Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i adfer un o'r rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn ecolegol yn y m么r o gwmpas Cymru, sef wystrys brodorol.
Mae wystrys brodorol yn fwy na dim ond bwyd crand. Maen nhw鈥檔 beirianwyr ecosystemau sy鈥檔 ffurfio riffiau cymhleth sy鈥檔 cynnal bioamrywiaeth y m么r, yn amddiffyn ein harfordiroedd ac yn gwella ansawdd y d诺r. Trwy hidlo mae wystrys yn bwydo. Mae hynny鈥檔 ffordd hollol naturiol o lanhau鈥檙 d诺r o amgylch yr arfordir trwy gael gwared ar ronynnau a phathogenau ac mae hynny鈥檔 fuddiol i fywyd gwyllt ac i bobl sy鈥檔 treulio鈥檜 amser hamdden yn y m么r fel ei gilydd. Mae鈥檙 riffiau hyn yn ddalfeydd carbon, maen nhw鈥檔 helpu i wasgaru ynni鈥檙 tonnau ac maen nhw鈥檔 darparu meithrinfeydd i nifer fawr o rywogaethau morol. Yn fyr, mae wystrys yn un o gonglfeini moroedd iach a gwydn.
Ac eto, mae'r rhywogaeth eiconig hon o dan fygythiad. Ar un adeg roedd wystrys yn niferus ac yn arwyddocaol yn ddiwylliannol ledled y Deyrnas Unedig, ond mae stociau gwyllt wedi dirywio gan 95% ers canol y 19eg ganrif a hynny oherwydd gor-ecsbloetio, clefydau, llygredd a gaeafau caled. Heddiw, mae wystrys brodorol wedi'u rhestru fel rhywogaeth y dylid rhoi blaenoriaeth iddi fel rhan o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig, ac mewn sawl ardal, maen nhw wedi diflannu i bob pwrpas.
Dyma pam fod y project hwn mor bwysig. Drwy gynhyrchu 200,000 o wystrys brodorol ifanc er mwyn eu rhyddhau yn Nyfrffordd Aberdaugleddau yn 2027, ein nod yw hybu poblogaethau a chynorthwyo adferiad y rhywogaeth hanfodol hon. Ers 2021, mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi datblygu'r dechnoleg a'r arbenigedd i gynhyrchu wystrys brodorol mewn modd dibynadwy, gan ddefnyddio stoc magu o Aberdaugleddau a gofalu amdanynt yn ein deorfa ymchwil i bysgod cregyn. Hyd yn hyn, rydym wedi llwyddo i gynhyrchu a rhyddhau tua 250,000 o wystrys ifanc, ac mae arolygon diweddar yn dangos eu bod nhw鈥檔 ffynnu.
Nid dim ond mater o achub rhywogaeth yw hyn; mae adfer wystrys brodorol hefyd yn ymwneud ag ailadeiladu ecosystemau, amddiffyn arfordiroedd, a chreu moroedd glanach ac iachach i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r project hwn yn alwad i weithredu i bawb sy'n gwerthfawrogi ein hamgylchedd morol. Mae mynd ati i adfer yr wystrys yn fuddsoddiad mewn bioamrywiaeth, yng ngwytnwch yr hinsawdd ac yn nhreftadaeth ddiwylliannol ein cymunedau arfordirol.