol a chemegol. Caiff y canlyniadau eu croesgyfeirio 芒 data iechyd dienw a gesglir trwy restrau gwirio symptomau a gwblheir gan gyfranogwyr cyn ac ar 么l sesiynau.
Prifysgol Bangor fydd yn arwain y dadansoddiad microbioleg a firoleg. Coleg Imperial Llundain fydd yn asesu鈥檙 cysylltiad 芒 chemegau.
Beth fydd yn digwydd gyda鈥檙 canlyniadau?
Defnyddir y data i ddatblygu a dilysu asesiadau risg cemegol a microbaidd meintiol ymhellach a ddefnyddir i ragweld risg d诺r halogedig i iechyd y cyhoedd. Rhennir y canfyddiadau hefyd gyda chyrff rheoleiddio a chwmn茂au d诺r, gyda'r bwriad i nodi mannau problemus o ran llygredd a bod yn sail i benderfyniadau yngl欧n 芒 rheoli digwyddiadau a gwelliannau amgylcheddol.
Bydd ap arolwg ansawdd d诺r ac iechyd, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu gyda 拢6,000 o gyllid ar wah芒n a ddyfarnwyd i Brifysgol Bangor, yn sicrhau bod crynodeb o鈥檙 canlyniadau ar gael i athletwyr, hyfforddwyr a threfnwyr digwyddiadau.
Bydd yr holl ddata ar gael i'w ddefnyddio gan gyrff llywodraethu chwaraeon eraill yng Nghymru a thu hwnt.
Meddai Dr Rapp Wright, Cymrawd MRC yng Ngholeg Imperial Llundain a fydd yn cynnal y dadansoddiad cemegol, 鈥Bydd y dyfeisiau samplu newydd hyn yn rhoi darlun mwy cywir inni o gysylltiad athletwyr unigol 芒鈥檙 cemegau hyn. Fel un o'r astudiaethau cyntaf o'i fath, bydd yn dweud llawer wrthym am gysylltiad 芒 chemegau yn ystod digwyddiadau chwaraeon mewn d诺r, gan gynnwys cynhyrchion fferyllol, 'cemegau am byth', plaladdwyr a sylweddau eraill."
Dywedodd Fergus Feeney, Prif Swyddog Gweithredol Nofio Cymru: "Mae sicrhau diogelwch a lles pawb sy'n mwynhau amgylcheddau d诺r agored anhygoel Cymru wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli cam mawr ymlaen o ran deall yr amodau byd go iawn y mae ein nofwyr yn eu hwynebu. Drwy weithio gydag arbenigwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Imperial Llundain, ochr yn ochr 芒'n partneriaid yn Nhriathlon Cymru, gallwn gasglu'r data o ansawdd uchel sydd ei angen i amddiffyn athletwyr yn well, llywio safonau'r dyfodol, a chefnogi mannau glas mwy diogel ledled y wlad. Rydym yn falch o fod yn rhan o gydweithrediad sy'n rhoi iechyd athletwyr yn gyntaf a fydd yn helpu i lunio dyfodol chwaraeon d诺r agored yng Nghymru."
Catherine Roberts, Triathlon Cymru CEO: 鈥淢ae鈥檔 fraint i Triathlon Cymru fod yn gweithio ochr yn ochr 芒 dau sefydliad academaidd rhagorol ar fater sydd o bwys mawr i athletwyr ledled Cymru. Mae iechyd ein dyfroedd yn effeithio鈥檔 uniongyrchol ar lesiant a hyder ein cymuned, ac mae鈥檙 cydweithrediad hwn yn gam pwysig tuag at ddiogelu鈥檙 amgylcheddau lle rydym yn hyfforddi, yn cystadlu ac yn ffynnu.鈥