Astudiaeth gyntaf y byd ar ddwyieithrwydd mewn syndrom Rett ym Mhrifysgol Bangor
Mae ymchwil Cymreig newydd yn datgelu bod pobl sydd 芒 syndrom Rett yn gallu datblygu sgiliau mewn mwy nag un iaith dros amser.
Mae t卯m ymchwil Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cynnal astudiaeth gyntaf y byd yn dogfennu datblygiad iaith ddwyieithog mewn unigolyn sydd 芒 syndrom Rett, sy鈥檔 gyflwr genetig prin. Mae'r astudiaeth, sydd wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Clinical Linguistics and Phonetics, yn dangos y gall unigolyn sydd 芒 syndrom Rett ddatblygu sgiliau iaith yn ddwyieithog.
Mae syndrom Rett yn gyflwr niwroddatblygiadol, sy'n effeithio ar ddatblygiad corfforol ac ieithyddol. Yn gyffredinol, mae pobl sydd 芒 syndrom Rett yn dangos datblygiad nodweddiadol yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd ac yna鈥檔 colli sgiliau, fel y gallu i gerdded a siarad. Mae gan rai unigolion fath o syndrom Rett sy'n caniat谩u iddynt ddatblygu ychydig o leferydd, sef yr amrywiad cadw lleferydd.
Defnyddiodd ymchwilwyr o'r Labordy Dwyieithrwydd Plant astudiaeth achos hydredol i ddogfennu datblygiad iaith dwyieithog Saesneg-Cymraeg gyda'r amrywiad syndrom Rett cadw lleferydd. Fe wnaeth y cyfranogwr wella ei dealltwriaeth a鈥檌 chynhyrchiad yn Gymraeg a Saesneg dros gyfnod o dair mlynedd.
Dwedodd Rebecca Day, sy鈥檔 Ymchwilydd PhD mewn Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol yr astudiaeth: 鈥楻ydyn wedi clywed gan deuluoedd dwyieithog eu bod wedi cael eu hannog gan weithwyr proffesiynol i siarad Saesneg yn unig 芒鈥檜 plant sydd 芒 syndrom Rett oherwydd ofn y byddai dwy iaith yn rhy ddryslyd. Mae鈥檙 astudiaeth hon yn gam cyntaf cyffrous i ddangos i deuluoedd nad yw dwyieithrwydd yn niweidiol i ddatblygiad iaith pobl sydd 芒 syndrom Rett.鈥�
Mae鈥檙 astudiaeth newydd hon yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd mewn unigolion sydd 芒 chyflyrau niwroddatblygiadol. Nid yw astudiaethau blaenorol, gan gynnwys y rhai a gynhelwyd ym Mhrifysgol Bangor, wedi canfod unrhyw dystiolaeth o effaith negyddol dwyieithrwydd mewn cyflyrau datblygiadol eraill, gan gynnwys syndrom Down ac awtistiaeth.
Eglura Dr Eirini Sanoudaki, Darllenydd mewn Ieithyddiaeth a Phennaeth y Labordy Dwyieithrwydd Plant: 鈥楪all plant sydd 芒 chyflyrau datblygiadol ddysgu dwy iaith a dylid cefnogi teuluoedd os ydyn nhw鈥檔 dymuno magu eu plant yn ddwyieithog. Mae鈥檔 bleser cyflwyno鈥檙 canfyddiadau cadarnhaol hyn ar ddwyieithrwydd mewn syndrom Rett. Mae鈥檔 gam arloesol pwysig i hawliau plant mewn amgylchedd ddwyieithog yng Nghymru ac yn fyd-eang.鈥�
Ariannwyd yr astudiaeth gan Ysgol Graddedigion y Gymraeg y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a鈥檌 chynnal yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, Prifysgol Bangor. Mae'r cyhoeddiad ar gael . Mae erthygl ategol yn The Conversation ar gael .